Treatment for coeliac disease

Y prif driniaeth ar gyfer clefyd seliag yw deiet heb glwten am oes. Dylai hynny gael ei oruchwylio (i ddechrau o leiaf) gan ddietegydd. Dylai unrhyw ddiffyg a ganfyddir gael ei drin, ond drwy gadw at ddiet heb glwten, ar ôl eu cywiro gellir stopio’r amnewidynnau. Ar ôl i’r cyflwr sefydlogi bydd gwiriad blynyddol yn ddigon ar gyfer monitro pwysau a thaldra, adolygu symptomau ac ystyried yr angen am fwy o fewnbwn dietegol.

Potel o saws soy a dysgl

Dylai ystyriaethau eraill yn ystod yr adolygiad blynyddol gynnwys yr angen am sganio DEXA, yr angen  am brofion gwaed penodol a risg cymhlethdodau hirdymor a chydafiacheddau.  

Rhagnodi cynhyrchion heb glwten 

Mae cynhyrchion heb glwten ar gael ar FP10 a chyhoeddwyd canllawiau ar ragnodi bwydydd heb glwten y Pwyllgor Cynghori ar Sylweddau Ffiniol (ACBS). Mae’r canllawiau yma yn amrywio ar draws y DU. Yng Nghymru mae’r canllawiau llawn ar gael yma. 

Mae’n debygol y bydd pobl wedi dod yn gyfarwydd â rhai cynhyrchion heb glwten. Nid yw canllawiau Cymru gyfan yn nodi enwau brand ond mae ynddo gynhyrchion mewn “gwyrdd” - gellir eu rhagnodi yn rhydd, “ambr” - ar gyngor dietegydd, a “coch” nid yn cael eu rhagnodi’n arferol. Hefyd argymhellir y symiau ddylid eu rhagnodi bob mis.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau