Pigiadau mewngymalol

Corticosteroid a hyalwronau

Mae’r dystiolaeth ymchwil mewn perthynas â phigiadau corticosteroid mewngymalol yn dangos ei fod yn cynnig rhyddhad tymor byr (o 1 i 4 wythnos) gyda chynnydd bychan mewn ffwythiant corfforol. Gallai’r rhyddhad byr yma fod yn ddefnyddiol ar gyfer lleddfu cyfnod drwg neu fel ffordd o gyflwyno ymyriadau eraill megis ymarferion cryfhau cyhyrau. Mae NICE (2008) wedi argymell ei ddefnyddio fel atodiad i driniaeth graidd. Mae Hyalwronau (a elwid o’r blaen yn asid hyalwronig) yn cael ei gynhyrchu gan gelloedd haen leinin y cymal. Ei brif ffwythiant yw achosi fisgo-elastigedd, iriad a helpu i gynnal hydreiddiad meinwe. Nid yw’n sicr pa fecanwaith a ddefnyddir gan baratoadau masnachol o Hyalwronau ac mae maint yr effaith mewn perthynas â lleihau poen hyd at 3 mis yn fychan. O ystyried cost y bigiad a nifer y pigiadau (3 i 5) mae’r effeithiolrwydd cost y tu hwnt i drothwy safonol y GIG (NICE 2008).

Golchi cymal

Mae hyn yn golygu golchi allan unrhyw feinwe neu ddarnau rhydd o du mewn i ofod y cymal. Mae golchiad cymal drwy ddyfrhau llanwol yn defnyddio un pwynt mynediad er mwyn chwistrellu hylif i mewn ac yna ei dynnu allan. Mae golchiad cymal anarthrisgopig yn defnyddio dau bwynt mynediad, un ar gyfer chwistrellu’r hylif i mewn ac un arall ar gyfer tynnu’r hylif allan, ond gyda dim archwiliad gweledol. Mae golchiad cymal arthrosgopic yn olchiad gydag archwiliad gweledol. Roedd adolygiad gan Cochrane (Reichenbach et al 2009) yn cynnwys 7 treial a chanfuwyd dim ond ychydig o fudd ar ôl 3 mis o ran lleddfu poen (0.3cm ar raddfa analog gweledol 10cm), a sgoriau ffwythiannol rhwng golchiad cymal a rheolaeth (0.2cm ar is raddfa anabledd WOMAC o 0 i 10cm). Felly ni argymhellir y driniaeth yma.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau