Triniaeth anffarmacolegol

Therapi â Llaw

Mae therapi â llaw yn derm byd-eang am symud a llawdrinio cymalau. Mae'n cael ei roi gan ceiropractyddion, osteopathyddion a ffisiotherapyddion sydd wedi cael cymwysterau hyfforddiant ôl-radd. Er bod nifer o ffisiotherapyddion yn honni eu bod yn perfformio therapi â llaw, nid ydynt yn gymwys i berfformio sgil llawdriniad heb gymhwyster ôl-radd.

Nid oes yna unrhyw feta ddadansoddiad ar gyfer effeithiolrwydd therapi â llaw mewn cleifion ag OA y cluniau. Cymharodd astudiaeth gan Hoeksmaet al (2004) raglen ymarfer corff wedi ei theilwra’n unigol gyda rhaglen therapi â llaw protocol safonol. Bu gostyngiad mewn poen yn y ddwy fraich a gwelliant mewn ffwythiant corfforol gyda therapi â llaw yn perfformio’n well nag ymarfer corff.

Nid oes yna unrhyw feta ddadansoddiad a adroddwyd ar gyfer effeithiolrwydd therapi â llaw mewn cleifion ag OA y pengliniau. Mae nifer o’r RCTau yn fychan, <50, neu fe’u defnyddir gyda moddolrwyddau eraill. Cymharodd Deyleet al (2005) therapi â llaw wedi ei gyfuno ag ymarfer corff dan oruchwyliaeth a rhaglen ymarfer corff yn y cartref gydag ymarfer corff yn y cartref yn unig ar gyfer pengliniau. Roedd gwella poen a ffwythiant yn well yn y grŵp actif na’r grŵp rheoli. Gydag NNT o 6 ar gyfer y ddau faes, mae hwn eto yn faes sydd angen archwilio mwy iddo.

Casglodd NICE (2008) y dylid defnyddio llawdriniad ac ymestyn fel atodiad i ymarfer corff, ond gyda maint effaith bychan ar gyfer poen a dim tystiolaeth o newid mewn ffwythiant corfforol ar gyfer ymarfer corff, efallai mai therapi â llaw fydd y driniaeth o ddewis, yn arbennig ar gyfer poen cluniau o’i gymharu ag ymarfer corff yn unig; mae’r NNTau yn sicr yn dangos bod angen mwy o ymchwil.

Bresau

Diffinnir bresau neu orthoses (mewnwadnau esgidiau) fel ‘unrhyw ddyfais feddygol a ychwanegir at gorff unigolyn er mwyn cefnogi, alinio, lleoli, atal symud, atal neu gywiro anffurfiant, cynorthwyo cyhyrau gwan neu wella ffwythiant’(Deshaies 2002). Mae bresau yn cael eu rhagnodi yn bennaf er mwyn addasu’r straen medcanyddol a roddir ar ardal y cymal symptomatig drwy gywiro ansefydlogrwydd ac aliniad y cymal. Ar gyfer osteoarthritis y pengliniau mae’r rhain yn ddyfeisiau allanol o ddau fath yn bennaf; llewys pengliniau a bresau pengliniau rhyddhau llwyth.

Mae llewys pengliniau yn orthoses elastig nad ydynt yn ludiog a ddefnyddir i alinio patelar neu sefydlogi femoro-tibiol blaen. Mae camaliniad patelat yn gysylltiedig ag osteoarthritis pengliniau pateloffemoraidd, ac mae cynnydd y broses o gulhau bwlch y cymal yn dibynnu ar adleoliad y palela medial neu ochrol.

Yn wahanol o lewys pengliniau, mae bresau atal llwyth yn ddyfeisiau ffwythiannol. Mae’n wedi eu gwneud o stemiau allanol, colfachau a strapiau, a’r nod yw lleihau llwythau cywasgu a drosglwyddir i wyneb y cymalau, yn ardal y femoro-tibial medial neu ochrol, yn dibynnu ar leoliad falgws neu farws y ddyfais.

Cyfeiriodd adolygiad gan Brouwer et al (2008) at ddau dreial clinigol ar hap (oedd yn cymharu cleifion â llewys pengliniau â thriniaeth feddygol neu fresau falgws gyda thriniaeth feddygol a grŵp rheoli heb lewys pengliniau neu fresau. Dangosodd y ddwy astudiaeth ostyngiad bychan mewn poen a chynnydd mewn ffwythiant.

Orthoses

Fel bresau pengliniau, dyluniwyd orthoses er mwyn dadlwytho ardal y clefyd. Cymharodd Maillefertet al (2001) fewnwadnau oedd wedi eu gosod yn ochrol ac yn niwtral ar gyfer OA pengliniau medial, ac mewn gwirionedd dangosodd hynny lai o welliant mewn sgoriau poen a ffwythiant corfforol na mewnwadnau a osodwyd yn niwtral. Archwiliodd Rodrigues (2008) fewnwadnau o osodwyd yn fedial ar gyfer cleifion ag OA pengliniau ochrol o’i gymharu â mewnwadnau a osodwyd yn niwtral. Er ei bod yn astudiaeth fechan (n=30) allai danseilio ei dilysrwydd, roedd yr effaith gymharol ar sgoriau poen a symudiad a gwella ffwythiant yn 2.07 a 3.19 yn ôl eu trefn. Mae’n syndod nad oed astudiaeth fwy er mwyn efelychu’r canfyddiadau yma wedi cael ei chynnal hyd yma.

Electrotherapi

Mae electrotherapi a chyfryngau electrogorfforol yn cynnwys  diathermi curiad tonnau byr (maes electromagnetig a churiad, PEMF), therapi ymyraethol, laser, ysgogiad nerfau trydanol trawsgroenol (TENS) ac uwchsain. Mae pob un yn cael eu defnyddio’n gyffredin er mwyn trin arwyddion a symptomau OA megis poen, dolur pwynt sbarduno a chwydd (NICE 2008). Casglodd NICE (2008) bod gan astudiaethau oedd yn defnyddio’r moddolrwyddau yma ansawdd methodolegol amrywiol a manylion ynghylch dosau triniaethau. Roedd yn ymddangos nad oedd uwchsain yn creu unrhyw fuddion y tu hwnt i uwchsain plasebo neu gyfryngau electrotherapi eraill o ran trin osteoarthritis y cluniau a phengliniau (Robinson et al. 2001). Nid oedd dim tystiolaeth o fuddion LASER ar gyfer lleddfu poen mewn safleoedd osteoarthritis cymysg o adolygiad systematig (Brosseauet al. 2000), ond canfu Yurtkuran et al (2007) fuddion o ganlyniad i LASER mewn pwyntiau aciwbigo o ran lleihau chwydd yn y ben-glin. Roedd y defnydd o faes electromagnetig â churiad ar gyfer osteoarthritis yn gyfyngedig ar gyfer osteoarthritis y pengliniau (McCarthy et al. 2006). Ni nodwyd unrhyw astudiaethau ar y cluniau. Nid oes digon o dystiolaeth i gefnogi defnyddio uwchsain, LASER a maes electromagnetig â churiad ar gyfer OA y cluniau a phengliniau. Mae yna dystiolaeth bod TENS yn glinigol fuddiol ar gyfer lleddfu poen a lleihau anhyblygrwydd mewn osteoarthritis, yn arbennig yn y tymor byr.

Aciwbigo

Mae aciwbigo yn golygu trin gyda nodwyddau, ac fe’i defnyddir yn fwyaf cyffredin ar gyfer lleddfu poen. Fel arfer, gosodir tua chwe nodwydd ar yr ardaloedd poenus ac efallai mewn mannau eraill. Byddant nail ai’n cael eu llawdrinio er mwyn creu ‘teimlad nodwydd’ penodol, neu yn cael eu hysgogi’n drydanol (electroaciwbigo) am hyd at 20 munud. Mae rhai ymarferwyr hefyd yn defnyddio mocsa, perlysieuyn sych a losgir ger yr ardal er mwyn darparu gwres. Fel arfer mae cwrs o driniaeth yn cynnwys chwe sesiwn neu ragor, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, os bydd adwaith yn digwydd, bydd poen yn cael ei leddfu’n raddol; ond mae’r adwaith ymysg unigolion yn amrywiol. Casglodd NICE (2008) bod y canlyniadau mewn perthynas ag aciwbigo yn gymysg. Felly, cynigiodd NICE (2008) nad oes digon o dystiolaeth gyson o effeithiolrwydd clinigol nac effeithiolrwydd cost er mwyn caniatáu argymhelliad pendant mewn perthynas â defnyddio aciwbigo ar gyfer trin osteoarthritis.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau