Achosion

Mae nifer yr achosion o ganser y geg yng Nghymru ar gynnydd gyda thua 300 o achosion newydd bob blwyddyn. Mae dynion yn ddwy waith mwy tebygol o ddatblygu canser y geg, ond mae nifer yr achosion yn y ddau ryw ar gynnydd. Gwelir y nifer fwyaf o achosion o ganser y geg ymysg dynion 55-74 oed (tua 33 o achosion am bob 100,000 o’r boblogaeth).

 

Graff yn dangos Tueddiadau Mynychder canser 2001-2014

Bu cynnydd yn nifer yr achosion mewn merched hŷn yn ystod y ddegawd ddiwethaf, gyda chynnydd o 28% yn nifer yr achosion ymysg merched 65-74 oed. Mae’r cynnydd mwyaf ymysg dynion yn y grŵp 35-44 oed, gyda chynnydd o 128% rhwng 2001-2003 a 2011-2013 (tua 4 achos am bob 100,000 o’r boblogaeth). 

 

  Cynnydd yng Nghanran yr Achosion o Ganser y Geg yn ôl rhyw rhwng  2001-2013
Grŵp Oedran Dynion % Merched %
85+ 1 50
75-84 9 65
65-74 25 82
55-64 55 34
45-54 48 23
35-44 128 25
Ffynhonnell: Gwybodaeth Canser Cymru a Chofrestrfa Canser yr Uned Oruchwylio

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau