Beth yw IPED?

Acronym ar gyfer Cyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd (Image and Performance Enhancing drugs) yw IPED. 

Efallai y byddwch hefyd yn clywed PIED neu PEDs yn cael eu defnyddio fel mater o drefn. 

Meddyginiaethau ar bresgripsiwn yn unig yw Cyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd fel arfer, ond nid bob tro.  Mae hyn yn cynnwys cyffuriau sydd wedi’u rhestru fel steroidau anabolig, meddyginiaethau presgripsiwn arferol fel inswlin, cyffuriau presgripsiwn mwy anghyffredin fel hormon twf dynol, rhai cyffuriau hŷn nad ydynt yn cael eu defnyddio’n glinigol fel Clenbuterol (gweithydd beta eang a chryf, o’r un teulu â salbutamol) a sylweddau eraill sy’n anghyfreithlon a/neu’n wenwynig fel amffetaminau a di-nitroffenol.

Yn y blynyddoedd a fu, steroidau anabolig oedd y rhan fwyaf o’r Cyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd. Roedden nhw, yn ôl safonau heddiw, yn wannach ac yn cael eu defnyddio mewn dosau is, at ei gilydd, na’r hyn sydd wedi cael eu defnyddio’n fwy cyffredin yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ein clinig, rydym yn gweld dosau llawer mwy o steroidau anabolig sy’n llawer cryfach.

Yn ogystal â’r defnydd cynyddol o steroidau anabolig sydd i'w gweld yn fwy cyffredin yn ein campfeydd, mae’r defnydd o’r sylweddau cysylltiedig hefyd wedi dod yn fwy a mwy cyffredin. 


Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau