Mwtaniad a risg BRCA
Mwtaniad a risg BRCA
- Mae’r risg gydol oes i fenyw unigol ymysg y boblogaeth yn gyffredinol yn y DU ddatblygu canser y fron yn tua 12%.
- Mae’r risg ymysg y boblogaeth wrywaidd yn tua 0.1%.
- Mae gan lai na 1% o’r boblogaeth fwtaniadau BRCA1+2 niweidiol.
- Mae mwtaniadau niweidiol mewn genynnau BRCA1 a BRCA2 yn gyfrifol am rhwng 5 a 10% o’r holl achosion o ganser y fron.
- Mae canserau y fron sydd yn gysylltiedig â mwtaniadau BRCA yn tueddu i ddigwydd mewn unigolion iau nag achosion gwasgaredig.
- Hefyd mae mwtaniadau BRCA yn cyfrannu at risg cynyddol o ganserau ofaraidd, canser y fron mewn dynion, canserau prostad a’r pancreas, a gall BRCA2 fod yn gysylltiedig â melanoma.
Amcangyfrif o risgiau gydol oes
Math o diwmor | risg i'r boblogaeth | BRCA1 | BRCA2 |
---|---|---|---|
Y fron mewn menywod | 12% | 60-90% | 45-85% |
Ofaraidd | 1.4% | 40-60% | 10-30% |
Y fron mewn gwrywod | 0.1% | 0.1-1% | 5-10% |
Prostad | 10% | 10% | 20-25% |