Astudiaeth Achos

Mae Ann yn 37 ac yn mynd i weld ei meddyg teulu i siarad risg canser y fron. Yn ddiweddar mae chwaer Ann sydd yn byw yn Yr Alban wedi cael ei diagnosio gyda chanser y fron, ac mae’n disgwyl am lawdriniaeth. Mae Ann yn teimlo’n drist ac yn poeni y gallai wynebu risg. Beth ydych yn ei wneud i Ann?

I ddechrau bydd angen i chi ddelio â’i hemosiynau. Bydd angen i chi gael llawer iawn o wybodaeth gan Anna er mwyn ateb ei chwestiynau ac mae’n bwysig bod y wybodaeth hon yn gywir.


Os bydd yn briodol yn ystod yr ymgynghoriad yma, bydd angen i chi ofyn am hanes teuluol gradd un a dau (yn cynnwys yr oedran mewn pan gafwyd unrhyw ddiagnosis). Os nad yw'n briodol gallwch ofyn i Ann ddod yn ôl, ar ôl iddi siarad ag aelodau ei theulu er mwyn cael y wybodaeth gywir.

Mae’n debyg y byddai’n briodol ei chyfeirio at wybodaeth i gleifion NICE

 

Mae Ann yn dychwelyd ac wedi dod â’r wybodaeth gyda hi. Mae ganddi ddwy chwaer (32 a 39) a brawd (42), roedd ei chwaer yn 39 oed yn cael diagnosis ac ni effeithiwyd ar ei chwaer arall na’i brawd. Diagnoswyd ei mam gyda canser y fron yn 42 oed a bu farw pan oedd yn 46, mae ei thad yn dal yn fyw yn 73 oed a chafodd ddiagnosis o ganser y prostad yn 67 oed. Roedd gan ei thad un chwaer a fu farw, ac ni chafodd blant. Roedd ei mam yn un o 4 chwaer, ac mae’r chwiorydd sydd yn dal yn fyw yn 65 a 67 oed yn iach gyda dim PMH arwyddocaol. Bu farw trydydd chwaer arall ar ochr y fam yn 63 oed ar ôl cael diagnosis o ganser ofaraidd yn 61 oed. Mae gan frawd Ann ddau o blant, bachgen 18 oed a merch 14 oed. Mae gan chware Ann, sydd â chanser, ddau o fechgyn 11 a 12 oed, ac mae gan ei chwaer na effeithiwyd arni eneth 8 oed. Mae gan Ann ei hun dair merch 11, 13 a 15 oed. Ni effeithiwyd ar y genhedlaeth yma o’r teulu. Allwch chi lunio siart achau y teulu ac a yw Ann yn bodloni’r meini prawf ar gyfer atgyfeirio at Wasanaeth Geneteg Canser Cymru?

Mae Ann yn gymwys i’w hatgyfeirio

Mae Ann yn mynychu’r Gwasanaeth Geneteg Canser a rhoddir y wybodaeth ganlynol iddi mewn perthynas â risg:- mae ganddi risg o 15% o fod yn gariwr ac mae’n perthyn i’r categori risg cymedrol. Mae’n dychwelyd at ei meddyg teulu ac mae'n dymuno cymryd Tamocsiffen er mwyn lleihau’r risg o ddatblygu canser y fron. Mae’n bryderus ynglŷn â’r sgil effeithiau posibl. Fel ei meddyg teulu, beth fyddech yn ei drafod?

Bydd Ann eisoes wedi derbyn cwnsela gan y Gwasanaeth Geneteg Canser. Bydd wedi cael llythyr, fydd wedi ei gopïo i chi fydd yn amlinellu’r trafodaethau. Byddai’r llythyr hwn yn fan cychwyn da ar gyfer yr ymgynghoriad, oherwydd dylai’r opsiynau o ran triniaethau gael eu nodi ynddo.

Yn ôl canllawiau NICE, mae’n gymwys am brofion genetig, ond ar hyn o bryd nid yw hynny wedi ei ariannu yng Nghymru. Byddai rhoi profion genetig i’w chwaer yr effeithir arni yn fwy buddiol i’r holl deulu.

Os bydd Ann yn penderfynu cymryd Tamocsiffen, dylech darfod y ffaith bod NICE yn ei gymeradwyo ond nad yw’n drwyddedig. Gallech siarad am y sefyllfa yn UDA ble defnyddiwyd SERM yn rheolaidd at y diben yma. Dylech fanylu ar y risgiau, sef risg uwch o ganser endometriol, DVT, PE a CVA. Hefyd mae yna ychydig mwy o risg o ddatblygu cataract hefyd. Dylid trafod proffil sgil effeithiau yn cynnwys symptomau menoposaidd. Efallai y bydd angen i chi drafod dulliau atal cenhedlu ac ysmygu (fel sy’n briodol).
Os penderfynir rhagnodi dylid manylu ar yr arwyddion a’r symptomau sydd yn gysylltiedig â’r risgiau. Mae cwrs y driniaeth yn para 5 mlynedd a dylid trafod hynny gydag Ann a chofnodi hynny er mwyn galluogi i’r rhagnodiad gael ei derfynu ar yr adeg priodol. 

A os yna unrhyw oblygiadau yn eich practis?

Bydd hynny yn amlwg yn dibynnu ar bolisi’r practis ar gyfer rhagnodi anhrwyddedig. Ymdrinnir a hynny yn Good practice in prescribing and managing medicines and devices (2013) GMC.

Gallai fod yn fuddiol mynd â’r wybodaeth sydd yn gynwysedig yn  yr adnodd ar-lein yma  i gyfarfod practis er mwyn codi ymwybyddiaeth a thrafod y goblygiadau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau