Gwrtharwyddion

Er mwyn helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i gynghori cleifion cyn cynyddu gweithgarwch corfforol, mae rhestr gydnabyddedig o rybuddion yn erbyn gweithgarwch corfforol: dylid sgrinio cleifion ar sail y rhestr hon ac, os oes unrhyw wrtharwyddion, rhaid trin yr anhwylder cyn dechrau’r gweithgarwch. Datblygwyd y rhain ar gyfer adsefydlu cardiaidd a sgrinio iechyd cyn cymryd rhan mewn gweithgarwch.

Rhybuddion yn erbyn atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff 16

  • Angina ansefydlog,
  • Pwysedd gwaed systolig ≥ 180 mmHg a/neu bwysedd gwaed diastolig ≥ 100 mmHg,
  • Dangos gostyngiad mewn pwysedd gwaed o > 20 mmHg yn ystod prawf goddef ymarfer,
  • Tacycardia wrth orffwys > 100 bpm,
  • Arhythmia atrïaidd neu fentriglaidd heb ei reoli,
  • Methiant ansefydlog neu acíwt y galon
  • Diabetes ansefydlog
  • Salwch twymynol

Nodir rhagofalon eraill ar gyfer ymarfer yn yr adrannau perthnasol yn y taflenni ffeithiau eraill.

Dyfynnwyd y rhybuddion yn erbyn gweithgarwch corfforol o

BACR 2006 Phase IV Exercise Instructor Training Manual ac ACSM (2009) Guidelines for Exercise Testing and Prescription (dyfynnwyd 20 Hydref 2018). Ar gael yn: http://www.bacpr.com/resources/BACPR_Protocol.pdf

Ymwadiad

Nid yw gweithwyr iechyd proffesiynol wedi'u hyfforddi i roi rhaglenni ymarfer corff i

unigolion ac ni fwriedir i'r adnodd hwn annog unrhyw un i fynd y tu hwnt i'w brofiad ei hun. Fodd bynnag, mae tywys rhywun i gerdded, nofio, beicio neu ddawnsio o fewn gallu pawb.

Pennod 16 - Gwrtharwyddion Taflen ffeithiau - lawrlwytho

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

These factsheets are endorsed by the Royal College of General Practitioners (RCGP), British Association of Sport & Exercise Medicine (BASEM) and the Royal College of Nursing (RCN).

     

Adborth

Er mwyn rhoi adborth ar y modiwl hwn, dilynwch y ddolen hon, byddwch yn cael eich cymryd at holiadur byr a fydd yn cymryd 5 munud i'w gwblhau.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau