Llwybr atgyfeirio
Mae Gwasanaeth Geneteg Canser Cymru yn rhag-sgrinio atgyfeiriadau er mwyn sicrhau y bodlonir y meini prawf atgyfeirio. Os na fodlonir y meini prawf pan dderbynnir yr atgyfeiriad gwreiddiol, anfonir llythyr oddi wrth y genetegydd ymgynghorol at y meddyg teulu yn egluro’r rhesymau pam nad yw’r atgyfeiriad yn bodloni’r gofynion, a rhyddheir y claf o’r gwasanaeth heb iddo gael ei weld. Os bodlonir y meini prawf neu mae’n ymddangos y’u bodlonir:-
- Anfonir holiadur hanes teuluol at y claf, er mwyn caffael hanes teuluol a gwybodaeth waelodlin.
- (bydd yr atgyfeiriad yn mynd rhagddo dim ond os dychwelir yr holiadur)
- Pan fo angen, bydd yr hanes teuluol yn cael ei egluro a’i gadarnhau.
Cynhelir asesiad risg er mwyn categoreiddio’r claf fel risg ‘Uchel’, ‘Cymedrol’ neu ‘Gyfartalog’. - Bydd y claf, y meddyg a atgyfeiriodd, a’r meddyg teulu yn cael eu hysbysu am y categori risg.
- Cynigir apwyntiad yn y clinig Geneteg Canser i’r holl gleifion risg uchel a risg cymedrol.
- Bydd yr holl gleifion yn derbyn manylion cyswllt ar gyfer y Gwasanaeth Geneteg Canser ac yn cael eu gwahodd i ailgysylltu petai newid mewn hanes teuluol.
Ar ôl categoreiddio risg y claf, bydd y canlynol yn digwydd:-
Risg Cyfartalog
Y nod yw sicrhau y grŵp yma, yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir, nad yw eu risg wedi codi yn arwyddocaol uwch na gweddill y boblogaeth, felly ni argymhellir gwyliadwriaeth ychwanegol. Dylent barhau ag ymwybyddiaeth a sgrinio iechyd safonol fel yn achos y boblogaeth yn gyffredinol.
Risg Cymedrol
Y nod yw hwyluso neu gydlynu rheolaeth barhaus rhwng gofal sylfaenol a chlinigwyr arbenigol priodol (e.e. llawfeddygon y fron neu golorectaidd lleol) neu sefydliadau sgrinio (e.e. Bron Brawf Cymru). Efallai y bydd cleifion yn cael eu hatgyfeirio’n uniongyrchol gan y Gwasanaeth Geneteg Canser, neu byddant yn awgrymu llwybr atgyfeirio priodol ar gyfer y meddyg teulu. Mewn rhai achosion efallai yr argymhellir ymchwiliadau labordy er mwyn cadarnhau statws risg y claf.
Risg uchel
Yn ogystal ag awgrymu cyfranogiad clinigwyr arbenigol eraill ac argymell goruchwyliaeth briodol, bydd y grŵp yma yn cael eu gweld gan y clinig Geneteg Canser ac efallai bydd profi genetig yn cael ei gynnig i rai teuluoedd.