Archwiliad Corfforol

Dylid dilyn y prosesau canlynol er mwyn sefydlu diagnosis ar sail gwybodaeth. I ddechrau aseswch bob symudiad o gwmpas yr ystafell archwilio, a dylid rhoi sylw penodol i gerddediad y claf. Mae llawer o broblemau clun yn amlygu eu hunain drwy  gerddediad. Yn ail, dylid archwilio ystod oddefol symudiad y clun drwy blygu, ymestyn, allsymud, atsymud, cylchdroi mewnol ac allanol. Yn drydydd, dylid perfformio cyhyrau y prif grwpiau. Yn bedwerydd, gellir defnyddio profion arbennig wedi eu cynnal yn briodol er mwyn helpu’r diagnosis. Mae’r rhain yn cael eu hegluro isod ac yn cael eu perfformio yn y clipiau fideo canlynol.

Prawf Partick (Faber) (Plygu, Allsymud, Cylchdroi Allanol)

Mae’r claf yn gorwedd ar wastad ei gefn; mae’r goes yr effeithir arni yn cael ei phlygu, allsymud a’i chylchdroi’n allanol. Gostyngwch y goes tua’r bwrdd. Mae prawf cadarnhaol yn ennyn poen anterior neu ôl ac mae’n arwydd o gyfranogiad cymal y clun neu sacroiliag.

Prawf Thomas

Dylai’r claf orwedd ar wastad ei gefn ar y bwrdd archwilio. Mae’r glun na effeithir arni yn cael ei phlygu cyn belled â phosibl (fel arfer pan fo rhan flaen y glun yn agosáu at yr abdomen, gan gyffwrdd â wal y frest bron). Yna bydd y glun yr effeithir arni yn cael ei phlygu mewn modd gyffelyb. Gofynnir i’r claf afael yn y goes na effeithir arni ac yna gollwng y goes yr effeithir arni i lawr nes ei bod yn wastad ar y bwrdd. Os na fydd y glun yr effeithir arni yn ymestyn yn llawn, efallai bod gan y claf anffurfiad plygu penodol yn y glun. Os bydd ef neu hi yn siglo ymlaen, gan godi ei feingefn thoracig oddi ar y bwrdd neu’n pontio ei gefn er mwyn ailffurfio’r lordosis meingefnol wrth ostwng y goes, mae hynny hefyd yn arwydd o fecanweithiau digolledu ar gyfer anffurfiad yn y glun. Gelir brasamcanu maint yr anffurfiad plygu os edrychwch ar y claf o’r ochr ac amcangyfrif yr ongl rhwng ei goes a’r bwrdd ar y pwynt ymestyn mwyaf.

Prawf Trendelenburg

Mae hwn yn brawf ar gyfer patholeg cymal y glun ac fe’i perfformir gan gyrcydu o flaen y claf gyda llaw ar bob un o gluniau’r claf. Yna gall y claf orffwys ei ddwylo ar ysgwyddau’r archwiliwr er mwyn cadw ei gydbwysedd. Os bydd y claf yn bwrw ei bwysau ar yr ochr arferol, er mwyn codi’r goes gydgyferbyniol oddi ar y llawr, caiff yr ochr honno i’r pelfis ei thiltio am i fyny. Mae hynny yn bannaf yn ffwythiant sydd yn perthyn i allsymudwyr ipsiochrol y clun. Ar yr ochr annormal nid ydynt yn gallu tiltio’r pelfis am i fyny, ac wrth i’r goes gydgyferbyniol ddod oddi ar y llawr (drwy blygu’r glun a’r ben-glin) ni fydd y pelfis yn cael ei gynnal ac efallai y bydd yn gollwng (nid yw’n codi yn sicr). Mae Trendeleburg cadarnhaol yn gymharol amhenodol a gall fod yn arwydd o boen (e.e. o ganlyniad i OA) allsymudwyr gwan, gwddf ffemoraidd byr, mudiad medial yn y pen ffemoraidd a niwropathi. Mae Cerddediad Trendelenburg’ o ganlyniad i wendid allsymudwr yn cael ei nodweddu gan wegian i’r ochr er mwyn dod â phwysau’r corff dros y goes yr effeithir arni.

Prawf Ober

Mae’r prawf yma yn asesu’r tensor latae ffasciae (band iliotibial) ar gyfer anffurfiad. Bydd y claf yn gorwedd ar ei ochr a rhan isaf y goes wedi ei phlygu yn y clun a’r ben-glin ar gyfer sefydlogrwydd. Yna bydd yr archwiliwr yn oddefol yn allsymud ac yn ymestyn rhan uchaf coes y claf gyda’r pen-glin yn syth neu wedi ei phlygu ar ongl o naw deg gradd. Bydd yr archwiliwr yn araf yn gollwch rhan uchaf y goes. Os bydd anffurfiad yn bodoli, bydd y goes yn dal wedi ei hallsymud ac ni fydd yn disgyn ar y bwrdd. Wrth berfformio’r prawf yma mae’n bwysig ymestyn y glun ychydig fel bod y band iliotibiol yn mynd dros trocanter mwyaf y ffemwr.

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau