Hanes ac Archwiliad Meddygol ar gyfer Poen yn y Glun
Yn glinigol mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng OA poenus a thri achos arall o boen lleol neu gyffredinol yn y cymalau. Gwnaeth y Gynghrair Ewropeaidd yn Erbyn Gwynegon EULAR (2010) argymhellion allweddol ar gyfer diagnosio OA. Cynhyrchwyd y rhain yn seiliedig ar farn arbenigol ac adolygiad systematig o lenyddiaeth. Mae prif nodweddion clinigol OA yn golygu, yn gyffredinol, ei fod yn gyflwr sydd yn hawdd ei adnabod. Y rhain yw:
- Oedran hŷn: mae’n anarferol datblygu’r clefyd cyn bod rhywun yn 40 oed.
- Poen: defnyddio poen cymalau cysylltiedig, sydd yn gwella wrth orffwys. Mewn achosion mwy datblygedig, efallai y bydd poen wrth orffwys a phoen yn ystod y nos yn datblygu.
- Anhyblygrwydd: mae’r rhan fwyaf o bobl ag OA symptomatig yn y cymalau mawr yn profi anhyblygrwydd anweithgarwch cyfnod byr yn y cymalau, sydd yn diflannu ar ôl ychydig funudau o’u defnyddio.
- Llai o symudiad: mae ystod y symudiadau yn y cymal yn gyfyngedig yn aml, ac yn gyffredinol mae symud yn boenus, yn arbennig ar ben eithaf yr ystod.
- Chwydd: mae nifer o gymalau OA yn datblygu chwyddiadau cadarn ar ffin y cymal o ganlyniad i osteoffitau. Mae meinwe rhai o’r cymalau yn chwyddo o ganlyniad i synofitis eilaidd.
- Crepitws: Yn aml mae cymalau OA yn gwneud sŵn crensian neu gracio wrth symud.
Gellir rhoi diagnosis o OA yn hyderus heb archwiliad radiograffeg.
Nid oes angen profion gwaed, wrin neu hylif synofaidd mewn labordy er mwyn diagnosio OA, ond gellir defnyddio hynny i gadarnhau neu i ddiystyru cydfodolaeth clefyd llidiog.
Os bydd allrediad amlwg yn bresennol, dylid sugno a dadansoddi hylif synofaidd er mwyn diystyru clefyd llidiog ac er mwyn adnabod crisialau wrat a pyroffosffad calsiwm. Mae fflagiau coch (e.e. llid lleol difrifol, erythema, poen cynyddol nad yw’n gysylltiedig â defnydd) yn awgrymu sepsis, crisialau neu batholeg esgyrn difrifol. Gall cyfranogiad cymalau eraill awgrymu amrywiaeth eang o ddiagnosisau eraill. Ystyriaethau posibl eraill yw poen gohiriedig, gewynnol a briwiau menisgol a bwrsitis lleol.
Ar gyfer OA yn y cluniau mae’r Coleg Rhiwmatoleg Americanaidd (ACR) yn defnyddio’r meini prawf canlynol ar gyfer diagnosio OA yn y cluniau (Tabl 1). Dim ond ychydig o ymchwil sydd ar gael mewn perthynas â sensitifrwydd a phenodolrwydd y broses caffael hanes ac archwilio, ac mae hynny yn dibynnu llawer ar dystiolaeth lefel 5 h.y. barn arbenigol. Ni fwriedir i’r broses caffael hanes ac archwilio canlynol gynnwys yr holl gyflyrau y daw ymarferydd gofal sylfaenol ar eu traws, ond mae’n cynnig dull rhesymol o asesu y cyflyrau mwyaf cyffredin ymysg cleifion sydd yn cyflwyno poen yn y cluniau.
I ddechrau aseswch y ffwythiant; dylid asesu cerddediad wrth i’r claf gerdded i mewn i’r ystafell archwilio neu ofyn iddo gerdded i fyny ac i lawr yr ystafell. Yn ail, gyda’r claf yn sefyll, aseswch a yw’r meingefnau iliac anterior uwch yn lefel neu beidio. Os nad ydynt, efallai mai anghysondeb o ran hyd coesau sydd yn gyfrifol am hynny.
Tabl 1: Meini prawf ACR ar gyfer diagnosio OA mewn cluniau
Meini prawf clinigol a radiograffeg cyfun (fformat traddodiadol) | Meini Prawf Clinigol( fformat coeden) | Meini prawf clinigol a radiograffeg cyfun (fformat coeden) |
Poen Clun ac o leiaf 2 o’r canlynol: ESR<20mm/h osteoffytau radiograffeg neu acetabwlar, culhau bwlch cymalau radiograffeg (uwch, echelol neu fedial) | Poen clun A chylchdro mewnol< 15° ac ESR<45mm/hr (os nad oes ESR ar gael defnyddiwch blygiant≤115°) NEU gylchdro clun mewnol< 15° a phoen gyda chylchdro clun mewnol AC anhyblygrwydd boreol<50 munudau. AC oedran >50 | Poen clun AC osteoffytau ffemoraidd a/neu acetabwlar ar radiograff NEU ESR≤20mm/h A chulhau bwlch cymalau echelog ar radiograffau. |
Sensitifrwydd 89% | Sensitifrwydd 86% | Sensitifrwydd 91% |
Penodolrwydd 91% | Penodolrwydd 75% | Penodolrwydd 89% |
Addaswyd o Altman R et al. Arthritis Rheum 1991 |
Oherwydd bod safle’r poen clun yn amrywio, mae’r aetioleg yn amrywio hefyd, felly wrth asesu a yw’r poen clun yn anterior, yn ochrol neu’n y rhan ôl, dylid holi’r claf ynghylch dechreuad y boen h.y. yn ddisymwth neu’r raddol, y mathau o symudiadau neu osgo sydd yn ailgynhyrchu’r boen ac effaith symudiad a gweithgaredd ysgwyddo pwysau ar y boen. Yn drydydd, dylid archwilio’r cymal uwch ben ac islaw’r un yr effeithir arno, oherwydd ar brydiau gellir cyfeirio poen i gymal mwy distal, er enghraifft patholeg y glun yn achosi poen yn y ben-glin. Dylai’r asesiad gadarnhau ai dim ond un cymal sydd yn dioddef neu a oes yna dystiolaeth o anhwylder ehangach.
Yn gyffredinol mae osteoarthritis a bwrsitis traocanterig yn fwy cyffredin mewn cleifion hŷn a llai actif, tra bod toriadau, straen iliopsoas neu bwrsitis, a syndrom band iliotibiol yn fwy cyffredin ymysg athletwyr. Gall cwyno am ‘deimlad o dorri’ fod yn arwydd o bwrsitis iliopsoas os yw hynny yn anterior, neu syndrom band iliotibiol os yw’r teimlad yn ochrog.
Isod archwilir mwy i safle poen yn y cluniau. Mae’n cynnig ffordd resymol o ddiagnosio patholeg y glun mewn cyflyrau cyffredin gaiff eu trin mewn gofal sylfaenol.
Er bod prif elfen OA yn nociganfyddiadol, mae tystiolaeth ddiweddar yn awgrymu y gall fod yna elfen niwropathig i boen cleifion (roedd gan chwarter y cohort a archwiliwyd boen OA niwropathig mewn un astudiaeth - Hochman et al 2007). Yn yr achosion hynny, ni fydd ffarmacotherapi traddodiadol yn effeithiol. Os bydd cleifion yn disgrifio symptomau rhyfedd a/neu boen sydd yn wrthiannol i therapïau cyffuriau traddodiadol, gallai fod yn werth ystyried holiadur poen niwropathig (NP) allai hwyluso’r broses o adnabod elfen niwropathig mewn poen osteoarthritis (OA). Mae holiadur sydd yn bodoli, y painDETECT, wedi cael ei addasu ar gyfer ei ddefnyddio mewn perthynas ag OA yn y pengliniau ac fe’i defnyddir i fesur mynychder a chydberthynas symptomau NP ymysg oedolion sydd yn dioddef â’r cyflwr yma.