Hanes teuluol

 

Gyda risg gydol oes o tua 12%, bydd gan nifer o deuluoedd o leiaf un merch y mae canser y fron wedi effeithio arni. Mae’r canllawiau NICE yn disgrifio’r broses y dylid ei dilyn mewn gofal sylfaenol:-

  • Peidiwch â mynd ati i chwilio am bobl sydd â hanes teuluol o ganser y fron
  • Hanes teuluol gradd un a dau ar gyfer y rhai sydd yn cyflwyno pryderon
  • Os yw’n glinigol berthnasol, gofynnwch am hanes teuluol yn achos rhai dros 35 oed sydd yn cymryd OCP cyfun neu sydd yn ystyried HRT.
  • Dylai hanes teuluol gradd dau gynnwys perthnasau ar ochr y dad a’r fam
  • Ar gyfer penderfyniadau atgyfeirio, byddwch mor gywir â phosibl ynghylch:-

Oedran diagnosis
Lleoliadau tiwmor
Canserau lluosog mewn unigolyn (yn cynnwys yn y ddwy fron)
Llinach Iddewig (5-10 gwaith yn fwy tebygol o gario mwtaniad BRCA)

Mae NICE hefyd yn trafod y wybodaeth ddylid ei rhoi i bob claf sydd yn cyflwyno pryderon:-

  • Cynghori i ddychwelyd i drafod unrhyw oblygiadau os bydd newid mewn hanes teuluol neu bod symptomau yn datblygu yn y fron.
  • Gwybodaeth ysgrifenedig safonol i bawb sydd yn cynnwys:-

-Gwybodaeth am risg mewn perthynas â lefel poblogaeth a lefel risg cysylltiedig â hanes teuluol, yn cynnwys diffiniad o hanes teuluol. 
-Y neges y gallai eu risg newid os bydd eu hanes teuluol yn newid.
-Gwybodaeth am ymwybyddiaeth mewn perthynas â’r fron. 
-Cyngor ar ffordd o fyw mewn perthynas â risg canser y fron, yn cynnwys gwybodaeth am:

  • HRT a dulliau atal cenhedlu drwy’r geg
  • ffordd o fyw yn cynnwys diet, alcohol etc.
  • bwydo o’r fron, maint y teulu ac amser

-Manylion cyswllt y rhai sydd yn darparu cymorth a gwybodaeth, yn cynnwys grwpiau cymorth lleol a chenedlaethol. 
-Dylai pobl gael eu hysbysu cyn eu apwyntiadau y gallent ddod ag aelod teulu/ffrind gyda nhw i’r apwyntiadau. 
-Manylion am unrhyw dreialon neu astudiaethau allai fod yn briodol.

Mae’r wybodaeth ysgrifenedig yma yn cael ei drafod yn llawn yng nghyhoeddiad NICE “Familial Breast Cancer, information for the public

Dylai meddygon teulu yng Nghymru fod yn ymwybodol bod canllawiau NICE yn argymell sgrinio MRI ar gyfer grwpiau oedran iau, nid yw hynny ar gael yng Nghymru.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau