Crynodeb

  • Mae’r ystadegau a ddefnyddiwyd yn yr adnodd hwn drwyddo draw wedi dod o “Trends in oral and oropharyngeal (mouth) cancer incidence in Wales, 2001-2013” a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2015 gan y Tîm Iechyd Cyhoeddus Deintyddol, Uned Gwybodaeth Canser a Goruchwyliaeth Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Mae tua 300 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis canser y geg ac oroffaryngaidd (y geg) bob blwyddyn.
  • Y prif ffactorau risg ar gyfer y math yma o ganserau yw defnyddio tybaco ac yfed alcohol. Mae ysmygu ac yfed alcohol gyda’i gilydd yn lluosogi’r risg i’r unigolyn. Hefyd ystyrir bod HPV (firws papiloma dynol) yn ffactor risg sylweddol.
  • Mae nifer yr achosion ymysg dynion yn ddwywaith cymaint ag yw ymysg merched, ac mae ar gynnydd yn y ddau ryw.
  • Mae nifer uchaf yr achosion ymysg dynion erbyn hyn yn y grŵp oedran 55-74 oed. Ond, digwyddodd y cynnydd mwyaf yn niferoedd yr achosion, sef 128%, ymysg dynion iau (35-44 oed), rhwng 2001-2003 a 2011-2013.
  • Bu cynnydd yn nifer yr achosion ym mhob un o grwpiau oedran merched ers 2001. Digwyddodd y cynnydd mwyaf, sef 82%, yn y grŵp oedran 65-75 oed rhwng 2001-2003 a 2011-2013.
  • Dyma’r tro cyntaf i ddata cenedlaethol seiliedig ar gamau gael ei gyhoeddi yng Nghymru ar gyfer canserau y geg ac oroffaryngaidd. Yn ystod 2011-2013, roedd gan y rhan fwyaf (59%) o’r bobl a ddiagnoswyd gydag un o’r canserau yma y cam mwyaf datblygedig (cam 4).
  • Mae canran y bobl a ddiagnoswyd gyda’r canserau yma a oroesodd am o leiaf flwyddyn wedi cynyddu’n raddol yn ystod y degawd diwethaf. Erbyn 2010-2012, roedd y goroesiad ar ôl un flwyddyn yn 82% yn achos dynion a merched. Ond, nid oedd y gyfradd oroesi gymharol ar ôl pum mlynedd o 55% wedi newid fawr ddim rhwng 2001 a 2008.
  • Mae diffyg ymwybyddiaeth o ganser y geg ymysg cleifion yn un o’r prif resymau dros gyflwyno yn hwyr, felly sicrhewch bod cleifion yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau, yn arbennig os ydynt yn wynebu mwy o risg o ganlyniad i ysmygu, yfed alcohol, HPV neu ddefnyddio jou betel.
  • Mae archwilio gofalus yn hanfodol
  • Mae atgyfeirio yn allweddol os ydych yn amheus, a dylai fod yna rwyd diogelwch er mwyn sicrhau bod hynny wedi ei gyflawni.
  • Byddwch yn ymwybodol o
    • friwiau (coch neu wyn) sydd wedi bod yn bresennol am dros bythefnos
    • wlserau di-boen sydd wedi para am dros bythefnos
    • Briwiau yn y geg sydd yn gadarn i’r teimlad
  • Mae adnodd ar gyfer cynnal cyfarfod yn y practis ar gael yma

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau