Casgliadau

Mae’n amlwg o’r adolygiad o dystiolaeth yma nad oes yna un ateb sengl i feddygon teulu er mwyn helpu pobl sydd ag osteoarthritis a bod dull holistig sydd yn adlewyrchu anghenion y claf yn hollbwysig. Ar ôl gwneud y diagnosis, mae grymuso cleifion i wneud newidiadau ymddygiadol mawr i’w ffordd o fyw yn hanfodol er mwyn rheoli OA yn llwyddiannus. Gall offerynnau Penderfynu ar y cyd a hyfforddiant ychwanegol helpu meddygon teulu yn y cyswllt hwn o ran cynnig gwybodaeth glir seiliedig ar dystiolaeth y gall cleifion ei defnyddio i wneud penderfyniadau seiliedig ar dystiolaeth a chynyddu’r tebygolrwydd o lwyddiant. Mae angen i’r newidiadau yma fod yn berthnasol i’r claf a dylid pennu amcanion sydd yn gyraeddadwy a mesuradwy yn y tymor byr a’r hirdymor.

Ffigwr 2. Algorithm targedu triniaeth

COX-2 = cycloocsegenas-2; NSAIDs = cyffuriau gwrth lidiog ansteroidol; TENS = ysgogiad nerfau trydanol trawsgroenol (NICE 2008).  

Mae hunanreoli angen dull ‘pecyn cymorth’ o driniaethau craidd sydd yn cynnwys gwybodaeth dda, ymarfer corff a cholli pwysau (os yn briodol) ac atodiadau y mae angen i bob un ohonynt fod ar gael ac y gellir eu treialu os bydd angen (gweler Ffigwr 2.). Mae angen gwerthuso ac adolygu mentrau presennol a chynlluniedig yn ofalus er mwyn sicrhau bod yr ymyriadau a gynigir yn canolbwyntio ar y claf, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gost effeithiol.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau