Ystyriaethau seicolegol

Gall byw gydag arthritis fel cyflwr poen cronig arwain at broblemau seicolegol arwyddocaol megis diymadferthedd, iselder a gorbryder sydd yn gwaethygu’r boen a’r anabledd fwyfwy  (Katz a Yelin 1994). Yn aml mae pobl â phoen cronig yn wynebu anhawster o ran perfformio gweithgareddau elfennol a gwerthfawr sydd yn rhan o fywyd bob dydd megis ymwisgo, bwyta, siopa, tasgau yn y cartref ac ymgysylltu â gweithgareddau cymdeithasol  (Katz 1995). Mae cydnabod y cyfyngiadau yma wedi dangos ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen i ymgorffori dulliau ymddygiadol a seicogymdeithasol ochr yn ochr â dulliau biofeddygol fel ffordd ychwanegol o leihau poen ac anabledd yn ogystal â gwella ansawdd bywyd unigolion.

Mae’r Gymdeithas astudio Poen Ryngwladol yn diffinio poen fel ‘profiad synhwyrol ac emosiynol anghyfforddus’. Er bod gennym ni fel gweithwyr iechyd proffesiynol ddealltwriaeth dda o’r mecanweithiau biolegol sydd yn gysylltiedig â dargludo arwyddion poen a’r mecanweithiau sydd ar waith ar gyfer dylanwadu arnynt drwy ddulliau ffarmacolegol a dulliau eraill, yn aml rydym yn anghofio bod poen yn brofiad goddrychol a phersonol iawn a bod iddo bob amser ddimensiwn emosiynol a mae angen i ni ei werthfawrogi. Er hynny, mae nifer o feddygon a therapyddion yn priodoli poen fel rhywbeth sydd naill ai’n gorfforol neu’n seicolegol, ac nid yw hynny’n wir. Mae yna nifer o achosion, yn arbennig yn achos dioddefwyr poen cluniau a phengliniau, pan fo’r canfyddiadau corfforol allai egluro symptomau’r claf wedi cael eu disbyddu, felly esbonnir bod y symptomau yn seicogenig eu tarddiad.

Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau poen yn dangos, er bod y prif emosiynau a brofir gydag anaf acíwt, yn cynnwys gorbryder, a mwy o ymwybyddiaeth corfforol, yn fuddiol fel rhybuddion rhag bygythiad, pan ddioddefir iselder a dicter hefyd ar yr un pryd, maent yn gamaddasol mewn poen is-acíwt a chronig. Mae’r emosiynau yma yn cael eu dwysau gan eu poen ac anabledd, ac os collir rheolaeth ar hynny, gall y boen a’r gorbryder  waethygu a pharhau a dod yn rhan o’r broblem.

Gorbryder

Mae gan bob un ohonom wahanol ffyrdd o ymdopi â straen. Mae rhai pob yn disgrifio teimlad o ‘anniddigrwydd’ neu ‘densiwn’. Gall amlygu ei hun fel anhunedd neu golli chwant bwyd, canolbwyntio gwael neu annifyrrwch. Ni fydd yr emosiwn yma angen triniaeth yn aml, ond gall gorbryder gormodol neu barhaus fod yn niweidiol. Er mai dyma un o’r emosiynau mwyaf elfennol sydd yn gysylltiedig â salwch, gall effeithio’n fawr ar ymgynghori a gofal iechyd. Gall gorbryder dwys arwain at fwy o boen oherwydd y cyfryngu sympathetig cynyddol.

Gorwyliadwraeth

Mae gorwyliadwraeth yn derm a ddiffynir i ddisgrifio yr unigolion hynny sydd yn orwyliadwrus o’u symptomau corfforol ac mae’n gysylltiedig â monitro teimladau yn y corff rhag bygythiadau. Tybiwyd bod yr arddull sylwgar diffygiol yma yn cynnal ac yn dwysau teimladau corfforol ac fe’i gwelir yn yr amrywiol fodelau osgoi ofn pan fo cleifion ofnus yn dod yn gynyddol wyliadwrus o arwyddion o fygythiad i’r corff, a hynny yn ei dro yn arwain at ymddygiad o osgoi ac anabledd cynyddol.

Tybir bod nifer o ffactorau yn gysylltiedig â thymheru gofynion poen o ran tynnu sylw, ac mae’r effeithiau cryfaf a  mwyaf cyson yn gysylltiedig ag ofn, gorbryder a thrychinebu. Mae gwyliadwraeth sylwol am wybodaeth sydd yn bygwth poen yn arwain at debygolrwydd uwch o ganfod ffynonellau o fygythiad posibl, gwaethygu poen, anabledd, dirywiad mewn iechyd corfforol, arwahanrwydd cymdeithasol a cholli gwaith. Gall tuedd sylwol i boen fod yn arwydd o ddiffyg derbyn poen  parhaus a gall fod yn niweidiol i’r broses o’i reoli; mae ei dderbyn yn fuddiol o ran ffwythiant y claf.

Ofn

Mae poen cysylltiedig ag ofn yn cyfeirio at ofn gormodol a nychus o symudiad corfforol a gweithgaredd sydd yn deillio o deimlo’n agored i boen. Mae gan gleifion â phoen  yn aml feysydd pryder sydd angen eu rheoli’n ofalus. Yn llawer rhy aml mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn rhoi cyngor annigonol neu wrthgyferbyniol sydd yn tanseilio unrhyw ffydd a hyder a gynigir yn ddiweddarach ar y daith o reoli’r claf. Gall y meysydd ofn penodol gynnwys:

  • Ofn poen
  • Ofn dolur neu niwed
  • Ofn anabledd
  • Ofn colli rheolaeth
  • Ofn llawdriniaeth
  • Ofn effaith ar deulu a pherthnasoedd
  • Ofn colli cyflogaeth, colli cyflog etc.

I ddechrau, mae’n ymateb normal i osgoi yr hyn sy’n ymddangos yw achos y boen. Ond, gall ofn arwain at osgoi’r gweithgaredd hwnnw yn llwyr. At bwynt byddai’n ymddangos bod hynny yn rhesymol, ond maes o law bydd camddealltwriaethau yn datblygu i fod yn gredoau pendant ynghylch y dolur a'r niwed sydd yn gysylltiedig â phoen. Er enghraifft, efallai bydd cleifion yn osgoi unrhyw driniaeth neu adsefydlu pan ellid dioddef elfen o boen.

Mae yna dystiolaeth gynyddol bod ofn poen, ac ofn dolur neu niwed yn fecanwaith elfennol mewn perthynas â hyrwyddo poen ac anabledd. Er mwyn lleihau’r ofnau a’r gorbryderon yma yn ddigonol, mae angen i feddygon gael dealltwriaeth glir o beth mae’r claf ei angen o’r ymgynghoriad. Mae methu â mynd i’r afael â’r materion yma yn cynyddu’r tebygolrwydd o greu camddealltwriaeth ac anfodlonrwydd, a gallai hynny effeithio ar driniaeth a’r broses o wella. Cymhariaeth ddefnyddiol mewn perthynas â lleihau’r ofn yma fyddai’r enghraifft o athletwr yn gwella o anaf, neu o fod yn anffit, sydd yn derbyn  bod poen yn ganlyniad naturiol i ymarfer.  

Symptomau Iselder

Mae cleifion â phoen cronig yn aml yn disgrifio symptomau iselder nad ydynt yn aml yn ddigon difrifol i’w hystyried fel salwch iselder, ond ni ddylid diystyru hynny yn llwyr. Prif nodwedd iselder yw arddel safbwynt negyddol o’r hunan, yr amgylchedd a’r dyfodol. Efallai bod gan gleifion ddiffyg egni a diddordeb mewn bywyd a ffwythiant meddyliol yn arafu. Efallai eu bod yn teimlo’n drist, anobeithiol, ac yn meddu ar safbwynt besimistaidd o’u dyfodol. Efallai yr effeithir ar gwsg, chwant bwyd ac awch rhywiol, a bydd nifer yn disgrifio problemau na ellir eu disgrifio megis poenau, cur pen, gwendid a rhwymedd.

Yn achos y rhan fwyaf o gleifion, tybir bod tymer isel yn ganlyniad i’w poen, a’r driniaeth orau yw eu helpu i adennill rhywfaint o reolaeth ar y boen a’r anabledd. Eto, bydd meddyliau iselhaol yn cynyddu’r teimlad o anobaith, a thrychinebu ynghylch poen, ofn a’r boen corfforol a deimlir.

Dicter

Gall dicter amlygu ei hun mewn gwahanol ffurfiau. Efallai bod y claf yn ddig oherwydd natur achosol y boen, allai fod yn eilaidd i broblem neu drawma cysylltiedig â gwaith. Efallai bydd y claf yn cyfeirio ei ddicter at y meddygon am awgrymu colli pwysau, ymarfer corff neu am fethu â gwella’r boen. Gall colli swydd neu ymgyfreitha olygu y cyfeirir dicter at y cyflogwr neu’r system gyfreithiol. Bydd meddygon hefyd yn gallu teimlo’n ddig tuag at eu cleifion am fethu ag ymateb i driniaeth, am fethu â chymryd y feddyginiaeth a ragnodwyd neu berfformio rhaglen ymarfer corff neu golli pwysau a roddwyd. Gall hynny achosi i’r meddyg golli amynedd a chydymdeimlad, a gall hynny achosi diffyg cyfathrebu.

Heb deimlad o ymddiriedaeth ddwy ffordd a chydweithrediad rhwng y claf a’r meddyg, gall y teimlad o ddicter neu elyniaeth arwain at driniaeth sydd yn methu a bydd hynny yn ei dro yn bwydo’r teimlad o ddicter fydd yn troi’n gylch o fethiant a rhwystredigaeth.

Credoau am boen a salwch

Credoau am boen yw syniadau y claf ei hun am eu poen a beth mae hynny yn ei olygu iddynt. Gall y credoau yma amrywio o syniad cyffredinol iawn i un penodol iawn. Mae credoau am salwch yn rhoi fframwaith i ni allu gwneud synnwyr o sut yr ydym yn mynd i ddelio â phoen. Maent yn dylanwadu ar ein penderfyniadau ynghylch gofal iechyd a p’un a ddylem fod gartref yn sâl o’r gwaith. Yn aml iawn mae’r credoau yma yn anghyson ac yn wrthgyferbyniol, ac yn aml iawn gall fod yn anodd eu newid. Mae’n ymddangos bod yna bedair prif elfen i gredoau cleifion am salwch.

  • Natur y salwch - credoau am achos ac ystyr y salwch a’r symptomau.
  • Cwrs y salwch i’r dyfodol h.y. hyd a deilliant.
  • Canlyniadau’r salwch hwnnw o ran bywyd a gwaith y claf.
  • Gwella neu reoli - credoau ynghylch y disgwyliadau a’r cyfrifoldeb personol sydd yn gysylltiedig â thrin y salwch.

Gall cleifion fod yn bryderus nid yn unig am y niwed all fod wedi digwydd eisoes, ond hefyd y risg o fwy o niwed yn y dyfodol. Gall y gred yma y gallai eu cluniau a/neu bengliniau fod yn agored i fwy o niwed gyfyngu ar eu gallu i gymryd rheolaeth a chyfrifoldeb personol am eu poen. Gall hynny yn ei dro effeithio ar eu hagwedd tuag at adsefydlu a dychwelyd i’r gwaith.

Model Osgoi Ofn

Gall y model osgoi poen fod yn ddefnyddiol wrth egluro i gleifion bod canfyddiad gormodol o boen o ganlyniad i boen cluniau a phengliniau yn cynnal poen ac ymddygiadau poen sydd yn gamaddasol; dywedir bod gan gleifion ddwy fath o rolau:

  • Rhai sy’n osgoi
  • Rhai sy’n wynebu

Ffigwr 1. Nodweddion Wynebu ac Osgoi


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau