Asesu
Asesu
Mae’r broses o asesu’r glasoed neu oedolyn â chur pen yn dilyn llawer o’r hyn a ddisgrifiwyd yn flaenorol ar gyfer plant. Y prif wahaniaeth yw bod yna rai achosion oedran benodol sydd angen eu hystyried.
Mae NICE yn disgrifio dull fesul cam o asesu:-
- Asesu’r posibilrwydd bod mwy nag un anhwylder cur pen yn bresennol
- Asesu ar gyfer symptomau:-
- Achosion eilaidd difrifol
- Gorddefnyddio meddyginiaeth
- Cur pen math tensiwn a meigryn
- Archwilio am achosion eilaidd
- Os na ellir diagnosio’r achos
- Defnyddiwch ddyddiadur cur pen
- Ystyriwch atgyfeirio am asesiad
Dylai’r hanes cychwynnol ofyn o leiaf
- A oes yna un neu fwy nag un math o gur pen?
- Pryd dechreuodd y cur pen?
- pa mor aml?
- Am ba hyd maent yn para?
- Lleoliad y cur pen? A oes yna fwy nag un lleoliad?
- Dwyster y boen?
- Ffactorau achosol?
- Beth sydd yn gwaethygu’r boen?
- Beth sydd yn gwella’r boen?
- Defnydd/gorddefnydd o feddyginiaeth?
- Symptomau cysylltiedig
- Aflonyddwch gweledol (pryd)?
- Cyfog neu chwydu
- Penysgafn neu chwil
- Poen abdomenol
- Iach rhwng ymosodiadau?
Dylai’r archwiliad gynnwys
- Mesur pwysedd gwaed.
- Teimlo’r rhydwelïau arleisiol, os yw’r unigolyn dros 50 oed.
- Archwiliad niwrolegol, yn cynnwys ffwndosgopeg ar gyfer papiloedema.
- Archwilio’r gwddf ar am sensitifrwydd, anhyblygrwydd a chyfyngiadau i symudiad yn y gwddf.
Gellir lawrlwytho dyddiadur cur pen yma
Gellir lawrlwytho graddfa analog weledol ar gyfer dwyster poen yma
Patrymau cur pen
Gelwir patrwm 1 yn gronig nad yw’n gwaethygu. Dyma’r patrwm a welir gyda’r cur pen sylfaenol a elwir yn math tensiwn. Er y gall cur pen math tensiwn fod yn seicogenig o ran ei aetioleg, gall nifer o ffactorau eraill fod yn gysylltiedig.
Gelwir patrwm 2 yn gronig sydd yn gwaethygu Mae hwn yn batrwm fflag goch dylai ysgogi atgyfeirio prydlon ar gyfer ymchwiliad. Fe’i gwelir mewn Hydroseffalws, Tiwmor yr Ymennydd, Crawniad yr Ymennydd a Phwysedd Gwaed Uchel Mewngraniol Anfalaen.
Mae patrwm 3 yn nodweddiadol o feigryn; bydd dosbarthu pellach yn dibynnu ar symptomau eraill a nodir yn y dyddiadur cur pen.
Mae patrwm 4 yn acíwt neu gronig nad yw’n gwaethygu, a dylid ystyried y posibilrwydd o feigryn sydd yn cydfodoli gyda chur pen tensiwn cefndirol.
Mae BASH yn rhestru’r nodweddion rhybudd yn yr hanes fel:-
- Cur pen sydd yn newydd neu’n annisgwyl mewn claf unigol
- Cur pen fel taran (cur pen dwys sydd yn dechrau’n ddisymwth neu’n “ffrwydrol”)
- Cur pen gydag awra annodweddiadol (yn para >1 awr, neu sydd yn cynnwys gwendid echddygol)
- Awra sydd yn digwydd am y tro cyntaf mewn claf tra’n defnyddio dulliau atal cenhedlu cyfun drwy’r geg
- Cur pen newydd mewn claf hŷn dros 50 oed
- Cur pen newydd mewn claf llai na 10 oed
- Cur pen boreol parhaus gyda chyfog
- Cur pen cynyddol, yn gwaethygu dros gyfnod o wythnosau neu hirach
- Cur pen cysylltiedig â newid osgo
- Cur pen newydd mewn claf â hanes o ganser
Cur pen newydd mewn claf â hanes o haint HIV.
Adborth
Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.