Patrymau cur pen
Gelwir patrwm 1 yn gronig nad yw’n gwaethygu. Dyma’r patrwm a welir gyda’r cur pen sylfaenol a elwir yn fath tensiwn. Er y gall cur pen math tensiwn fod yn seicogenig o ran ei aetioleg, gall nifer o ffactorau eraill fod yn gysylltiedig.
Gelwir patrwm 2 yn gronig sydd yn gwaethygu. Mae hwn yn batrwm fflag goch dylai ysgogi atgyfeirio prydlon ar gyfer ymchwiliad. Fe’i gwelir mewn Hydroseffalws, Tiwmor yr Ymennydd, Crawniad yr Ymennydd a Phwysedd Gwaed Uchel Mewngraniol Anfalaen.
Mae patrwm 3 yn nodweddiadol o feigryn; bydd dosbarthu pellach yn dibynnu ar symptomau eraill a nodir yn y dyddiadur cur pen.
Mae patrwm 4 yn acíwt neu gronig nad yw’n gwaethygu, a dylid ystyried y posibilrwydd o feigryn sydd yn cydfodoli gyda chur pen tensiwn cefndirol.
Trin cur pen mewn plant
Bydd y driniaeth a roddir ar gyfer pob cur pen yn dibynnu ar adnabod y math ac unrhyw ffactorau aetiolegol. Ymdrinnir â chur pen eilaidd drwy drin yr achos tanategol, a bydd bron pob un angen cael eu hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad neu driniaeth. Un cyngor fyddai ystyried cur pen ocsipwtaidd yn fwy difrifol - mewn plant mae’n annhebygol o darddu yn y gwddf, ac er y gallai fod yn ddim mwy na chur pen math tensiwn, mae’n lleoliad llai cyffredin na phoen talcennol neu barwydol.
Gellir trin cur pen math tensiwn sylfaenol gyda mesurau syml (yn cynnwys dim analgesia). Gall defnydd cronig uchel o analgesia yn ei dro arwain at anawsterau gyda chur pen analgesig a chur pen rhoi’r gorau. Efallai y bydd angen teilwra’r driniaeth ar gyfer yr unigolyn (e.e. gwella gorbryder mewn perthynas ag ysgol, straen yn y cartref etc.) neu analgesia syml ysbeidiol.