Pwy/ble o ran atgyfeirio

 

Mae canllawiau NICE yn haenu risg yr unigolyn i risg tebyg i’r boblogaeth, cymedrol ac uchel.


Categori risg canser y fron:

 

Tebyg i’r boblogaeth Risg cymedrol Risg uchel  *
Risg gydol oes o 20 oed Llai nag 17% Myy na  17% ond llai na 30% 30% neu'n uwch
Rigiau rhwng 40 a 50 oed Liai nag 3% 3–8% Mwy na 8%
 Mae’r grŵp yma yn cynnwys mwtaniadau hysbys BRCA1, BRCA2 a TP53, a chyflyrau prin sydd yn achosi risg uwch o ganser y fron megis syndrom Peutz-Jegher  (STK11), Cowden (PTEN) a chanser gastrig gwasgaredig etifeddol  (E-Cadherin).

 

Yng Nghymru mae’r broses o reoli cyflyrau’r fron yn cynnwys tri gwasanaeth ategol. Ar gyfer merched symptomatig, mae atgyfeirio at wasanaeth llawfeddygol y fron lleol yn briodol. Ar gyfer sgrinio arferol mae Bron Brawf Cymru yn cynnal gwasanaeth adalw ar gyfer merched 50-70 oed ac ar gyfer merched risg uchel y tu allan i’r grŵp yma, maent hefyd yn rheoli canlyniadau sgrinio annormal. Ar gyfer cwnsela genetig a phrofi pan fo hynny’n briodol, mae gan Wasanaeth Geneteg Canser Cymru gylch gwaith sydd yn cynnwys Cymru gyfan.

Er mwyn i atgyfeiriad gael ei dderbyn, mae’n rhaid bodloni’r meini prawf canlynol:-

Canser y fron:-

  • 1 perthynas gradd un wedi ei diagnosio yn 40 oed neu’n iau
  • 2 berthynas gradd un neu 1 berthynas gradd un ac 1 perthynas gradd dau ar yr un ochr i’r teulu wedi eu diagnosio yn 60 oed neu’n iau
  • 3 perthynas gradd un neu ddau ar yr un ochr i’r teulu wedi eu diagnosio ar unrhyw oedran
  • 1 canser y fron mewn dynion gradd un
  • 1 perthynas gradd un â chanser yn y ddwy fron

Noder, gellir etifeddu canser y fron o ochr y tad hefyd

Canser y fron/ofaraidd:

  • O leiaf: 1 o bob canser mewn perthnasau gradd un a dau (os dim ond un o bob canser, canser y fron wedi’i ddiagnosio o dan 50 oed)
  • Perthynas gradd un gyda chanser y fron a chanser ofaraidd

Perthnasau gradd un: -Mam, Tad, Merch, Mab, Chwaer, Brawd

Perthnasau gradd dau: - Nain neu daid, Ŵyr neu Wyres, Modryb, Ewythr, Nith, Nai, Hanner Chwaer, Hanner Brawd

Mae copi o’r canllawiau atgyfeirio ar gael yma.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau