Pennod 14 - Llawdriniaeth ac Ymarfer Corff

Mae’r dystiolaeth mewn perthynas ag ymarfer corff ac iechyd wedi ei hen sefydlu ar draws nifer o feysydd allai atal neu effeithio ar lawdriniaeth:1

  • Marwoldeb pob achos  - 30% yn llai o risg o gymharu’r mwyaf actif gyda’r lleiaf actif
  • Mae’r gostyngiad risg mewn perthynas â thorri clun yn 68% ar lefel uchaf gweithgaredd
  • Llai o risg o gwympo a thoriadau ymysg cleifion hŷn sydd yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgaredd corfforol
  • Canser colon - 30% yn llai o risg mewn rhai sydd yn actif
  • Canser y fron - 20% yn llai o risg mewn rhai sydd yn actif
  • Clefyd cardiofasgwlaidd - 20-35% yn llai o risg o glefyd cardiofasgwlaidd, clefyd y galon coronaidd a strôc

Mae yna dystiolaeth newydd sydd yn dangos bod ymarfer corff cyn ac ar ôl llawdriniaeth yn gwella deiliannau llawfeddygol ac yn lleihau cyfnod cleifion yn yr ysbyty. Yn gynyddol mae gan gleifion llawfeddygol gydafiacheddau meddygol cymhleth allai eu rhagdueddu i ddioddef cymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth, oedi o ran rhyddhau a chyfraddau goroesi llawdriniaeth. 2,3

Dangoswyd bod perfformiad corfforol gwael cyn llawdriniaeth yn cynyddu’r risg o gymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth fawr nad yw’n gardiaidd, 4,5 a’i fod yn ymestyn y cyfnod gwella ar ôl llawdriniaeth abdomenol. 6 Mae yna hefyd dystiolaeth gref os mesurir ffitrwydd cardioanadlol (CRF) cyn llawdriniaeth, gellir rhagfynegi cymhlethdodau yn ystod y cyfnod ar ôl llawdriniaeth mewn nifer o amgylchiadau 7-13

Dangoswyd bod asesu CRF cyn llawdriniaeth yn cynnig manteision sylweddol o’i gymharu ag oedran yn unig o ran rhagfynegi marwoldeb ar ôl llawdriniaeth fawr. 14  Dangosodd yr astudiaeth: i ddechrau bod CRF yn rhagfynegydd annibynnol arwyddocaol o hyd arhosiad mewn ysbytai ymysg cleifion dros 75 oed, ac yn ail, bod CRF isel yn gysylltiedig â chymedr o 11 o ddyddiau yn fwy yn yr ysbyty a 2 ddiwrnod yn fwy mewn gofal critigol. 14

Hefyd dangosodd astudiaeth arall o ffitrwydd cyn llawdriniaeth a deilliannau ar ôl llawdriniaeth abdomenol fawr bod ffitrwydd corfforol yn rhagfynegydd annibynnol o adferiad ar ôl lawdriniaeth yn ogystal â rhagfynegwyr confensiynol oedran a chydafiacheddau. 15 Eto roedd modelau rhagfynegi ar gyfer marwoldeb, cyrchfan rhyddhau a hyd arhosiad mewn ysbyty yn sylweddol well o ganlyniad i ffactorau gweithgaredd a ffitrwydd corfforol.

O ystyried y dystiolaeth gynyddol ynghylch buddion CRF gwell cyn llawdriniaeth, mae’n dilyn mai ymyrraeth resymol ar gyfer gwella deilliannau llawdriniaethol yw cyflwyno hyfforddiant ymarfer corff cyn llawdriniaeth.

Ond, mewn adolygiad sylweddol 16 o’r nifer o astudiaethau sydd wedi edrych ar ymyrraeth hyfforddiant aerobig cyn llawdriniaeth, mae’r amledd, hyd, dwyster ymarfer a’r deilliannau wedi amrywio’n sylweddol. Hefyd, gall y cyfnod rhwng rhestru’r claf a’r llawdriniaeth fod yn gyfyngedig iawn, yn arbennig mewn cleifion canser. O ganlyniad i hynny, mae’r dystiolaeth o well deilliannau clinigol cyn llawdriniaeth ar ôl ymyriadau hyfforddiant aerobig cyn lawdriniaeth yn gyfyngedig ar hyn o bryd. 16 Ond mae nifer o bwyntiau defnyddiol yn amlwg yn barod:

  • canfu’r treial rheoli ar hap mwyaf arhosiad byrrach mewn ysbytai a gofal dwys yn y grŵp ymyrraeth. 17
  • Roedd hyfforddiant aerobig cyn llawdriniaeth yn gwella o leiaf un mesur o ffitrwydd yn y prif astudiaethau.
  • Roedd hyfforddiant aerobig cyn llawdriniaeth yn gwella neu yn cynnal ansawdd bywyd cysylltiedig ag iechyd.
  • Mae’n ymddangos bod hyfforddiant aerobig cyn llawdriniaeth yn ddichonadwy a diogel

Ym maes llawfeddygaeth canser, mae rhaglenni ymarfer corff aerobig cyn llawdriniaeth yn bennaf wedi dangos gwell ffwythiant a gallu corfforol. 18  Ond erbyn hyn mae cleifion yn aml angen chemo neo-adjiwfant a radiotherapi cyn llawdriniaeth canser rectal sylweddol, sydd yn gallu gostwng ffitrwydd corfforol, allai gynyddu cymhlethdodau.

Mewn astudiaeth ymyrraeth ddiweddar a phwysig, dangoswyd bod ymarfer corff strwythuredig ar ôl radiohterapi chemo yn dichonadwy ac y gall adfer ffitrwydd i lefelau gwaelodlin unwaith eto. 19 Mae’r gwaith yma yn cydberthnasu â’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn adran canser gwefan Motivation to Move, ble dangoswyd bod gweithgaredd corfforol yn gwella ffwythiant cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth canser. Hefyd dangoswyd ei fod yn lleihau risg marwoldeb mewn canser y fron a chanser y colon. 20

Nid oes yna ganllawiau NICE penodol ar lawdriniaeth ei hun, ond ar gyfer llawfeddygon fasgwlaidd mae canllawiau NICE CG147 21 ar glefyd arteriol perifferol y coesau yn argymell:

  • Cynnig rhaglen ymarfer corff dan oruchwyliaeth i’r holl gleifion sydd â chloffni ysbeidiol.
  • Ystyried darparu rhaglen ymarfer corff dan oruchwyliaeth sydd yn cynnwys:
    • 2 awr o ymarfer corff dan oruchwyliaeth bob wythnos am gyfnod o dri mis
    • Annog pobl i ymarfer corff at bwynt poen macsimal

Pwyntiau allweddol:

  • Mae ffitrwydd cardioanadlol (CRF) gwael yn cynyddu’r risg o gymhlethdodau o ganlyniad i lawdriniaeth sylweddol.
  • I’r gwrthwyneb, mae gwella CRF cyn llawdriniaeth wedi cael ei gysylltu â llai o gymhlethdodau.
  • Mae asesiad CRF yn cynnig gwell prognosis nag oedran yn unig ar ôl llawdriniaeth fawr
  • Mae CRF yn rhagfynegydd annibynnol mewn perthynas â marwoldeb a hyd arhosiad mewn ysbytai
Casgliadau

Dylai llawfeddygon a rhai sydd yn rhoi cyngor mewn gofal sylfaenol ystyried ymyriadau ymarfer corff cyn llawdriniaethau fel atodiad defnyddiol i therapi.        

Er mwyn helpu i gyflwyno hynny i’ch cleifion, mae gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin daflen canllawiau i gleifion ar ymarfer corff a llawdriniaeth, 22 a gellir ei gweld yma

Negeseuon i fynd adref: Mae ymarfer corff yn rhan bwysig o unrhyw gynllun triniaeth i gleifion gaiff eu hatgyfeirio i gael llawdriniaeth. Gall wella eu iechyd ac arwain at amser gwella byrrach ac arhosiad byrrach yn yr ysbyty ar ôl  llawdriniaeth.

Ystyriwch: Ar yr adeg y gwneir yr atgyfeiriad, rhowch gyngor ar bwysigrwydd ffordd o fyw er eu lles eu hunain a rhannu taflen RCS Caeredin er mwyn atgyfnerthu’r neges hon.

Buddion i weithwyr iechyd proffesiynol: Llai o gostau cyffuriau, cleifion mewnol yn aros am lai o gyfnodau, llai o apwyntiadau ac ymweliadau.

Diweddarwyd Medi 2019

Pennod 14 - Llawdriniaeth ac Ymarfer Corff - Taflen ffeithiau- lawrlwytho

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Mae'r taflenni ffeithiau yma wedi eu cymeradwyo gan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BAsem) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau