Egwyddorion Rheoli

Ar ôl cadarnhau diagnosis OA, mae’r amcanion ar gyfer rheoli OA cluniau a phengliniau wedi eu hanelu at reoli poen, gwella ffwythiant ac ansawdd bywyd cysylltiedig ag iechyd, gan osgoi effeithiau gwenwynig therapi cymhwysol os yn bosibl (Zhang et al 2012). Dylid cofio nad yw difrifoldeb radiograffeg OA bob amser yn cyfateb i boen y claf. Mae trin OA yn cynnwys lleddfu poen, ymdrechu i unioni camaliniad mecanyddol a chanfod a mynd i’r afael ag amlygiadau ansefydlogrwydd cymalau.  Mae yna nifer o ganllawiau wedi cael eu cyhoeddi’n ddiweddar mewn perthynas â thrin OA ac isod ymdrinnir â’r dystiolaeth ar gyfer pob moddolrwydd a’r argymhellion a wneir gan bob corff. Mae’r opsiynau o ran triniaeth wedi eu grwpio yn ôl newidiadau i ffordd o fyw, ffarmacolegol, anffarmacolegol a rheoli seicolegol, ac nid ydynt wedi eu cyflwyno mewn unrhyw drefn benodol o ran pwysigrwydd. Trafodir addysg yn yr adran  penderfynu ar y cyd.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau