Gwaith a rheolaeth gymdeithasol
Ar ôl saith diwrnod calendr o hunanardystio, mae’n ofynnol i’r claf gael nodyn ffitrwydd. Ers 6 Ebrill 2010, disodlwyd y nodyn salwch gan y nodyn ffitrwydd (datganiad meddygol neu nodyn gan y meddyg); y prif newid yw y gall meddyg teulu roi cyngor i’r claf er mwyn ei helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Mae hynny oherwydd gall gwaith chwarae rhan bwysig o ran helpu pobl i wella o salwch neu anaf a chydnabyddir bod hynny yn beth da ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol.
Gellir rhoi nodyn ffitrwydd drwy:
- Ymgynghoriad wyneb yn wyneb
- Sgwrs dros y ffôn
- Adroddiad gan feddyg arall neu weithiwr iechyd proffesiynol.
Gall y meddyg teulu ddewis un o ddau opsiwn wrth ddarparu nodyn ffitrwydd, sef:
‘Nid yw’r claf yn ffit i weithio’ - dylai’r claf beidio â gweithio am gyfnod
‘Gall y claf fod yn ffit i weithio’ - nid yw cyflwr iechyd y claf o reidrwydd yn golygu na all ddychwelyd i’r gwaith; ond efallai na fydd yn gallu cwblhau ei holl oriau gwaith neu ddyletswyddau, neu efallai y bydd angen peth cefnogaeth a chymorth i’w helpu i ymgymryd â dyletswyddau arferol.
Mae’r nodyn ffitrwydd hefyd yn cynnwys:
- mwy o le i’r meddyg teulu roi cyngor cyffredinol am effaith salwch neu anaf y claf
- blychau ticio i’r meddyg teulu awgrymu, pan fo’n briodol, ffurdd cyffredin y gall y cyflogwr eu defnyddio i gefnogi dychwelyd i’r gwaith. Gall y meddyg teulu ddewis yr opsiwn ‘gall fod yn ffit i weithio’ os bydd yn credu y bydd dychwelyd i’r gwaith - gyda chefnogaeth y cyflogwr - yn eu helpu.
Gall y meddyg teulu roi cyngor cyffredinol ar y nodyn ffitrwydd ynghylch sut y gallai arthritis pengliniau neu gluniau y claf effeithio ar ei allu i weithio. Efallai y gellir trafod y cyngor hwn gyda’r cyflogwr i weld a all y claf ddychwelyd i’r gwaith. Bydd nifer o’r cleifion sydd yn debygol o ddatblygu OA mewn gwaith, yn arbennig os byddant yn hunangyflogedig. Felly mae’n bwysig ystyried sut mae OA yn effeithio ar agweddau gwaith a chymdeithasol bywyd y claf. Hyd yn oed os yw’r claf wedi ymddeol, mae’n bwysig sicrhau bod annibyniaeth, ymgysylltu cymdeithasol a pharhad diddordebau yn gynwysedig mewn unrhyw gynllun rheoli. Mae’n bwysig nodi’r gweithgareddau a’r rolau allweddol y rhwystrir cleifion rhag eu gwneud a sut mae’r OA pengliniau a chluniau yn amharu ar waith a rolau teuluol. Gellir delio â’r rhan fwyaf o broblemau OA yn y gwaith unwaith bod y rhwystrau wedi cael eu nodi a bod addasiadau priodol wedi cael eu gwneud, enghraifft, gall y meddyg teulu awgrymu newidiadau posibl, megis:
- dychwelyd i’r gwaith yn raddol, er enghraifft, drwy ddechrau’n rhan amser
- gweithio oriau gwahanol dros dro
- perfformio gwahanol ddyletswyddau neu dasgau
- cael cefnogaeth arall i gyflawni eich gwaith, er enghraifft, codwyr cadeiriau, gafaelion handlenni hir, canllawiau grisiau etc.
Dylai’r cyngor yma ddisgrifio’r cyfyngiadau sydd gan y person ac ni ddylai fod yn rhy rhagnodol ynghylch atebion e.e. i berson â phoen yn y cluniau neu bengliniau efallai y gellir nodi ‘ni all eistedd am gyfnodau hir’ yn hytrach na ‘dylid osgoi cymudiadau mynych’. Dylid egluro i’r claf y dylent hefyd fod yn agored gyda'u cyflogwr ynghylch pa dasgau maent yn gallu eu cyflawni neu ddim eu cyflawni. Heb y wybodaeth hon ni fydd y cyfloger yn gallu rhoi’r gefnogaeth briodol. Dylid nodi bod y datganiad yn gyngor i’ch claf ac nid yw’n rhwymo’r cyflogwr. Pwrpas y cyngor yw cynorthwyo’r claf a’r cyflogwr i hwyluso ffyrdd i’r cyflogai allu dychwelyd i’r gwaith. Mewn rhai achosion efallai na fydd yn bosibl dilyn y cyngor, ac yn yr achosion hynny dylid trin y claf fel petai’r meddyg teulu wedi cynghori nad yw’n ffit i weithio. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, nid yw’n ofynnol i gleifion ddychwelyd at y meddyg teulu i gael datganiad newydd. Os oes gan y cyflogwr wasanaeth iechyd galwedigaethol, efallai y bydd cynghorydd iechyd galwedigaethol yn gallu cynnig help a chyngor ynghylch mynd yn ôl i’r gwaith yn arbennig os yw'r materion yn gymhleth, neu pan fo gwaith yn cyfrannu at y cyflwr iechyd a bod angen datrys materion gwaith cyn ei bod yn bosibl dychwelyd i’r gwaith.
Os yw’n bosibl i’r claf ddychwelyd i’r gwaith, dylai’r claf a’r cyflogwr gytuno ar:
- sut fydd y claf yn dychwelyd
- pa gymorth fydd y claf yn ei dderbyn
- am ba hyd fydd y cymorth yn para
Ar hyn o bryd mae yna gynllun peilot a gefnogir gan y llywodraeth o’r enw ‘Gwasanaeth Ffit i Weithio’. Mae hwn yn wasanaeth asesu a chynghori ar gyfer pobl sydd wedi cael absenoldeb salwch o bedair wythnos, a byddant yn gallu cael mynediad at:
- Asesiad cyflym a holistig gan reolwyr achos er mwyn adnabod cyflyrau’r claf mewn perthynas ag iechyd a ddim mewn perthynas ag iechyd.
- Rheoli achos parhaus er mwyn adnabod pryderon cudd (sydd yn aml yn anfeddygol)
- Mynediad cyflym at ffisiotherapi
- Hwyluso gwell cyfathrebu rhwng y cyflogai a’r cyflogwr a darparu cyngor mewn perthynas ag opsiynau dychwelyd i’r gwaith
- Cyngor ar wella a rheoli cyflyrau hirdymor
Bydd hynny hefyd yn rhyddhau meddygon teulu rhag gorfod trafod gyda chyflogwyr ynghylch materion dychwelyd i’r gwaith. Rhagwelir y bydd y cynllun yma yn cael ei gyflwyno ar draws y DU o 2014. Mwy o wybodaeth yma am Nodyn Ffitrwydd
Datblygwyd Cymru Iach ar Waith er mwyn cefnogi cyflogwyr, cyflogeion a gweithwyr iechyd proffesiynol i wella iechyd yn y gwaith, atal salwch a chefnogi dychwelyd i’r gwaith ar ôl salwch.
I gael mwy o wybodaeth am Cynllun Ffitrwydd i Weithio
- https://www.arfonphysiotherapy.co.uk/physiotherapy-services/rhyl-city-strategy-in-work-support-service/
- http://research.dwp.gov.uk/asd/asd5/rports2011-2012/rrep792.pdf
Adnoddau gwybodaeth i gleifion a gofalwyr
Williams N.H., Amoakwa E., Burton K, Hendry M et al.The Hip and Knee Book : TSO London UK : 2009
Gwefannau defnyddiol:
- Rhaglen Cleifion Arbenigol
- Galw Iechyd Cymru Osteoarthritis
- Pain Concern
- Action on Pain
- Cymru Iach ar Waith
- Mae versusarthritis (Arthritis Research UK a Gofal Arthritis gynt)
Cysylltiadau defnyddiol:
Hefyd gellir gofyn am gyngor gyda meddyginiaeth gan fferyllwyr cymunedol lleol, iechyd galwedigaethol, cheiropractydd, osteopath, ffisiotherapydd, aciwbigwr, meddyg teulu.
Mae gwybodaeth i ofalwyr a phobl ag anableddau ar gael yn:
- 'Caring for someone' and 'Disabled people' gan Directgov
- Battersby M, Von Korff M, Schaefer J, et al. Twelve evidence-based principles for implementing self-management support in primary care. Joint Commission Journal on Quality and Patient Safety.2010; 36:561-70.