Poen Anterior
Poen clun anterior (gweler Tabl 2) yw’r poen clun a ddioddefir yn fwyaf cyffredin ac mae hynny fel arfer yn arwydd o batholeg cymal y glun (h.y. arthritis dirywiol), straen cyhyr plygydd y glun neu tendonitis, a bwrsitis iliopsoas. Mewn astudiaeth gan Lamberts et al (1996),y diagnosis mwyaf cyffredin o ddigon mewn cleifion â phroblemau clun a welwyd gan eu meddyg teulu oedd osteoarthritis. Mewn astudiaeth o bobl hŷn na 40 oed oedd wedi dioddef pwl newydd o boen clun, roedd gan 44% dystiolaeth o osteoarthritis (lefel tystiolaeth [LOE]=1b) (Birrell et al 2000).
Mae’r rhestr ganlynol yn darparu rhai o achosion poen clun anterior:
- Mae bwrsitis iliopsoas, achos llai cyffredin o boen clun anterior, yn cynnwys llid y bwrsa rhwng y cyhyr iliopsoas a’r codiad iliopectineol neu’r “ymyl pelfig”.
- Mae toriadau straen fel arfer yn digwydd mewn athletwyr oherwydd bod y gofynion strwythurol o ganlyniad i ymarfer yn drech nag ailfodelu asgwrn (toriadau blinder), a gall hynny hefyd ddigwydd yn achos osteoporosis o dan lwythau ffisiolegol arferol (toriadau annigonolrwydd).
- Yn ddiweddar canfuwyd rhwygiadau labrol mewn cleifion athletaidd iau gyda phoen cymal clun na ellir ei egluro a chanfyddiadau radiograffeg normal (Hickman et al 2001).
Anhwylder | Cyflwyniad a chanfyddiadau archwiliadau | |
---|---|---|
Poen Anterior | Osteoarthritis | Poen clun anterior/morddwyd yn dechrau’n raddol ac yn gwaethygu wrth ysgwyddo pwysau |
ystod symudiad cyfyngedig gyda phoen, yn arbennig cylchdro mewnol (LOE=1b) (Birrell at al2001) | ||
Prawf FABER annormal | ||
Straen/tendonitis cyhyr plygydd y glun | Hanes o orddefnyddio neu anaf chwaraeon | |
Poen wrth brofi gwrthiant cyhyr | ||
Dolur ar gyhyr neu ewyn penodol | ||
Bwrsitis Iliopsoas | Poen Anterior a theimlad o dorri cysylltiedig | |
Dolur gyda theimlad dwfn dros y triongl ffemoraidd | ||
Snapio positif wrth symud y glun | ||
Aetioleg oherwydd gorddefnydd, trawma acíwt neu arthritis rhiwmatoid | ||
Toriad yn y clun (ffemwr procsimol) | Cwymp neu drawma ac yna methu cerdded | |
Y goes wedi troi am allan, wedi allsymud a byrhau. | ||
Poen gydag unrhyw symudiad | ||
Toriad straen | Hanes o orddefnyddio neu osteoporosis | |
Poen gyda gweithgaredd ysgwyddo pwysau; cerddediad antalgig | ||
Ystod cyfyngedig o symudiad, sensitifrwydd 87% (LOE=4) (Shin et al 1996) | ||
Arthritis llidiog | Anhyblygrwydd boreol neu symptomau systemig cysylltiedig | |
Hanes blaenorol o arthritis llidiog | ||
Ystod cyfyngedig o symudiad a phoen gyda symudiad goddefol | ||
Toriad Acetabwlarlabrol | Poen siarp yn yr afl/clun anterior cysylltiedig â gweithgaredd, yn arbennig wrth ymestyn y clun | |
Teimlo clicio dwfn, sensitifrwydd 89% (LOE=4) (McCarthy et al 1995) | ||
Prawf plygu-ymestyn Thomas cadarnhaol | ||
Necrosis Anfasgwlaidd yn y pen ffemoraidd | Poen mud yn yr afl, clun a’r ffolen, fel arfer gyda ffactorau risg (amlygiad i corticosteroid, camddefnyddio alcohol) | |
Ystod cyfyngedig o symudiad gyda phoen |
Margo et al (2003)