Meigryn mewn plant

 

Mewn plant mae’n anoddach gwahaniaethu rhwng cur pen math tensiwn (arferol) a meigryn. Gall plant iau yn arbennig gyflwyno “syndrom cyfnodol” allai gael symptomau niferus ac amrywiol. Y ffactor cyffredin yw y bydd y plentyn yn hollol iach rhwng yr ymosodiadau. Fel arfer bydd y symptomau yn cynnwys poen abdomenol ysbeidiol, ond hefyd gellir gweld chwydu mynych, torticolis cylchol, ymosodiadau o fertigo a chwydu wedi ei nodweddu gan symptomau dwys iawn.

Adroddir bod mynchder meigryn mewn plant mor uchel â 10% a gall arwain at forbidrwydd sylweddol gyda dyddiau ysgol yn cael eu colli a thrallod sylweddol i’r plentyn a’r rhieni. Mae cyflwyniad meigryn (ac eithrio syndrom cyfnodol) yn gyffelyb mewn plant ifanc a’r glasoed.

Darllenwch fwy yma

Efallai bod gan blentyn sydd yn cyflwyno gyda meigryn fath arall o gur pen hefyd. (e.e. patrwm 4 fel y dangoswyd eisoes). Gall pwysigrwydd hanes da ac efallai defnyddio dyddiadur fod yn fuddiol wrth asesu’r math o gur pen.

Awgrymiad o hanes

  • A oes yna un neu fwy nag un math o gur pen?
  • Pryd dechreuodd y cur pen?
  • pa mor aml?
  • Am ba hyd maent yn para?
  • Lleoliad y cur pen? A oes yna fwy nag un lleoliad?
  • Dwyster y boen?
  • Ffactorau achosol?
  • Beth sydd yn gwaethygu’r boen?
  • Beth sydd yn gwella’r boen?
  • Defnydd/gorddefnydd o feddyginiaeth?
  • Symptomau cysylltiedig
    • Aflonyddwch gweledol (pryd)?
    • Cyfog neu chwydu
    • Penysgafn neu chwil
    • Poen abdomenol
    • Iach rhwng ymosodiadau?

Fel arfer bydd plant gyda meigryn yn cael cur pen ysbeidiol mynych o ddwyster cymedrol i ddifrifol. Efallai y byddant yn cael eu disgrifio fel rhai unochrog a'u bod yn curo, er bod yna amledd uwch o boen dwyochrog mewn plant. Fel arfer mae meigryn oedolion yn para am tua 4 i 72 awr er y gallai’r cyfnod fod yn fyrrach i blant. Mae plant yn fwy tebygol o ddioddef aflonyddwch gastroberfeddol fel symptom amlwg. Fel arfer bydd y plentyn yn cyfyngu ar weithgaredd corfforol yn ystod yr ymosodiad ac yn ffafrio amodau tywyll a thawel.

Gall plant brofi awra (tua 30% o’r dioddefwyr) gydag aflonyddwch gweledol cynyddol 5-60 munud cyn y cur pen. Gall awra ddatblygu i fod yn symptomau ac arwyddion niwrolegol eraill, gyda paraesthesia yr aelodau uwch neu’r wyneb. Yn achlysurol gwelir dysffasia - dylai plentyn sydd â hanes da o awra ffocal gael ei asesu gan bediatrydd sydd â diddordeb mewn cur pen.

Gall meigryn heb awra fod yn ychydig anoddach i’w ddiagnosio. Meini prawf diagnostig y Gymdeithas Gur Pen Ryngwladol ar gyfer meigryn heb awra yw:-

A. O leiaf 5 ymosodiad sydd yn bodoli meini prawf B-D

B. Ymosodiadau cur pen sydd yn para am 4-72 awr *(heb ei drin neu heb ei drin yn llwyddiannus)

C. Mae gan y cur pen o leiaf ddau o’r nodweddion canlynol:-

  1. lleoliad unochrog*
  2. teimlad o guro (h.y. yn amrywio gyda churiad y galon)
  3. dwysedd poen cymedrol neu ddifrifol
  4. gwaethygu gan weithgareddau corfforol arferol, neu’n achosi’r claf i osgoi hynny (e.e. cerdded neu ddring grisiau)

D. yn ystod y cur pen, o leiaf un o’r canlynol:-

  1. Cyfog a/neu chwydu*
  2. ffotoffobia a ffonoffobia

E. Ddim wedi ei briodoli i anhwylder arall (nid yw hanes ac archwiliad yn awgrymu anhwylder cu pen eilaidd neu, os ydynt, mae hynny’n cael ei ddiystyru gan ymchwiliadau priodol neu oherwydd nad yw ymosodiadau cur pen yn digwydd am y tro cyntaf mewn perthynas arleisiol agos â’r anhwylder arall)

* Mewn plant gall yr ymosodiadau fod yn rhai byr, mae cur pen yn gyffredinol yn fwy dwyochrog, ac mae aflonyddwch gastroberfeddol yn fwy amlwg.

Triniaeth ar gyfer plant

Mae canllawiau BASH yn benodol iawn  ynghylch rheoli cur pen meigryn mewn Gofal Sylfaenol. Maent yn nodi y gall plant ymateb i fesurau syml, ac y dylai’r camau rheoli fod yn geidwadol. Mae sicrhau’r rhieni yn ffactor bwysig. Maent hefyd yn nodi y gellir rheoli’r rhan fwyaf o blant yn yr un modd ag oedolion, gan ystyried y cymhlyg symptomau gwahanol ac addasu dos yn unol â gwrtharwyddion cysylltiedig a meddyginiaeth ac oedran.

Dylai plant sydd â meigryn problemus nad ydynt yn ymateb i analgesia syml gael ei hatgyfeirio at bediatrydd sydd â diddordeb mewn cur pen.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau