Poen Ochrol

Mae poen ochrol (gweler Tabl 3) fel arfer yn gysylltiedig â syndrom poen trocanterig mwyaf, syndrom band iliotibiol, neu paresthecia meralgia. Mae Syndrom Poen Trocanterig Mwyaf yn derm cymharol newydd sydd yn cynnwys bwrsitis trocanterig mwyaf a phatholeg mediws glwtews (Shbeeb 1996, Bird et al 2001). Mae bwrsitis trocanterig yn achos cyffredin o boen clun ochrol, yn arbennig mewn cleifion hŷn. Ond canfu astudiaeth delweddu siniaredd magnetig (MRI) o 24 o ferched â syndrom poen trocenterig mwyaf (a ddisgrifir fel poen cronig a dolur ar elfen ochrol y glun) bod gan 45.8% rwyg yn y mediws glwtews a bod gan 62.5% tendonitis yn y mediws glwtews, oedd yn codi’r cwestiwn ynghylch faint o’r cleifion yma mewn gwirionedd oedd yn dioddef â bwritis (LOE=4) (Bird et al 2001). Mae syndrom band iliotibiol yn arbennig o gyffredin mewn athletwyr. Mae’n cael ei achosi drwy symud y band iliotibiol dros y trocanter mwyaf. Mae paresthetica maralgia, syndrom llithio’r nerf cwtaneaidd ffermoraidd  ochrol, hefyd yn achosi poen clun ochrol sydd yn digwydd yn amlach yn ystod canol oed. Mae partsthetica meralgia yn cael ei nodweddu gan hyperesthesia yn y glun anterochrol, er bod 23% o’r cleifion sydd  a’r anhwylder yma yn cwyno hefyd gyda phoen clun ochrol (Jones 1996).

 

Tabl 3: Cyflwyniadau a Chanfyddiadau Poen Ochrol  (Margo et al (2003)
  Anhwylder Cyflwyniad a chanfyddiadau archwiliadau
Poen Ochrol Bersitis trocanterig mwyaf Benywod: gwrywod: 4:1, pedwerydd i’r chweched degawd
Poen clun ochrol sydd yn dechrau ohono ei hyn yn dawel
Man dolurus dros y trocanter mwyaf
Camweithrediad cyhyr mediws glwtews Poen cysylltiedig ag allsymudiad y glun
Dolurus dros y mediws glwtews (seffalad i’r trocanter mwyaf)
Prawf Trendelenburg: sensitifrwydd 72.7%, penodolrwydd 76.9% ar gyfer canfod rhwyg yn y cyhyr mediws glwtews  (LOE=2b)
Syndrom band iliobitiol Poen clun ochrol neu snapio yn gysylltiedig â cherdded, loncian neu seiclo
Prawf Ober cadarnhaol
Meralgiaparesthetica Teimlad diffrwyth, cosi, a phoen sydd yn llosgi dros y clun anterochrol
Yn cael ei waethygu wrth ymestyn y glun a cherdded
Gall pwysau dros y berf ailgynhyrchu dysesthesia o ran dosbarthu nerf cwtaneol ffemoraidd ochrol  (LOE=5) (Grossman et al 2001)

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau