Newidiadau i ffordd o fyw

Ymarfer Corff

Ystyrir bod therapi ymarfer corff yn un o gonglfeini OA yn y coesau sydd yn amrywio o ysgafn i ddifrifol  (NICE 2006, NICE 2008, Zhang et al 2005, Zhang et al 2008, Hochberg et al 2012). Prif amcanion ymarfer corff yw lleihau poen, gwella ffwythiant corfforol ac optimeiddio cyfranogiad mewn gweithgareddau cymdeithasol, domestig, a galwedigaethol. Mae ymarfer corff rheolaidd i gleifion gydag OA y cluniau a’r pengliniau yn arwain at fwy o gryfder cyhyrol, mwy o bropriodderbyniaeth, ystod ehangach o symudiadau a ffitrwydd cardiofasgwlaidd yn ogystal â gwella lles cyffredinol. Mae effeithiau pwysig eraill yn cynnwys llai o risg o gwympo, abnormaleddau metabolaidd a cholli pwysau.

Mae yna nifer fawr o dreialon clinigol sydd yn archwilio gwahanol fathau o therapi ymarfer corff, ond mae effaith sylweddol gwendid cyhyrol ar boen a ffwythiant yn golygu y ffafrir y rhan fwyaf o fathau o therapïau sydd yn cryfhau’r cyhyrau.

Mae ymarfer corff ar y tir wedi bod yn gonglfaen cyson fel triniaeth i bobl â OA y pengliniau. Nododd adolygiad diweddar gan Cochrane (Fransen et al 2009) 32 o dreialon clinigol oedd yn ymchwilio i ymarfer corff therapiwtig ar y tir ar gyfer OA y pengliniau. Aseswyd ystod eang o raglenni ymarfer corff therapiwtig, yn cynnwys y rhai a ddarperir yn unigol i’r claf, rhaglenni mewn dosbarthiadau ac ymarfer corff yn y cartref. Roedd y triniaethau cynwysedig yn amrywio o raglenni cryfhau cyhyrau cwadriceps a cherdded aerobig syml i raglenni cyflyru’r corff yn gyfan gwbl. Roedd canlyniadau y meta ddadansoddiad yn dangos mân fuddion o ganlyniad i driniaethau gyda gwahaniaeth cymedrig safonol (SMD) o 0.40 (95% cyfnod hyder 0.30 i 0.50) ar gyfer poen a SMD o 0.37 ar gyfer cynnydd mewn ffwythiant (95% cyfnod hyder 0.25 i 0.49). Byddai hynny yn cyfateb i leihau poen pengliniau o 1 pwynt ar raddfa o 0 i 20 a gwelliant mewn ffwythiant pengliniau o 3 phwynt ar raddfa o 0 i 68. Mae’r canlyniadau yma yn gymharol ac amcangyfrifon a adroddwyd ar gyfer analgesia syml a NSAID a gymerir ar gyfer poen pengliniau ond heb unrhyw sgil effaith.

Roedd canllawiau ACR 2012 yn argymell bod cleifion yn cofrestru ar raglen ymarfer corff oedd yn gymesur â’u gallu i berfformio gweithgareddau o’r fath, naill ai ar ffurf ymarfer corff cardiofasgwlar (aerobig) a/neu wrthiant ar y tir neu ymarfer corff mewn dŵr. Mae gan ymarfer corff cardiofasgwlar ar y tir o’i gymharu â dim ymarfer corff NNT o 5 ar gyfer lleihau poen a NNT o 7 ar gyfer gwella ffwythiant; mae gan ymarfer corff gwrthiant ar y tir o’i gymharu â gofal arferol NNT o 4 ar gyfer poen a 6 ar gyfer gwella ffwythiant; ac mae gan ymarfer corf mewn dŵr o’i gymharu â dim ymarfer corff NNT o 11 ac 8 yn ôl eu trefn.

O’i gymharu ag OA y pengliniau, mae llawer llai o ymchwelo wedi ei wneud i rôl ymarfer corff mewn OA y cluniau. Mewn adolygiad gan Cochrane yn 2009 (Fransen et al 2009), canfuwyd mai dim ond 5 RCT oedd yn edrych ar ymarfer corff ar y tir. Canfuwyd effaith bychan ar boen ond nid oedd dim tystiolaeth o newid mewn ffwythiant corfforol a hunanadroddwyd. Mae yna nifer o gyfyngiadau posibl i’r meta ddadansoddiad yma ac mae angen mwy o astudiaethau. Roedd meta ddadansoddiad cynharach gan Hernandez-Molina at al 2008 yn cynnwys 3 RCT arall oedd yn gwerthuso hydrotherapi yn ogystal ag ymarfer corff ar y tir a arweiniodd at fuddion triniaeth sylweddol ar gyfer poen. Yr argymhelliad gan ACR (2012) yw y dylai cleifion ag OA y cluniau ymgymryd ag ymarfer corff cardiofasgwlar a/neu wrthiant ar y tir neu mewn dŵr, ond mae’n ymddangos bod hynny  i raddau helaeth yn seiliedig ar ddata o astudiaethau ar OA y pengliniau.

Mae’n bwysig cofio bod yna nifer o gwestiynau pwysig sydd heb eu hateb mewn perthynas ag ymarfer corff ar gyfer OA y cluniau a phengliniau.

  • Mae yna lawer llai o ymchwil wedi ei gyhoeddi ar OA y cluniau ac mae’n rhaid trin astudiaethau ar gyfer OA y pengliniau a allosodir ar gyfer cluniau gyda gofal o ystyried y gwahaniaeth mewn biofecanwaith, amhariadau, cyflymder cynnydd a ffactorau risg.
  • Nid yw’r rhan fwyaf o astudiaethau ar gyfer OA yn gwerthuso buddion eilaidd ymarfer corff megis gostyngiad mewn clefyd y galon, gorbwysedd, diabetes, iselder, gordewdra etc.
  • Ar hyn o bryd mae moddolrwydd, dwyster a dos optimol ar gyfer OA yn anhysbys.
  • Mae angen gwneud mwy o ymchwil pan fo ymarfer corff yn cael ei ddefnyddio fel rhan o becyn gofal yn hytrach nag ar ei ben ei hun, yn arbennig oherwydd bod y canlyniadau ar gyfer ymarfer corff yn unig yn fychan e.e. ymarfer corff wedi ei gyfuno â cholli pwysau, ymarfer corff wedi ei gyfuno â llawdriniad etc.
  • Dangosodd treial diweddar o Tai Chi (Wang 2009) ganlyniadau addawol o astudiaeth fechan y mae angen ei hefelychu ar raddfa fwy.
  • Nid oes unrhyw fudd amlwg sydd yn deillio o un math o ymarfer corff penodol o’i gymharu â mathau eraill ar gyfer gwella poen a ffwythiant mewn OA. Er enghraifft roedd cerdded a hyfforddiant cryfhau yr un mor effeithiol dros gyfnod o 18 mis mewn astudiaeth fawr o bobl ag OA y pengliniau (Messier et al 2004). Ond, mae maint effeithiau o feta ddadansoddiadau ar gyfer poen a ffwythiant yn dangos bod ymarfer corff ar dir yn cael ei ffafrio’n fwy nag ymarfer corff mewn dŵr, a bod yr effeithiau yn fwy yn achos ymarfer corff aerobig nag ymarferion cryfhau.
  • Ar gyfer y cleifion hynny sydd yn ddifrifol ordew neu sydd ag OA difrifol, efallai y ffafrir ymarfer corff i ddechrau. Hefyd efallai y bydd ymarfer corff wrth eistedd yn well ar gyfer y cleifion hynny.
  • Byddai’r mathau o ymarfer corff addas yn cynnwys cerdded, seiclo neu gamau wrth eistedd.
  • Ar gyfer ymarfer cryfhau, mae’r cwadriceps, allsymudwyr y glun, ymestynwyr y glun, llinyn y gâr a chyhyrau croth y goes yn bwysig ar gyfer ffwythiant a dylid eu targedu’n benodol.
  • Gellir cyflawni hynny naill ai yn y cartref heb oruchwyliaeth neu mewn grŵp dan oruchwyliaeth. Mantais ymarfer corff mewn grŵp yw bod hynny yn hyrwyddo rhyngweithio cymdeithasol a gall gynyddu cydymffurfiaeth.
  • Er gwaethaf canfyddiadau cyson mewn perthynas â gwelliannau tymor byr gydag ymarfer corff mae astudiaethau tymor hirach wedi dangos bod y buddion yn lleihau yn y tymor hirach oherwydd diffyg dyfalbarhad ymysg cleifion.

Colli Pwysau

Mae’r buddion sydd yn deillio o golli pwysau yn cael eu hyrwyddo’n eang gan yr holl ganllawiau presennol fel ffordd o gyflawni buddion metabolaidd a chardiofasgwlaidd (NICE 2006, NICE 2008, Zhang et al (2005), Zhang et al (2008), Hochberg et al (2012). Mae’n ymddangos y priodolir gormod o lwyth annormal ar y cymal mewn perthynas â datblygu OA a chynnydd mewn OA yn y cymalau, ac mai atal gordewdra fydd yn arwain at yr effaith fwyaf ar OA yn y cluniau a phengliniau (NICE 2008). Ar hyn o bryd nid oes yna dystiolaeth glir y gall colli pwysau, naill ai ar ei ben ei hun neu yn gyfun ag ymarfer corff, arafu cynnydd osteoarthritis y cluniau neu bengliniau ar ôl iddo ddechrau (NICE 2008). Hefyd, nid oes sicrwydd ynghylch y trothwy pryd y dylid hyrwyddo colli pwysau neu faint o bwysau ddylid ei golli er mwyn lleihau poen ac anabledd a chynyddu ffwythiant. Hefyd, mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau wedi cael eu hanelu at gymalau pengliniau, sydd yn golygu ei bod yn anodd cyffredinoli’r canfyddiadau mewn perthynas â chluniau.

Mewn astudiaeth gan Aaboe et al (2011) archwiliwyd effaith colli pwysau ar lwytho cymal pengliniau; y cysylltiad oedd y tybiwyd bod gordewdra yn achosi OA drwy roi fwy o lwyth ar y cymal. Cwblhaodd cant pum deg saith o gyfranogwyr â newidiadau radiograffeg o ganlyniad i osteoarthritis raglen colli pwysau dietegol ddwys dros 16 wythnos. Ategwyd y diet gan addysg maeth a therapi ymddygiad er mwyn annog dyfalbarhad, gyda’r nod o greu gostyngiad o 10%o leiaf mewn pwysau’r corff ar y cychwyn. Gyda cholli pwysau cymedrig o 13.2% roedd llai o lwyth ar gymal y pengliniau o bosibl yn arafu cynnydd y clefyd. Cynhaliwyd astudiaeth debyg gan  Messier et al (2005) a gasglodd bod pob uned o bwysau a gollir yn gysylltiedig â gostyngiad o 4X mewn grymoedd llwyth ar y pengliniau. Roedd hynny yn ddwywaith gymaint ag a ganfuwyd gan Aaboe et al (2011) felly mae angen ei ddehongli gyda gofal. Yn anffodus ni ddilynwyd y naill astudiaeth na’r llall o ran cynnydd y clefyd, felly defnydd clinigol cyfyngedig sydd i’r canlyniadau.

Cynhaliodd Christensen et al (2007) adolygiad systematig gan edrych ar effaith colli pwysau mewn cleifion gordew a ddiagnoswyd ag osteoarthritis y pengliniau. Ystyriwyd bos pedwar RCT’s (n=454) yn addas i’w cynnwys. Roedd yr ymyriadau actif yn cynnwys diet egni isel (3.4Mj/diwrnod), Mazindol sydd yn gawl egni isel, maeth a therapi ymddygiadol gwybyddol mewn gwahanol gyfuniadau a hydoedd o 8 wythnos i 18 mis. Drwy gronni data o’r treialon gwelwyd yr hunanadroddwyd maint effeithiau (ES) ar anabledd  (ES) o 0.23 (95% CI 0.04 i 0.42 p=0.02) o blaid colli pwysau, ES poen o 0.2 (95% CI0 i 0.39; p=0.05) o blaid colli pwysau. Mae heterogenedd yr astudiaethau a gynhwyswyd yn codi pryderon ynghylch cryfder a natur gyffredinol y dystiolaeth a meintiau effaith bychan y canlyniadau.

Cynhaliodd Bliddal et al (2011)  RCT arfaethedig. Roedd y treial 1 flwyddyn yn cynnwys dau grŵp o gleifion a ddiagnoswyd ag OA y pengliniau. Derbyniodd y grŵp actif ddau gyfnod o 0-8 wythnos a 32-36 wythnos pan oeddent yn derbyn 810kcal/diwrnod ar ffurf powdr maeth. Roeddent hefyd yn derbyn cyfarwyddyd i gymryd 1200kcal/diwrnod am weddill y flwyddyn. Roedd hynny yn gyfanswm o 44 sesiwn gyda’r dietegydd. Roedd y grŵp rheoli y  derbyn 2 awr o gyngor ar faeth ar y waelodlin ac ar wythnosau 8, 32, 36 a 52 dywedwyd wrthynt am gymryd 1200kcal/diwrnod. Arweiniodd hynny at golli pwysau cymedrig o 10.9kg (11%) yn y grŵp actif a 3.6kg yn y grŵp rheoli. Roedd yna welliant clinigol sylweddol  ym Mynegai Arthritis Prifysgolion Western Ontario a McMaster (WOMAC) ym mlwyddyn 1 pan ddangosodd y grŵp ymyrraeth ostyngiad oedd ddwywaith gymaint â’r grŵp rheoli. Roedd y gostyngiad mewn poen hefyd yn sylweddol ond nid oedd y diffyg gwahaniaeth mewn ffwythiant ac anabledd yn sylweddol. Methodd yr awduron â rhoi sylwadau ar y cynnydd graddol mewn pwysau yn y grŵp rheoli rhwng wythnosau 8 a 32 a 36 i 52, pan gododd pwysau cymedrig y grŵp rheoli 2.8kg mewn 20 wythnos er gwaethaf cyfarfodydd pob pythefnos gyda’r dietegydd. Yn ystod yr ail gyfnod o 4 wythnos pan oedd y cleifion yn cymryd powdr maeth, dim ond 0.7kg oedd y pwysau cymedrig a gollwyd o’i gymharu â 11.6kg yn ystod yr 8 wythnos gyntaf. Mae hyn eto yn atgyfnerthu’r anhawster o ran cynnal colli pwysau yn arbennig gyda diffyg gwahaniaeth o ran ffwythiant ac anabledd (efallai bod hynny oherwydd maint sampl ddim digon pwerus) a gostyngiad bach, ond arwyddocaol, mewn poen, er y treialwyd ymyrraeth ddwys.

Mewn meta ddadansoddiad gan Tsai et al (2006) roedd 6 treial ar hap a gyhoeddwyd rhwng 1898 a 1997 yn bodloni’r meini prawf cynnwys. Roedd y rhan fwyaf o’r astudiaethau yn ymrestru cleifion â BMI o 35-40kg/m2 ac yn defnyddio deiet hypocalorig i golli pwysa. Y pwysau a gollwyd ar gyfartaledd oedd 16.1kg, a 22.5% yn ildio. Mewn asesiadau dilynol oedd yn amrywio o 1-5 mlynedd (cymedr o 1.9) roedd y pwysau cyfartalog a gollwyd wedi gostwng i 6.3kg. Mae’r canfyddiadau yma yn awgrymu bod ymdrechion i barhau i golli pwysau yn annhebygol o fod yn llwyddiannus yn y rhan fwyaf o gleifion. Awgrymir bod blinder ymddygiadol o ran cadw at raglenni deiet ac ymarfer corff caeth mewn amgylchedd anodd, yn ogystal â rheoli hormonau ymylol a chanolog sydd yn rheoli chwant bwyd a defnyddio egni, yn gyfrifol am y pwysau yma a enillir.

Cesglir bod buddion hirdymor colli pwysau o ran lleihau poen a gwella ffwythiant ac anabledd yn dal yn aneglur, ond mae’r pwyntiau canlynol yn bwysig i lwyddiant rhaglen colli pwysau:

  • Mae data epidemiolegol yn awgrymu mai gordewdra  yw un o’r ffactorau risg pwysicaf o ran datblygu OA y pengliniau.
  • Mae gordewdra ac OA y pengliniau yn rhannu’r un ffenodeipiau pathogenmetig, ac mae datblygu un o’r clefydau yn cynyddu’r risg o gael y llall a gall sbarduno cylch dieflig.
  • Ar ôl i OA ddechrau, nid oes unrhyw dystiolaeth sydd yn dangos y gellir atal ei gynnydd neu hyd yn oed ei arafu drwy golli pwysau, er bod argymhellion o astudiaethau wedi anelu at ostyngiad o 5-10% yn unol ag argymhellion ar gyfer cyflyrau eraill megis clefyd y galon, gorbwysedd a diabetes.
  • Ni yw’n eglur a ddylid dilyn rhaglen golli pwysau cyn dilyn rhaglen ymarfer corff, neu a ddylid eu dilyn ar yr un pryd er mwyn cyflawni’r canlyniad gorau.
  • Mae gan astudiaethau OA sydd yn cynnwys colli pwysau gyfraddau ildio uchel. Gall offerynnau penderfynu ar y cyd helpu i leihau hynny.
  • Mae yna dystiolaeth glir o astudiaethau gordewdra bod parhau i golli pwysau o ganlyniad i flinder ymddygiadol yn anodd er gwaethaf cyfarfodydd rheolaidd gyda dietegwyr.
  • Mae gan ddietau calorïau isel iawn (VLCD) neu ddietau calorïau isel confensiynol (LCD) ddeilliannau hirdymor cymharol.
  • Mae angen gwerthuso unrhyw raglen colli pwysau a gyflwynir yn ofalus er mwyn gwneud y mwyaf o’i heffeithiolrwydd, o ystyried yr NNT uchel o 11 a 9 ar gyfer poen a gwell ffwythiant yn ôl eu trefn (canllawiau OA ACR 2009).

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau