Rydych yn gofyn y cwestiwn

  • Rydych yn ymwybodol o bwysigrwydd y brechlyn ffliw
  • Rydych yn gofyn y cwestiwn holl bwysig ac nid yw pethau’n mynd fel y bwriadwyd

 A ydych wedi cael y math yma o sgwrs?

Chi: Alla i ofyn Sarah, a ydych wedi cael eich brechlyn ffliw eleni?

Claf: Naddo, wedi’r cyfan dim ond ffliw ydw ef.

Sgwrs ar ben? I ble allwch fynd nesaf?

Pan fyddwch yn gofyn y cwestiwn am y brechlyn ffliw, rydych yn debygol o dderbyn un o bedwar math o ymatebion;

  

 

Pan fo claf yn derbyn argymhelliad i gael brechiad, pwysleisiwch y gostyngiad o ran risg.

 

Os bydd gan y claf gynlluniau i gael brechlyn yn rhywle arall (drwy’r gwaith, er enghraifft)  holwch pryd a ble maent yn bwriadu cael eu brechu ac atgyfnerthu eu cynllun.

OND...beth am pan fo claf yn GWRTHOD argymhelliad i frechu?

Os bydd claf yn amharod neu’n ansicr o ran cael eu brechu, byd angen i chi osgoi;

  • Ceisio gorlwytho’r claf gyda gwybodaeth, a ‘dadlwytho data’
  • Dweud wrthynt beth ddylent ei wneud. Nid ydynt eisiau’r ‘stori’n llawn’ ac mae hynny yn awgrymu mai chi yw’r unig un sydd yn ymwybodol o’r stori yn llawn ac nad ydyn nhw!
  • Ceisio perswadio’r claf. Mae agor y drws i’w rhesymau ond yn atgyfnerthu eu hamharodrwydd - pob tro maent yn ei ddweud ar lafar, mae hynny yn atgyfnerthu eu negyddiaeth.

Ond mae yna ffordd arall...


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau