Eich sgiliau ar gyfer cynnal sgwrs effeithiol

Pryd bynnag yr ydych yn ceisio newid ymddygiad cleifion, mae angen i ymarferwyr iechyd meddwl egluro’r buddion a’r enillion i’w cleifion a chymharu hynny gyda’r anfanteision, fel y gellir eu hasesu’n ddiriaethol. Er enghraifft, amlinellu buddion allweddol lleihau’r tebygolrwydd y bydd y claf neu aelodau’r teulu yn cael eu taro’n wael. O’i gymharu ag anfanteision peidio â chael brechiad, megis colli gwaith neu waeth.

Mae’r ffordd y cyflwynir dewisiadau ac opsiynau i unigolion yn effeithio ar y ffordd maent yn gwneud penderfyniadau.

EGLURO yw’r gyfrinach, nid DWEUD. 

Yn hytrach na ymdaro gyda'r claf pan fydd yn betrusgar neu hyd yn oed yn gwrthod y cynnig o frechu, bydd defnyddio dull cyfweld cymhellol yn cynyddu'r tebygolrwydd o'r claf yn ailystyried ei safiad.

Yr allwedd i wneud yr uchod yn effeithiol yw cael sgwrs sy'n benagored, gyda gwrando anfeirniadol ac mewn arddull gyfathrebu gadarnhaol. CYFWELD YSGOGIADOL yw hynny.

Elfen bwysicaf unrhyw Gyfweliad Ysgogiadol/Ymyrraeth Gryno yw

‘Cael caniatâd’.’

Codwch y mater neu edrychwch/gwrandewch am ‘ysgogiadau,’ fydd yn eich caniatáu i fanteisio ar gyfleoedd oportiwnistaidd i drafod y brechlyn ffliw, dyna yw’r allwedd yn ystod eich apwyntiadau. Cadwch at gwestiynau agored fydd yn eich caniatáu i greu trafodaeth.

Cofiwch mai’r ffordd y darperir y wybodaeth, nid pa wybodaeth a roddir, yw’r allwedd ar gyfer creu deilliant cadarnhaol.

Os yw’n anodd i chi ymgysylltu â’ch claf ynglŷn â’r testun, gall defnyddio dulliau cadarnhau fod yn fanteisiol e.e. ’ gallaf ddweud eich bod yn brysur a bod raid i chi fynd adref, ond diolch am ddod i’ch apwyntiad heddiw...…’

‘Diolch am fynychu eich apwyntiad, ymddiheuriadau am orfod disgwyl, ac rwyf yn gwerthfawrogi bod raid i chi fynd…ond alla i drafod…’

‘Gallaf ddweud nad ydych yn sicr am y brechlyn, ac nid chi yw’r unig un, ond hoffwn roi ychydig o wybodaeth i chi a gobeithio cael gwared o’r pryder neu’r mythau yr ydych wedi eu clywed efallai.’

‘Rwyf wir yn gwerthfawrogi eich onestrwydd.’

‘Diolch am rannu eich pryderon’

Mae dulliau cadarnhau yn ffyrdd o gydnabod cryfderau, ansawdd, ymdrech a gallu. Maent yn werthfawrogiad o beth yw safbwyntiau/rhwystrau’r unigolyn ac maent yn dangos eich bod yn ystyriol ac â gwir gonsyrn am iechyd cleifion.’s health.

Os ydych yn datblygu perthynas gyda’r claf a bod y cwestiynau yn darparu trafodaeth effeithiol ac ymgysylltiol, manteisiwch a y cyfle i roi cyngor ac ychydig o wybodaeth gefndirol/ymchwil diweddar perthnasol ynglŷn â’r brechlyn. Sicrhewch eich bod yn defnyddio sgil allweddol yma ac elfen bwysig o wrando myfyriol MI/BI.

Yma dylech ddefnyddio geiriau sydd yn pwysleisio eich bod yn gwrando... ‘Felly beth yr ydych yn ei ddweud yw...eich bod wedi clywed am?’. ‘Alla i wirio mai’r hyn yr ydych yn ei ddweud yw?’, 'Dywedodd fod...?’

Mae gwrando’n dda a myfyrio ar beth yr ydych wedi ei glywed yn helpu i egluro gwybodaeth ac mae hynny yn arwain at fwy o archwilio.

Y darn olaf o’r jigso Mi/BI yw crynhoi. Mae crynhoi yn gyfle i chi ddweud wrth y claf beth ydych wedi ei glywed yn ystod yr apwyntiad.

‘Rwyf yn cofio eich bod wedi dweud wrtha i, ac roeddwn eisiau cadarnhau hynny gyda chi fel bod popeth yn ffitio’

‘Felly dyma beth ydych wedi ei ddweud wrtha i hyd yma...’

‘Alla i jest sicrhau fy mod wedi cael popeth?’

Mae crynhoi yn eich galluogi i gwblhau’r apwyntiad yn effeithiol. Mae’n offeryn pwysig i’w ddefnyddio, beth bynnag fo testun y drafodaeth yn eich apwyntiadau. Bydd yn rhoi cyfle i chi a’ch claf sicrhau nad ydych wedi colli dim ac wedi cynnal trafodaeth gynhwysfawr a chadarnhaol.

Strategaeth adael

O ystyried yr holl wybodaeth yr ydym yn ei darparu ynghylch sut mae creu a datblygu trafodaethau cadarnhaol a chydweithredol gyda’ch cleifion, mae yr un mor bwysig cael strategaeth adael.

Mae strategaeth adael yn eich galluogi chi neu eich cleient i gloi’r drafodaeth ar unrhyw adeg. Mae hwn yn arf defnyddiol iawn, ac ni ddylid ystyried ei fod yn negyddol. Mae diweddu trafodaeth gyda’ch claf yr oeddech y gobeithio fyddai’n gallu gweld eich safbwynt ac yn deall y rhesymau dros frechu, ond y methwyd â gwneud hynny, yn anodd wrth gwrs, a byddai’n ymddangos bod hynny yn ddeilliant negyddol.

Os ydych wedi cael trafodaeth pan fu i chi ddilyn y technegau MI/BI, rydych wedi cynnal trafodaeth sydd wedi bod yn gydweithredol ac wedi canolbwyntio ar y claf ond na arweiniodd at frechu’n llwyddiannus, mae strategaeth adael yn hanfodol oherwydd bydd hynny yn cloi’r drafodaeth yn effeithiol a phroffesiynol.

Mae gadael ‘drws agored’ yn caniatáu cyfle i’r drafodaeth fod yn un ymgysylltiol a chadarnhaol o hyd beth bynnag fo’r deilliant.

Gall newid ymddygiad a dylanwadu ar newid ym marn/safbwynt unigolyn fod yn anodd iawn, yn arbennig y achos cleifion sydd efallai wedi cael profiadau negyddol neu wedi clywed camwybodaeth a phryderon am y brechlyn ffliw.

Mae’r strategaeth adael yn arf defnyddiol o ran y posibilrwydd o barhau i gefnogi’r claf i dderbyn brechlyn. Efallai bod angen iddynt ddarllen mwy neu efallai bod amser wedi bod yn wirioneddol brin ar yr adeg penodol hwnnw, ond gallwch adael y drafodaeth ar nodyn cadarnhaol.

“Rydych wedi sôn nad ydych wedi meddwl am y brechlyn cymaint â hynny, ond fe ddywedoch y byddech yn dymuno cael mwy o wybodaeth. Petawn yn gadael y drafodaeth yn y fan yna, ewch â’r daflen yma gyda chi a dod yn ôl atom pan fyddwch wedi cael mwy o amser i feddwl?”

“Rwyf yn gwybod eich bod wedi dweud bod amser yn brin heddiw, ond y byddech yn dymuno cael eich brechu yn dilyn ein sgwrs heddiw, ac mae hynny yn ardderchog. Gallaf eich bwcio i mewn nawr ar gyfer.... Felly byddwn yn trefnu hynny ar gyfer yr wythnos nesaf i chi.”

CAEL CANIATÂD

Mae cael caniatâd o’r dechrau yn helpu i gleifion deimlo’n fwy ymlaciol, yn rhoi statws cydradd iddynt yn yr ymgynghoriad a’r cyfle i ddweud na.

  • “A yw’n iawn i ni siarad am...?’
  • “A ydych yn meindio os wyf yn gofyn...?”
  • “A fyddai’n iawn trafod...?”

CODI’R MATER

Mae cyngor a roddir gan weithwyr iechyd proffesiynol yn bwysig ond mae’r ffordd y caiff ei “roi” yr un mor hanfodol. Bydd gofyn cwestiynau agored yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ac yn caniatáu trafodaeth.

  • “Beth sydd wedi eich ysgogi i fod eisiau’r brechlyn?”
  • “Mae’n swnio fel bod gennych ddiddordeb mewn clywed mwy. “Sut yr ydych yn teimlo ynglŷn â hynny?”
  • “Fe sonioch eich bod yn gofalu am berthynas i chi, beth am siarad am effaith ffliw arnyn nhw?”

Neu’n fwy uniongyrchol;

  • “Sut yr ydych yn teimlo am y brechlyn heddiw?”
  • “Beth ydych yn ei wybod am y brechlyn?”
  • “Pa bryderon sydd gennych?”

CWESTIYNAU AGORED

Mae cwestiynau caeedig yn arwain at atebion ie-na, bydd cwestiynau agored yn rhoi mwy o wybodaeth i chi.

-“Sut yr ydych yn teimlo am y brechlyn ffliw?”

-“Pa bryderon sydd gennych am y brechlyn?”

- “Am ba resymau ydych yn cael y brechlyn heddiw?”

GWRANDO’N DDA

Mae gwrando’n dda a myfyrio ar beth yr ydych wedi ei glywed yn helpu i egluro gwybodaeth ac mae hynny yn arwain at fwy o archwilio/

  • “Felly beth ydych yn ei ddweud yw...”
  • “Alla i wirio...?”

MYNEGI EMPATHI

Nid cydymdeimlad, tosturi, cynhesrwydd, teimlad o dderbyn neu adnabod yw empathi.

Empathi yw dangos gwir ddiddordeb ac ymdrech i weld y byd drwy lygad rhywun arall. Mae’n ymwneud ag archwilio safbwyntiau a syniadau ynghylch ymddygiad gan fyfyrio’n briodol.

  • “Rwyf yn deall bod gennych rai pryderon ynglŷn â’r brechlyn...”
  • “Mae’n ymddangos i mi nad ydych wedi’ch darbwyllo ynghylch a ddylech gael y brechlyn...”

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau