Cur pen eilaidd

Gellir priodoli cur pen sydd yn eilaidd i achosion eraill i nifer o wahanol ffactorau aetiolegol, mae dosbarthiad HIS yn rhestru dros 50 o wahanol fathau o gur pen neilltuol. Yn fras gellir eu rhannu i:-

  • Cur pen anhwylder seiciatrig
  • Cur pen gorddefnyddio meddyginiaeth
  • Cur pen rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaeth (yn cynnwys cur pen rhoi’r gorau i yfed alcohol)
  • Cur pen trawma pen neu wddf
  • Cur pen anhwylder fasgwlaidd (e.e. SAH neu GCA)
  • Cur pen mewngranial (briw meddiannu gofod, pwysedd gwaed uchel mewngranial idiopathig)
  • Cur pen a achosir gan haint (nail ai haint mewngranial neu systemig)
  • Cur pen a chosir gan bwysedd gwaed uchel
  • Cur pen a achosir gan e.e. sinysau, gwddf OA, glawcoma etc.

Ni fydd y modiwl yma yn amcanu at ddisgrifio’r holl gyflwyniadau, ac os bydd y darllenydd yn dymuno tyrchu’n ddyfnach, mae yna adnodd rhagorol a chynhwysfawr yma.

Mae trin cur pen eilaidd yn anelu at leddfu neu gael gwared â’r hyn sydd yn ei achosi.

Cur pen gorddefnyddio meddyginiaeth

Mae hyd at 1 o bob 50 oedolyn yn y DU yn dioddef â chur pen gorddefnyddio meddyginiaeth. Disgrifiwyd cur pen eilaidd i orddefnyddio meddyginiaeth a gyfer trin cur pen gyda nifer o ddosbarthiadau o gyffuriau. Roedd Ergotamin yn un o’r cyffuriau cyntaf a gydnabuwyd, ond erbyn heddiw mae cyffuriau cyfun sydd yn cynnwys codin, barbitwradau a chaffin yn cael eu cydnabod yn eang fel cyfrwng achosol. Fodd bynnag gellir cysylltu triptaniaid a hyd yn oed NSAID a Paracetamol. Yma pwysleisir pwysigrwydd hanes meddyginiaeth OTC, a gall defnyddio’r meddyginiaethau yma ar fwy na 15 diwrnod y mis fod yn arwydd o gur pen gorddefnyddio meddyginiaeth.
Gall y cur pen fod yn amrywiol iawn mewn unigolion ac o un unigolyn i’r llall. Mae’n tueddu i gynyddu gyda gweithgaredd corfforol gyda dim ond ychydig o gyfog neu chwydu cysylltiedig, neu ddim o gwbl. Yn nodweddiadol dechreuwyd cymryd feddyginiaeth ar gyfer cur pen ysbeidiol, ac yna gyda threigl amser daw’r cur pen yn amlach, a’r defnydd o’r feddyginiaeth a bydd cylch o feddyginiaeth/cur pen yn dechrau.
Yna bydd nifer o gleifion yn defnyddio’r feddyginiaeth i ragdybio’r cur pen yn hytrach na’i drin a bydd y cylch yn parhau. Yn anaml y bydd cur pen gorddefnyddio meddyginiaeth yn digwydd pan gymerir meddyginiaeth ar gyfer arwyddion  ar wahân i gur pen sylfaenol.

Achosion cur pen difrifol

Ymysg cur pen eilaidd mae’r achosion cur pen difrifol yn bodoli: -

  • Tiwmorau mewngraniol
  • Llid yr ymennydd/enceffalitis
  • Gwaedlif Isarachnoid
  • Arteritis celloedd mawr
  • Glawcoma cau ongl sylfaenol
  • Pwysedd gwaed uchel mewngraniol idiopathig
  • Gwenwyn carbon monocsid

Mae canllawiau BASH yn pwysleisio bod achosion cur pen difrifol yn brin a phan fo meddygon teulu yn diagnosio cur pen sylfaenol, dim ond 0.045% o’r cleifion hynny sydd â thiwmor malaen yn yr ymennydd o fewn blwyddyn. Mae’n nodi “Mewn gwirionedd maen amau clefyd mewngraniol (tiwmorau, gwaedlif Isarachnoid, llid yr ymennydd) yn anghyffredin, er eu bod yn arwain at hanesion ddylai atgoffa rhywun ohonynt.” Hefyd mae’n awgrymu “Mae cur pen newydd neu sydd wedi newid yn ddiweddar yn galw am asesu gofalus iawn. Yna dylid chwilio am arwyddion corfforol fydd yn arwain at ymchwilio priodol neu atgyfeirio.”

Tiwmorau mewngraniol

Fel arfer ni fydd tiwmorau yn cyflwyno eu hunain fe cur pen nes eu bod yn eithaf mawr. Mae dechrau ffitiau yn gyflwyniad cyffredin a dylid ymchwilio’n llawn i hynny bob amser. Mae’n debygol iawn y bydd arwyddion niwrolegol yn bodoli ac mae archwilio’r ffwndi yn orfodol pan fo cur pen newydd yn ymddangos a dylid ailadrodd hynny yn gyfnodol ar ôl hynny. Gall mân newidiadau mewn personoliaeth godi amheuaeth o nam ar y llabed talcennol, a dylai cur pen mewn pobl sydd â hanes blaenorol o ganser y gwyddir sydd yn metastaseiddio i’r ymennydd a chleifion y mae eu himiwnedd wedi gwanhau gael ei drin o ddifri.

Llid yr ymennydd/enceffalitis

Mae’n amlwg y bydd hynny yn gyflwyniad acíwt gyda llai o ffotoffobia a chlaf sydd yn wael

Gwaedlif Isarachnoid

Mae’n aml yn gyflwyniad syml, ond dylai “cur pen gwaethaf erioed” “taran” a “ffrwydrol” achosi amheuaeth - er y gall cur pen math meigryn gyflwyno eu hunain fel hyn.

Arteritis celloedd mawr

Mewn cur pen newydd mewn pobl dros 50 oed dylid ystyried GCA yn y differyn. Nid yw cur pen yn symptom anorfod o GCA ac nid yw sensitifrwydd dros y  rhydwelïau arleisiol. Mae cloffni’r genau yn arwydd dibynadwy a dylid trin hynny o ddifri. Fel arfer mae ESR yn uwch na 50 mm/hr. Os bydd cur pen yn bresennol efallai bydd yn cael ei ddisgrifio fel difrifol neu waeth yn ystod y nos.

Glawcoma cau ongl sylfaenol

Gall hynny gyflwyno ei hun gyda chur pen ysbeidiol amhenodol, gyda merched, cleifion gyda hypoermetropia ac sydd yn aml â hanes teuluol yn dioddef yn fwy cyffredin. Mae’n brin cyn 50 oed. Fel arfer mae’n hawdd gweld y cyflwyniad acíwt gyda phwysedd gwaed uchel ocwlaidd acíwt, llygaid goch boenus unochrog a channwyll llygad llonydd lled agored. Yn aml mae cyfog a chwydu yn bresennol a nam ar y golwg.  Efallai y bydd math ysgafn o glawcoma ongl gul yn cael ei awgrymu os bydd y claf yn adrodd eu bod yn gweld eurgylchau lliw o gwmpas goleuadau. Nodir bod angen atgyfeirio a thriniaeth brydlon.

Pwysedd gwaed uchel mewngraniol idiopathig

Mae hwn yn achos prin o gur pen, mae’n fwy cyffredin ymysg merched ifanc ac mae’n gysylltiedig a gordewdra. Mae hanes o bwysedd mewngraniol uwch (cur pen sydd yn curo’n gyson, yn waeth yn y bore, pan yn pesychu neu’n ymdrechu, golwg aneglur neu olwg dwbl, cyfog a chwydu a theimlo’n flinedig) a papiloedema yn helpu gyda’r diagnosis.

Gwenwyn carbon monocsid

Gall gwenwyn carbon monocsid is acíwt fod yn bresennol gyda chur pen, cyfog, chwydu, teimlo’n benysgafn, gwendid yn y cyhyrau a newidiadau i’r golwg.

Niwralgiau

Fel arfer gellir gwahaniaethu’n hawdd rhwng poen niwralgaidd a chur pen yn ôl y disgrifiad o’r boen a’r dosbarthiad. Efallai bod yna hypersensitifrwydd i oerni, cyffyrddiad ysgafn neu frwsio’r gwallt.

Mae poen yn y pen a strwythurau’r gwddf yn cael ei gario drwy’r nerf trigeminol, nerf fagws, nerf glosoffaryngeaidd a’r nerf osipitiol.

Gall niwralgia gael ei achosi gan gywasgu, aflunio neu annifyrrwch i’r nerf perifferol neu gan nam canolog, ac mewn rhai achosion nid oes dim achos amlwg. Hefyd gall haint Herpes Zoster fod yn gysylltiedig.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau