Mynychder

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn amcangyfrif bod OA yn effeithio ar 9.6% o’r holl ddynion ac 18% o’r holl ferched dros 60 oed (Cyfres Adroddiadau Technegol WHO 2003). Disgwylir y bydd cynnydd mewn disgwyliad oes a’r boblogaeth sydd yn heneiddio yn achosi i OA fod y pedwerydd achos pennaf o anabledd erbyn 2020 (Woolf et al 2003).

Mae dros 1 miliwn o oedolion yn mynd i weld eu meddyg teulu bob blwyddyn gyda osteoarthritis (Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol RCGP 2007) a dyma’r trydydd diagnosis mwyaf cyffredin a wneir gan feddygon teulu ar gyfer cleifion hŷn (McCormick et al 1995). Amcangyfrifir bod gan 6 miliwn o bobl yn y DU osteoarthritis poenus mewn un ben-glin neu yn y ddwy. Mae mynychder yn cynyddu gydag oedran gyda 1 o bob 5 oedolyn 50-59 oed i hyd at bron i 1 o bob 2 oedolyn 80+ oed yn dioddef ag osteoarthritis poenus mewn un ben-glin neu’r ddwy (Peat et al 2008). Cyn eu bod y 50 oed, mae nifer yr achosion o OA yn uwch ymysg dynion na merched, a thybir bod hynny o ganlyniad i newidiadau eilaidd o ganlyniad i drawma, ond ar ôl 50 oed mae nifer yr achosion yn uwch ymysg merched (Felson et al 1998).

Mae gan dros 650,000 (12% o oedolion) o bobl yn y DU osteoarthritis mewn un glun neu yn y ddwy, ac mae tri chwarter y rhai hynny dros 65 oed (Odding et al 1998). Mae gan un filiwn a hanner arall dystiolaeth pelydr-x o osteoarthritis (ond dim symptomau efallai) (Lanyon et al 2003).

Mae yna elfen enetig sylweddol yn gysylltiedig â mynychder OA, gydag amcangyfrifon etifeddadwy o ddwy astudiaeth o rhwng 39% a 65% yn annibynnol ar ddryswyr amgylcheddol neu ddemograffig hysbys (Spector et al 1996).

Yn 2011, cofnodwyd cyfanswm o 4564 o driniaethau amnewid clun a 5105 o bengliniau sylfaenol ar y Gofrestr Genedlaethol ar y Cyd (NJR) yng Nghymru 20011/2 (NJR 2012). Roedd 97% o lawdriniaethau amnewid pengliniau a 93% o lawdriniaethau amnewid cluniau o ganlyniad i osteoarthritis (NJR 2012). Mae’r BMI cyfartalog ar gyfer llawdriniaeth amnewid pengliniau wedi codi o 29.2 i 30.8 yn ystod yr 8 mlynedd diwethaf, ac o 27.4 i 28.6 ar gyfer amnewid cluniau. Yn 2011, roedd gan 40% o gleifion amnewid cluniau BMI rhwng 25-29, roedd gan 38% BMI oedd yn uwch na 30 (NJR 2012).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau