Triniaeth

Gall y gofal y bydd y claf yn ei dderbyn amrywio yn ddibynnol ar y safle a cham y briw. Y cam cyntaf mwyaf cyffredin yw biopsi pan dynnir dan bach o’r briw, mae’r gweddill yn cael ei bwytho a chynllunnir triniaeth yn seiliedig ar y canlyniadau. Os oes yna SCC brau ar y wefus, gellir gwneud biopsi naill ai drwy eillio neu giwretio. Efallai y bydd tiwmorau tonsilaidd angen biopsi drwy dorri, a llawdriniaeth ychwanegol yn cael ei pherfformio'n ddiweddarach.

Os bydd y biopsi yn cadarnhau canser y geg, fel arfer bydd triniaeth bendant yn cael ei chynllunio bryd hynny. Gall hynny gynnwys mwy o lawdriniaeth, radiotherapi, cemotherapi neu gyfuniad o’r rhain. Gall y claf brofi nifer o wahanol sgil effeithiau o ganlyniad i’r ymyriadau yma, allai ddod i sylw deintyddion, meddygon, fferyllwyr a gweithwyr gofal iechyd eraill.

Gall canser y geg cynnar nad yw’n gymhleth arwain at ychydig iawn o forbidrwydd neu dim o gwbl o ganlyniad i’r driniaeth. Gall triniaethau ar gyfer canser y geg arwain at effeithiau parhaus sydd yn cynnwys:-

  • Diffygion cosmetig
  • Diffygion gweithredol
    • namau lleferydd
    • ceg sych
    • anallu i agor y geg yn llwyr ac anhawster llyncu
    • anhawster bwyta
  • Poen
  • Materion emosiynol
  • Problemau deintyddol parhaus

Fel arfer bydd y claf wedi cael archwiliad deintyddol llawn ac ymdrinnir â phroblemau deintyddol cyffredino cyn rhoi’r driniaeth ddiffiniol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau