Pennod 12 – Gweithgarwch Corfforol a Chlefyd Anadlol

Asthma

Mae asthma yn anhwylder cyffredin sy’n effeithio ar bobl o bob oed. Mae symptomau anadlol, fel diffyg anadl a brest dynn mynych ysbeidiol a chyfyngu newidiol ar y llif aer allanadlol yn ganlyniad i ymatebolrwydd gormodol yn y llwybrau anadlu a llid yn y llwybrau anadlu.

Mae ymarfer corff rheolaidd yn cael ei argymell fel therapi atodol i feddyginiaeth ar gyfer pobl sydd ag asthma sefydlog 1. Y prif fuddion o hyfforddiant ymarfer corff i bobl ag asthma yw gwell ffitrwydd cardioanadlol a mwy o allu i ymarfer 1-3. Mewn rhai unigolion, bydd ymarfer corff rheolaidd hefyd yn gallu gwella gweithrediadau’r ysgyfaint wrth orffwys 1, 3, rheolaeth ar asthma ac ansawdd bywyd 1. Er bod tystiolaeth gynyddol bod gordewdra yn cynyddu’r risg o gael asthma 4,5, mae’r buddion o golli pwysau ar gyfer rheoli asthma yn parhau’n ansicr 6.

Mae rhai sydd ag asthma sefydlog yn goddef ymarfer corff yn dda 2, 3. Er hynny, gall ymarfer achosi problem benodol i rai unigolion, yn enwedig plant, athletwyr a phobl ag asthma sydd wedi’i reoli’n wael, gan fod ymarfer corff yn sbardun cyffredin i symptomau asthma a broncoddarwasgu. Fel arfer, bydd symptomau a chyfyngiadau ar y llif aer allanadlol yn gwaethygu ar ôl ymarfer i raddau sy’n amrywio o ran difrifoldeb a goblygiadau yn ôl difrifoldeb y clefyd, a gall hyn gyfrannu hefyd at lai o gyfranogi mewn gweithgarwch corfforol 7.

Er mwyn atal broncoddarwasgu a ysgogir gan ymarfer corff: 3, 8-11

  • Dylid rhagnodi meddyginiaeth cyn ymarfer (e.e. gweithydd β2 gweithredol dros gyfnod byr i’w fewnanadlu). Sylwer: mae argymhelliad i ofalu rhag gorddefnyddio gweithyddion β2 a fewnanadlir, gan fod hyn yn gallu arwain at oddefedd a dangoswyd bod cydberthynas â marwolaethau o ganlyniad i asthma mewn cleifion y rhagnodwyd mwy na 12 o fewnanadlyddion lliniaru byr eu gweithrediad ar eu cyfer yn y 12 mis blaenorol 12.
  • Dylid cynghori unigolion i wneud ymarfer cynhesu sy’n cynnwys ymarfer dwysedd uchel ysbeidiol;
  • Dylid annog unigolion i ymarfer mewn amgylchedd llaith cynnes (e.e. pwll nofio) neu, wrth ymarfer mewn tywydd oer, i roi sgarff dros eu ceg neu wisgo mwgwd sy’n cynhesu ac yn lleithio’r aer;
  • Dylid cynghori unigolion i gyfyngu eu cysylltiad â sbardunau yn yr amgylchedd (e.e. llygryddion aer ac alergenau) wrth ymarfer.

Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) 

Mae clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) yn arwain at niwed anadferadwy i feinwe’r ysgyfaint a llid tymor hir yn y llwybrau anadlu sy’n cyfyngu llif aer yn barhaol. Wrth i COPD waethygu, mae symptomau fel diffyg anadl a blinder cyhyrau yn golygu bod ymarfer corff yn brofiad annymunol ac mae hyn, ynghyd â diffyg ymarfer corff, yn peri i gyflwr y cyhyrau ddirywio ac mae hyn yn gysylltiedig â gweithgarwch corfforol llai. Mae hyn yn cyfrannu wedyn at ddirywiad pellach yn y gallu i ymarfer ac at ganfyddiad o ddiffyg anadl. Felly, mae pobl sydd â COPD yn cael eu dal mewn cylch cythreulig lle mae gweithgarwch corfforol yn dirywio a symptomau diffyg anadl yn cynyddu wrth ymarfer 1.

Mae therapi adsefydlu ysgyfeiniol yn ceisio torri cylch cythreulig y diffyg gweithgarwch drwy alluogi pobl â COPD i ddod yn fwy gweithgar o dan oruchwyliaeth ac, yn y pen draw, i deimlo llai o ofn ymarfer a cholli gwynt. 1, 2 Mae therapi adsefydlu ysgyfeiniol yn cynnwys rhaglenni aml-ddisgyblaeth wedi’u seilio ar ymyriad hyfforddiant ymarfer corff, addysg cleifion a thechnegau ymlacio.  Rhai o’r buddion dichonol o hyfforddiant ymarfer corff yn unig  i bobl â COPD yw: 3

  • Gwell ansawdd bywyd cysylltiedig ag iechyd
  • Lles seicolegol gwell
  • Gwella symptomau diffyg anadl ac anghysur yn aelodau’r corff
  • Gwella gallu gweithredol
  • Mwy o gyfranogi mewn gweithgareddau pob dydd
  • Llai o afiachedd a threulio llai o gyfnodau mewn ysbytai
  • Cyfnodau byrrach yn yr ysbyty ar ôl gwaethygiad acíwt

Mae anweithgarwch corfforol yn cael ei gysylltu â risg fwy o gael eich derbyn i’r ysbyty a risg fwy o farw i bobl sydd â COPD, ac mae’n cyfrannu at waethygiad afiechyd a chanlyniadau gwael 4. Felly, mae NICE yn argymell bod cleifion â diffyg anadl sy’n cyfyngu ar eu gweithrediadau sydd ar radd 3-5 ar raddfa’r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer therapi adsefydlu ysgyfeiniol cleifion allanol 5. Hefyd, mae canllawiau Cymdeithas Thorasig Prydain ar adsefydlu ysgyfeiniol yn cynnwys cleifion â COPD ar radd 2 ar raddfa diffyg anadl MRC sy’n profi cyfyngu ar eu gweithrediadau oherwydd diffyg anadl 6. Fodd bynnag, dylai gweithgarwch corfforol gael ei ystyried yn rhan annatod o’r rheolaeth glinigol ar bawb sydd â COPD, beth bynnag yw ei sgôr ar raddfa MRC. 1, 7

 

Mae Canllawiau NICE NG115 yn argymell: 5

  • Trefnu i therapi adsefydlu ysgyfeiniol fod ar gael, fel y bo’n briodol, i’r holl bobl sydd â COPD, yn cynnwys pobl sydd wedi bod yn glaf mewn ysbyty’n ddiweddar i drin gwaethygiad acíwt;
  • Cynnig therapi adsefydlu ysgyfeiniol i’r holl gleifion sy’n ystyried bod COPD wedi amharu ar eu gweithrediadau (rhai ar radd 3, 4 neu 5 ar raddfa MRC fel arfer);
  • Er mwyn i sesiynau adsefydlu ysgyfeiniol fod yn effeithiol, ac i wella’r presenoldeb ynddynt, dylid eu cynnal ar amseroedd sy’n addas i bobl, mewn adeiladau sy’n hawdd eu cyrraedd ac sydd â mynediad da i bobl ag anableddau;
  • Dylai rhaglenni adsefydlu ysgyfeiniol gynnwys ymyriadau aml-elfen, aml-ddisgyblaeth sydd wedi’u haddasu yn ôl anghenion yr unigolyn.  Mae’n bwysig bod y broses adsefydlu yn cynnwys rhaglen o hyfforddiant corfforol, addysg am afiechyd, ac ymyriadau maethol, seicolegol ac ymddygiadol;
  • Dylid hysbysu pobl am y buddion o adsefydlu ysgyfeiniol ac am yr ymrwymiad sydd ei angen i sicrhau’r buddion hyn.

 

Ffeibrosis Systig

Mae’r camweithrediad anadlol cynyddol sy’n gysylltiedig â ffeibrosis systig (FfS) yn arwain at rwystr sefydlog yn y llwybrau anadlu, ymatebion awyriadol annormal a diffyg anadl wedyn wrth ymarfer, sy’n cyfyngu’r gallu i ymarfer a chyflawni gweithgareddau bywyd pob dydd. Mae lefelau isel o weithgarwch corfforol yn cyfrannu at gynnydd mewn afiechyd yng nghyswllt FfS. 1 Yn ogystal â hyn, mae lefelau is o ffitrwydd erobig yn cael eu cysylltu â disgwyliad oes llai.2

Mae ymarfer corff yn ychwanegiad pwysig at driniaeth ar gyfer cleifion sydd â FfS, beth bynnag fo’u hoed a pha mor ddifrifol bynnag yw’r clefyd.3 Er bod y dystiolaeth am effeithiolrwydd hyfforddiant ymarfer corff ymysg cleifion ag FfS yn gymharol gyfyngedig,4 mae ymarfer corff a gweithgarwch corfforol rheolaidd yn gallu darparu buddion o sawl math, yn cynnwys:

  • Mwy o allu i ymarfer
  • Gwella cryfder a dygnwch cyhyrau awyru
  • Lleihau diffyg anadl
  • Cadw gweithrediadau ysgyfeiniol
  • Clirio mwcws yn well

Mae Canllawiau NICE NG78 yn gwneud yr argymhellion canlynol:5

  • Dylid cynghori pobl ag FfS ac aelodau o’u teulu neu ofalwyr (fel y bo’n briodol) fod ymarfer corff rheolaidd yn gwella gweithrediadau’r ysgyfaint a ffitrwydd cyffredinol;
  • Dylid cynnig rhaglen ymarfer corff unigol i bobl sydd ag FfS, gan ystyried eu galluogrwydd a’u dewisiadau;
  • Dylid adolygu rhaglenni ymarfer corff yn rheolaidd i fonitro cynnydd y person a sicrhau bod y rhaglen yn dal yn briodol i ateb ei anghenion;
  • Dylid darparu’r canlynol i bobl ag FfS sy’n derbyn gofal fel cleifion mewnol:
  • asesiad o’u gallu i ymarfer;
  • y cyfleusterau a’r cymorth sydd eu hangen i barhau â’u rhaglen ymarfer corff (fel y bo’n briodol), gan roi sylw i’r angen i atal croes-heintio ac i ganllawiau lleol ar reoli heintiau.

Crynodeb

Prif negeseuon:

  • Dylid trafod y buddion a geir o ymarfer corff ac o gynnwys gweithgareddau ymarfer corff mewn ffordd iach o fyw â’r holl gleifion sydd â chlefydau anadlol cronig.
  • Mae pobl ag asthma sefydlog yn goddef gweithgarwch corfforol yn dda a dylid ei argymell fel therapi atodol i feddyginiaeth.
  • Dylai gweithgarwch corfforol ac adsefydlu ysgyfeiniol gael eu hystyried yn rhan annatod o’r rheolaeth glinigol ar yr holl bobl sydd â COPD
  • Dylid cynnwys hyfforddiant ymarfer corff mewn therapi rheolaidd ar gyfer pobl sydd ag FfS

Ystyriwch:

  • Archwilio a monitro cofnodion eich cleifion i ganfod eu lefelau gweithgarwch corfforol
  • Rhoi cyngor ynghylch pwysigrwydd y dull ffordd o fyw hwn ar gyfer lles
  • Atgyfeirio’ch cleifion i raglen adsefydlu ysgyfeiniol
  • Cydafiacheddau sy’n achosi risg fawr sy’n gyffredin mewn cleifion â chlefyd cronig yr ysgyfaint

Cyfeiriwch gleifion at adnoddau cymorth ychwanegol, fel y rhai sydd ar gael gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint

Buddion i feddygon teulu a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd: Derbyn llai o gleifion i ysbytai, llai o apwyntiadau cleifion allanol, llai o gostau cyffuriau ac ymweliadau.

Diolch: Carem ddiolch i’r awduron canlynol am eu cymorth wrth lunio’r crynodeb yn y bennod hon, Gweithgarwch Corfforol a Chlefyd Anadlol: Pascale Kippelen a Lee Romer o’r Adran Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Prifysgol Brunel, Llundain.

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw 

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Diweddarwyd Chwefror 2020 - Dyddiad adolygu arfaethedig Rhagfyr 2022

 

    

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau