Penderfynu ar y cyd

O’r adolygiad uchod, mae’n amlwg nad oes yna un opsiwn sengl o ran triniaeth ar gyfer unigolyn sydd yn dioddef ag OA y cluniau neu bengliniau. Mewn gwirioned mae yna ystod eang o opsiynau o ran triniaethau sydd yn amrywio o un eithaf o hunanreoli i’r llall sydd yn golygu gosod clun a phen-glin newydd. Mae ymchwil wedi dangos y gallwn ac y dylem wneud yn well o ran hysbysu a chynnwys cleifion pryd bynnag fo hynny’n bosibl. Mae’r egwyddor hon yn flaenllaw ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth ‘‘Liberating the NHS – no decision about me without me’. Mae yna dystiolaeth argyhoeddiadol bod cleifion sydd yn gyfranogwyr actif o ran rheoli eu iechyd a’u gofal iechyd yn cael gwell deilliannau na chleifion sydd yn derbyn gofal yn oddefol. Mae yna dal draddodiad yn y GIG o ystyried mai meddygon yw’r unig rai sydd yn gwneud penderfyniadau, a disgwyliad i’r meddyg wneud penderfyniadau clinigol yn hytrach na bod hynny yn cael ei wneid gyda'r claf. Nid gwneud penderfyniadau effeithiol yw’r norm ar hyn o bryd ac mae nifer o gleifion eisiau mwy o wybodaeth a chyfranogiad o ran gwneud penderfyniadau am eu triniaeth, gofal a chymorth nag a geir ar hyn o bryd. Mae penderfynu ar y cyd yn cydnabod hawl y claf i wneud penderfyniadau am eu gofal, gan sicrhau bod ganddynt y wybodaeth gyflawn am yr opsiynau sydd yn eu wynebu. Er mwyn cyflawni hynny mae angen darparu gwybodaeth ddibynadwy seiliedig ar dystiolaeth ynghylch buddion a niwed tebygol ymyriadau neu weithrediadau, yn cynnwys unrhyw ansicrwydd a’r risgiau, gan ysgogi eu dewisiadau a chefnogi rhoi hynny ar waith. Wrth wneud hynny dylid cydnabod bod meddygon a chleifion yn cynnig arbenigedd er mwyn penderfynu ar y camau mwyaf ffafriol i’w cymryd (Tab 6).

Tabl 6: Meysydd arbenigedd yn y broses ymgynghori (o Coulter A, Collins A 2011)
Arbenigedd y meddyg Arbenigedd y claf
Diagnosis Profiad o’r salwch
Aetioleg clefyd Amgylchiadau cymdeithasol
Prognosis  Agwedd at risg
Opsiynau o ran Triniaethau Gwerthoedd
Opsiynau o ran triniaeth Beth a ffafrir

Gall cymhorthion i gleifion o ran gwneud penderfyniadau amrywio o daflenni un dudalen y gellir eu defnyddio fel sail trafodaeth fel rhan o’r ymgynghoriad, i daflenni manylach a lawrlwythiadau cyfrifiadurol. Maent yn wahanol i ddeunyddiau gwybodaeth traddodiadol i gleifion oherwydd eu bod yn seiliedig ar dystiolaeth ymchwil a maent wedi eu dylunio nid yn unig i roi gwybodaeth i gleifion ond i’w helpu i feddwl hefyd am beth allai’r gwahanol opsiynau eu golygu iddynt a phenderfynu ar yr hyn a ffafrir ar sail gwybodaeth. Yn nodweddiadol maent yn cynnwys:

  • Disgrifiad o’r cyflyrau a’r symptomau
  • Y prognosis tebygol gyda a heb driniaeth
  • Yr opsiynau o ran triniaeth a hunanreoli a’r tebygolrwydd o ran deilliannau
  • Beth sydd yn hysbys ac nad yw’n hysbys o’r dystiolaeth
  • Sgil effeithiau neu gymhlethdodau o ganlyniad i driniaeth
  • Ffordd o helpu cleifion i feddwl yn gliriach am yr hyn maent yn eu ffafrio
  • Cyfeiriadau a ffynonellau mwy o wybodaeth

Er ei bod yn amlwg bod cleifion yn dymuno cael gwybodaeth am ddewisiadau cleifion ac yn gwerthfawrogi hynny, mae’n anodd ymgorffori proses benderfynu glinigol i ymarfer bob dydd. Mae’r gwrthwynebiadau a fynegir yn gyffredin yn cynnwys (Coulter A, Collins A 2011):

  • ‘Rydym yn gwneud hynny eisoes’ - dangosodd Stevenson et al (2000) bod yna fwlch rhwng beth oedd y meddyg wedi ei rannu gyda’r claf mewn perthynas â’r dystiolaeth, risgiau, buddion a triniaethau amgen a beth adroddodd y claf am y drafodaeth glinigol.
  • ‘Nid yw cleifion eisiau hynny’ Dangosodd Arolwg Cleifion Cenedlaethol y Comisiwn Ansawdd Gofal (2010) y byddai 48% o fewngleifion a 30% o gleifion gofal sylfaenol wedi hoffi cyfranogi mwy yn y penderfyniadau ynglŷn â’u gofal.
  • ‘Ddim yn briodol i rai sydd â llythrennedd iechyd isel’ - Dangoswyd bod gwybodaeth wedi ei dylunio’n dda a deunydd cefnogi gwneud penderfyniadau priodol gan staff hyfforddedig wedi rhoi gwybodaeth i gleifion â llythrennedd iechyd isel ac maent wedi ymgysylltu â’r wybodaeth honno  (King et al 2011, O’Connor et al 2009) ac mae hynny yn golygu eu bod yn fwy gweithredol o ran eu materion iechyd eu hunain ac yn llai tebygol o droi at feddygon.
  • ‘Bydd cleifion eisiau triniaethau amhriodol/drud’ - Pan fo cymhorthion penderfynu wedi cael eu treialu, mae pwyso a mesur y risgiau a’r buddion yn golygu bod nifer o gleifion yn dewis y therapi lleiaf ymwthiol neu gymorth hunanreoli. Mewn astudiaeth o gleifion poen cefn gyda disgiau  torgest, roedd dros 30% yn llai tebygol o ddewis llawdriniaeth pan roddwyd gwybodaeth gyflawn iddynt (Deyo et al 2000).
  • ‘Dim amser i wneud hynny’ - Efallai y bydd ymgynghoriadau unigol yn cymryd mwy o amser, ond gallai amser a dreulir yn ymgysylltu â’r claf leihau cyfanswm yr amser a dreulir gyda rhywun sydd yn ansicr neu yn anhapus ynghylch penderfyniad nad ydynt wedi bod yn rhan ohono  (Bekker et al 2004)
  • ‘Mae’n amherthnasol ac yn aneffeithiol’ - mae gwerthusiadau o wahanol ddulliau o wneud penderfyniadau yn dangos y gall arwain at y buddion canlynol:
  1. Gwell gwybodaeth a dealltwriaeth
  2. Canfyddiadau fwy cywir ynghylch risg
  3. Teimlo’n fwy cyfforddus gyda phenderfyniadau
  4. Mwy o gyfranogiad
  5. Llai o gleifion yn dewis llawdriniaethau mawr
  6. Gwell cydymffurfiaeth â thriniaethau
  7. Gwell hyder a sgiliau ymdopi
  8. Gwell ymddygiadau iechyd
  9. Defnydd mwy priodol o wasanaethau

(Murray et al 2005, O’Connor et al 2009, Picker Institute Europe 2010)

‘Nid oes cymhelliant i wneud hynny’ - Mae angen i’r rhai sydd yn gyfrifol am gyflog a gwobrwyo clinigol ac am ddylunio tariffau a systemau talu yn y dyfodol sicrhau eu bod yn darparu cymhellion i sefydliadau a chlinigwyr i ymgysylltu â gwneud penderfyniadau ar y cyd.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau