Mesurau ymarfer da
Yn seiliedig ar dystiolaeth, mae argymhellion ar gyfer timau brechu ac imiwneiddio a staff ar gyfer cynyddu’r niferoedd sydd yn cael y brechlyn ffliw yn perthyn i’r categorïau canlynol;
ARWEINYDDIAETH
- Arweiniad effeithiol
- Cyfrifoldebau clir ac unigolion penodol ar gyfer pob rhan o’r llwybr brechu ar draws y system gofal iechyd.
- Staff cadarnhaol ac ysgogol sydd wedi cael eu brechu eu hunain
TREFNIANT
- Rhaglenni brechu wedi eu trefnu’n effeithiol a chynhwysfawr gyda chefnogaeth systemau TG cydnerth
- Archebu stociau brechlyn yn seiliedig ar lefelau targed disgwyliedig yn hytrach na niferoedd y flwyddyn flaenorol.
CLINIGAU
- Cynnig brechu mewn amrywiaeth o sefydliadau yn cynnwys clinigau penodol, ymweliadau cleifion yn ôl yr angen, ymweliadau preswyl, clinigau symudol ac apwyntiadau oportiwnistaidd
- Sicrhau bod clinigau yn cael eu hysbysu mewn da bryd, gyda digon o lefydd a’u bod yn groesawgar, yn deulu gyfeillgar ac nad ydynt wedi eu gor fwcio.
TG
- Cofnodion data electronig lleol, wedi eu cysylltu i gronfeydd data cenedlaethol
- Glanhau data yn rheolaidd er mwyn uno cofnodion addyblygwyd ac adnabod cofnodion anghyflawn.
- Defnyddio rhaglenni chwilio IT cenedlaethol a addaswyd, neu systemau mewnol er mwyn adnabod cleifion cymwys
HYFFORDDIANT
- Hyfforddi staff ynghylch rhoi gwybodaeth, cofnodi data a defnyddio cofnodion electronig yn ogystal â chynnal rhaglenni brechu
GWYBODAETH I GLEIFION A GWAHODDIADAI I FRECHU
- Gwahoddiadau personol i frechu a rhoi brechlynnau mewn modd sydd yn ystyried dealltwriaeth pobl, beth maent yn ei ffafrio (yn cynnwys iaith) a’u gallu i gael mynediad i glinigau
- Gwybodaeth i gleifion sydd wedi ei chynllunio ar gyfer cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r rhaglen, egluro’r sail resymegol, y risgiau sydd yn gysylltiedig â’r salwch a’r angen personol am frechlyn, yn briodol ar gyfer pob lefel o ddealltwriaeth cleifion.
- Mae atgoffa dros y ffôn yn fwy effeithiol na llythyrau; mae atgoffa mynych yn fwy effeithiol; adroddir bod atgoffa drwy negeseuon testun yn effeithiol ymysg rhai grwpiau, er enghraifft grwpiau oedran iau.
CYFATHREBU
- Argymell ac atgoffa am yr angen am y brechlyn ffliw mewn modd gyson a chadarnhaol gan weithwyr iechyd proffesiynol wrth gysylltu bob amser â grwpiau perthnasol
- Cymysgedd o gyfathrebiadau cyffredinol i’r boblogaeth ac i unigolion
- Rhaglenni cyfathrebu torfol wedi eu dylunio’n broffesiynol
- Defnyddio ‘hyrwyddwyr’ credadwy y gellir ymddiried ynddynt
- Agwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at frechu ymysg staff gofal iechyd
- Neges gyson ar bob lefel, a staff rheng flaen yn ymwybodol o’r holl gyfathrebiadau
MONITRO AC ADBORTH AR GYFER GWEITHREDU
- Monitro amser real ac adborth rheolaidd ac amserol o wybodaeth i reolwyr a staff rheng flaen, yn ystod y rhaglen, sydd yn galluogi i gamau unioni gael eu cymryd
- Cynnwys monitro brechlyn ffliw yn y broses ehangach o fonitro iechyd (er enghraifft, ddim yn cael ei ystyried ar ei ben ei hun)
- Cynnwys data imiwneiddio mewn asesiadau o angen ac archwiliadau ecwiti
DILYNIANT RHEOLAIDD A CHAMAU UNIONI YN YSTOD Y RHAGLEN
- Mynd ar drywydd peidio mynychu ac archwilio’r achosion fel y gellir deall niferoedd isel mewn grwpiau penodol a bod brechu neu raglenni diweddaru yn cael eu targedu’n unol â hynny
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.