Therapïau ffarmacolegol

Defnyddir analgesia ar gyfer trin osteoarthritis pan fo therapi anffarmacolegol yn annigonol (NICE 2008). Gellir defnyddio analgesia er mwyn gallu goddef poen yn ystod y nos  neu boen o ganlyniad i ymarfer corff yn well.

Paracetamol a NSAIDs

Mae analgesia drwy’r geg, yn arbennig paracetamol wedi cael eu defnyddio ers nifer o flynyddoedd, a defnydd cynyddol o analgesia opioid yn rhannol o ganlyniad i ofn sydd yn gysylltiedig â diogelwch NSAID. Os bydd y darparwr gofal iechyd yn dewis dechrau rhoi paracetamol dos llawn o hyd at 4,000mg/dydd, bydd angen i’r claf gael cwnsela ynghylch peryglon cymryd cynhyrchion eraill sydd yn cynnwys paracetamol, yn cynnwys meddyginiaethau oer OTC yn ogystal â chynhyrchion cyfun sydd yn cynnwys analgesia opioid (Hochberg et al 2012). Archwiliodd adolygiad  (Townheed et al 2009) 15 RCT gan gymharu paracetamol a plasebo a paracetamol a NSAID. Casglwyd mai’r gwelliant o’i gymharu a’r waelodlin oedd 5% gyda newid absoliwt o 4 pwynt ar raddfa o 0 i 100. Hefyd casglodd yr adolygiad ei fod yn foddolrwydd triniaeth cymharol ddiogel ar gyfer OA. Ond canfuwyd nad oedd paracetamol mor effeithiol â NSAID o ran lleihau poen, asesiadau cyffredinol, effeithiolrwydd a gwella statws ffwythiannol. O ran diogelwch, mae’n ymddangos bod paracetamol mor ddiogel â plasebo ac yn fwy diogel na NSAID traddodiadol o ran digwyddiadau niweidiol GI, er bod hyd yr astudiaethau yma yn gymharol fyr, gyda chyfranogwyr dethol iawn. Oherwydd ei broffil risg is, efallai mai paracetamol yw’r dewis cyntaf o ran analgesia.

Os dewisir NSAID, dylid dewis y paratoad argroenol yn hytrach na NSAID drwy’r geg (NICE 2008). Ar hyn o bryd nid oes data ar gael ynghylch effeithiolrwydd NSAID argroenol o’i gymharu â paracetamol. Dangoswyd bod gan NSAID argroenol fuddion tymor byr o’i gymharu â plasebo. Maent hefyd yn dangos gostyngiad mewn digwyddiadau niweidiol nad ydynt yn ddifrifol o’i gymharu â plasebo, er y gallent gynhyrchu annifyrrwch croen yn lleol. Gall cymhwysiad argroenol fod yn fwy ffafriol pan fo un cymal yn hytrach na OA cyffredinol yn bodoli neu o ran trin OA yn cynnar.

Os nad yw’r claf yn cael canlyniad clinigol boddhaol gyda paracetamol, gellir ystyried NSAID argroenol neu drwy’r geg, atalyddion COX-2 neu opioidau (NICE 2008) (dylai NSAID drwy'r geg a COX-2 gael eu rhagnodi gydag atalydd pwmp proton). Ond mae NICE yn casglu nad oes yna dystiolaeth gref sydd yn awgrymu budd cyson o ganlyniad i NSAID traddodiadol a COX-2 o’i gymharu â paracetamol, er y byddai rhai cleifion yn cael mwy o ryddhad symptomau o ganlyniad i gymryd NSAID efallai. Mae NICE (2008) hefyd yn rhybuddio am forbidrwydd a marwoldeb sylweddol o ganlyniad i effeithiau niweidiol ar GI, systemau arennol a chardiofasgwlaidd, a dylai’r NSAID a ddewisir adlewyrchu ffactorau risg yr unigolyn.

Paratoadau argroenol eraill

Data cyfyngedig sydd ar gael sydd yn dangos effeithiau cadarnhaol capsaicin argroenol, a dilyniant tymor byr (NICE 2008), er bod y dystiolaeth wedi ei chyfyngu o osteoarthritis y pengliniau. Ni adroddwyd am unrhyw wenwynedd difrifol yn gysylltiedig â defnyddio capsaicin yn y llenyddiaeth adolygiad cymheiriaid. Ond mae’r gronfa dystiolaeth yn cefnogi defnyddio plastr poeth. Mae triniaethau argroenol yn cael eu defnyddio mewn hunanreoli, ac mae hynny yn helpu i newid ymddygiad iechyd yn gadarnhaol. Yn aml bydd pobl ag OA yn defnyddio triniaethau argroenol yn ogystal â paracetamol ac ymarfer corff dyddiol er mwyn ymdopi â chyfnodau gwaeth na’i gilydd. Mae hynny yn gydnaws â’r dystiolaeth, sydd yn dangos budd tymor byr.

Opioidau

Cynigiodd NICE (2008) bod y dystiolaeth sydd yn cefnogi defnyddio analgesia opioid ar gyfer OA yn wael, a dylid nodi nad oes yna prin ddim astudiaeth dda sydd yn defnyddio’r cyfryngau yma mewn cleifion ag OA yn y cymalau perifferol. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar gael i awgrymu bod esgoli dos y cyfryngau yma yn effeithiol. Hefyd ychydig o ddata sydd yn cymharu gwahanol fformwleiddiadau o opioid neu ffyrdd o’i gymryd. Mae gwenwynedd yn dal yn achos pryder mewn perthynas â defnyddio opioid, yn arbennig ymysg yr henoed. Mae rhwymedd, cyfog, cosfa, blinder a dryswch yn parhau i fod yn sgil effeithiau pwysig i’w hystyried. Ond, rhagnodir opioidau er mwyn rheoli poen mewn ymarfer clinigol pan nad yw paracetamol yn effeithiol a phan na all cleifion oddef NSAID. Argymhellir ymgynghori â chanllawiau’r Gyfadran Meddyginiaeth Poen ar reoli opioid os dechreuir rhoi opioid i gleifion.

Gwrthiselyddion tricyclic

Awgrymodd NICE (2008) bod yna dystiolaeth dda sydd yn cefnogi defnyddio dos isel o gyfryngau tricylic ar gyfer poen OA. Maent hefyd yn ychwanegu rhybudd bod ystyried amharu ar gwsg a thymer yn rhan o asesu’r claf osteoarthritig ac y gellir gwarantu therapi ffarmacolegol priodol (gweler canllawiau NICE ar iselder 2007)

Gwrthgyffylsiynau

Mae Gabapentin and pregabalin yn gyffuriau gwrthgyffylsiwn sydd wedi cael eu defnyddio i drin poen niwropathig. Mae yna beth tystiolaeth sydd yn awgrymu nad yw pob poen OA yn y pengliniau yn nocidderbyniol o ran ei darddiad ac y gall elfen o boen niwropathig fod yn bresennol hefyd  (Hochman et al 2011). Ar ôl archwiliad gofalus a defnyddio offeryn sgrinio niwropathig e.e. PainDetect sydd yn awgrymu presenoldeb elfen o boen niwropathig, gellir ystyried y cyffuriau yma. mae angen mwy o astudiaethau er mwyn penderfynu ar effeithiau hirdymor gwrthgyffylsiynau o ran trin poen niwropathig cysylltiedig ag OA.

Niwtracewticalau

Mae glucosamin and chondroitin yn niwtracewticalau ac maent yn fwydydd sydd yn creu buddion meddygol yn honedig. Archwiliodd NICE (2008) ddau adolygiad a meta ddadansoddiadau systematig  o glwcosamin neu sylffad condroitin a chwe RCT ychwanegol. Er bod treialon oedd yn defnyddio sylffad glwcosamin fel dos sengl o 1500mg yn hytrach na hydroclorid 500mg yn dangos budd o’i gymharu â plasebo, roedd y dystiolaeth mewn perthynas â condroitin yn llai argyhoeddiadol. Mae’r amcangyfrifon o effeithiolrwydd hefyd yn golygu bod eu defnydd y tu hwnt i drothwy fforddiadwyedd yn y GIG. Y cyngor i gleifion fyddai’n dymuno rhoi cynnig ar glwcosamin fyddai defnyddio’r paratoad sylffad am 3 mis fel treial a phenderfynu a fu newid neu beidio yn y boen ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau