Pennod 17 – Adnoddau ar gyfer Gofal Sylfaenol

Canllawiau’r Adran Iechyd ar Weithgarwch Corfforol

Mae’r holl ganllawiau ar weithgarwch corfforol, a ddiweddarwyd yn 2011, a’r dogfennau cefndir ategol ar gael yma. Mae’r rhain yn cynnwys crynodeb o’r dystiolaeth ar Ymddygiad Llonydd a Gordewdra.

Mae taflenni ffeithiau ar gael ar gyfer pob oed ar y canllawiau ar weithgarwch corfforol. Gellir eu rhannu â chleifion neu eu harddangos.

 

Gwefannau ar gyfer rhagor o wybodaeth a/neu gyrsiau ar Feddygaeth Ymarfer Corff

  • FYSS in English Mae fersiwn Saesneg o lyfr y Gymdeithas Gweithwyr Gweithgarwch Corfforol Proffesiynol a Sefydliad Cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Sweden ar gael i’w lawrlwytho. Mae’n waith cynhwysfawr ar sut i atal a thrin gwahanol glefydau ac anhwylderau drwy weithgarwch corfforol. Llyfr cyfeirio rhagorol.
  • The Global Physical Activity Network Mae’n rhoi gwybod am yr ymchwil ddiweddaraf o gwmpas y byd. Gallwch danysgrifio i dderbyn e-gylchlythyr am ddim bob pythefnos i gael gwybod am y gwaith ymchwil a datblygiadau diweddaraf ynghylch hybu gweithgarwch corfforol drwy’r byd.
  • Cyfadran Chwaraeon a Meddygaeth Ymarfer Corff y DU (FSEM) Mae’n cynnig dwy ddogfen, ‘A Fresh Approach’ ac ‘A Fresh Approach in Practice’, ar gymhwyso meddygaeth ymarfer corff sy’n amlinellu’r manteision i gleifion a’r GIG o ddarparu gwasanaethau chwaraeon ac ymarfer.
  • Cymdeithas Chwaraeon a Meddygaeth Ymarfer Corff Prydain (BASEM) Mae’n darparu cyrsiau addysgol ar feddygaeth chwaraeon a meddygaeth ymarfer corff ac yn darparu hyfforddiant sylfaenol ar gyfer gyrfa mewn meddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff.
  • The British Journal of Sport Medicine Mae’r wefan hon yn cynnwys prif erthyglau ar feddygaeth chwaraeon ac ymarfer corff. Ceir adran ddefnyddiol iawn ar addysg  ynghyd â fideos rhagorol ar archwilio orthopaedig, hanes achosion, gwybodaeth am feddygaeth ymarfer corff a deunydd dysgu’r BMJ. Ac mae digon o flogiau a phodlediadau.
  • Cymdeithas Gwyddonwyr Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) Hon yw’r gymdeithas a gynhyrchodd y dystiolaeth ar gyfer canllawiau’r DU ar weithgarwch corfforol. Cyhoeddwyd datganiad sefyllfa BASES ABC of Physical Activity and Health yn Journal of Sports Sciences.
  • Taflenni presgripsiwn ymarfer corff Gwefan ar gyfer y DU a gwledydd tramor sy’n darparu’r newyddion diweddaraf ar weithgarwch corfforol seiliedig ar dystiolaeth drwy gyfrif twitter @exerciseworks a chasgliad mawr o adnoddau yn ei hadran cysylltiadau proffesiynol. Mae cyrsiau addysgol, taflenni presgripsiwn ymarfer corff, strategaethau gweithgarwch corfforol a llyfrynnau ar ymarfer corff i gleifion ar gael i’w prynu gan unigolion a sefydliadau gofal iechyd. Mae’r cyfarwyddwr Ann Gates yn siaradwr proffesiynol ar yr holl bynciau sy’n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol.

 

Fideos i’w dangos mewn ystafelloedd aros:

  • ‘No excuses’ Fideo byr ar YouTube sy’n helpu i ddelio â rhai o’r esgusion cyffredin.
  • 23-and-a-half-hours Fideo cartŵn rhagorol sy’n dangos buddion ymarfer corff. Wedi’i wylio filiynau o weithiau ac yn werth ei weld. 9 munud o hyd.
  • Lets make our day harder Fideo cartŵn am osgoi ymddygiad llonydd.

Rhagor o wybodaeth i feddygon

Canser

  • Cymorth Canser Macmillan Tystiolaeth am effaith ymarfer corff yn ystod ac ar ôl triniaeth am ganser.
  • Cymorth Canser Macmillan Tystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn ymyriadau i hyrwyddo ymarfer corff ymysg cleifion sydd â chanser.

Iechyd Cardiaidd

  • Canolfan Genedlaethol Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Sefydliad Prydeinig y Galon Mae’n cynnal ymchwil a gwerthusiadau i ddarparu gwell tystiolaeth am ffyrdd i ddylanwadu ar ddiffyg gweithgarwch corfforol ac ymddygiad llonydd. Mae’n helpu i ddarparu hyfforddiant ac mae’n cynnig adnoddau i ymarferwyr iechyd.

Iechyd Meddwl

  • Y Brifysgol Agored Cwrs ar-lein am ddim ar ymarfer corff ac iechyd meddwl i weithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Cyf-weld Ysgogiadol a newid ymddygiad

Gordewdra

  • Gwefan Public Health England ar Ordewdra Gwefan sy’n darparu gwybodaeth am ddata, gwerthuso, tystiolaeth ac ymchwil sy’n ymwneud â statws pwysau a’i benderfynyddion.

Osteoarthritis

Ymddygiad Llonydd

Rhagor o Wybodaeth i Gleifion

  • Benefit from Activity Chwaer-wefan Motivate2Move ar gyfer y cyhoedd. Mae’n defnyddio’r ffeithiau a’r ffigurau ar wefan Motivate2Move, ond heb y jargon feddygol er mwyn ei gwneud yn haws i gleifion eu deall. Os bydd gweithiwr proffesiynol sy’n defnyddio gwybodaeth Motivate2Move yn siarad ag aelod o’r cyhoedd am y buddion i iechyd o weithgarwch corfforol, gall ofyn i’r claf ddefnyddio Benefit from Activity i’w helpu a’i atgoffa am y buddion. Mae’n cynnwys hanes achosion cleifion ac mae taflen waith ar gael ar newid ymddygiad ‘How do I change’

Canser ac Ymarfer Corff

  • Cancer Research UK Mae tudalennau defnyddiol ar y wefan sy’n hybu ymarfer corff fel ffordd i leihau’r risg o ddatblygu canser.
  • Cymorth Canser Macmillan Gwybodaeth i’r rheini sydd â chanser ac ar ôl triniaeth. Ffyrdd i ddod yn weithgar gyda dolenni ar gyfer gweithgareddau yn eich ardal chi.
  • The Christies Hospital Llyfryn Gwybodaeth i Gleifion ysbyty canser arbenigol y GIG. Cyngor ymarferol da a diagramau ar gyfer cleifion sydd â llai o allu i symud o gwmpas.

Iechyd Cardiaidd ac Ymarfer Corff

  • Sefydliad Prydeinig y Galon Cyngor ar aros yn weithgar.

COPD ac Ymarfer Corff

  • Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cyngor i gleifion ar ymarfer corff.

Diabetes ac Ymarfer Corff

  • Diabetes UK Gwybodaeth am ymarfer corff ar gyfer diabetes a chyngor arall ar reoli diabetes.

Dementia ac Ymarfer Corff

  • Cymdeithas Alzheimer’s Dogfen ar gyfer cleifion sydd â dementia sy’n cynnig syniadau ymarferol ar gyfer ymarfer corff. Cynghorion buddiol i’r rheini sydd â dementia datblygedig a rhagor o ddolenni ar gyfer cymorth.

Anabledd ac Ymarfer Corff

Ffibromyalgia ac Ymarfer Corff

Iechyd Meddwl ac Ymarfer Corff

Sglerosis Ymledol ac Ymarfer Corff

  • Ymddiriedolaeth Sglerosis Ymledol Adran gwybodaeth i gleifion am ymarfer corff. Rhagor o ddolenni i’w chwilio.

Iechyd Cyhyrysgerbydol ac Ymarfer Corff

  • Gwefan CSP i feddygon ar gyngor ar ffisiotherapi ac adnoddau i’w lawrlwytho.
  • Arthritis Research UK Cyngor ar ymarfer corff ac arthritis.
  • Arthritis Research UK Taflenni ymarfer corff a fideos i gleifion ar:
    • Ymarferiadau ar gyfer ysigiadau’r ffêr
    • Ymarferiadau poen cefn
    • Ymarferiadau at boen yn y pen-glin
    • Ymarferiadau at boen yn y gwddf
    • Osteoarthritis
    • Plantar fasciitis
    • Ymarferiadau at boen yn yr ysgwyddau
    • Ymarferiadau at boen yn y penelin, yn cynnwys ysigiad penelin
    • Amodau ar gyfer ymarferiadau dal i symud mewn cartrefi
  • ShoulderDoc.co.uk Gwefan sy’n darparu gwybodaeth i gleifion a meddygon am anafiadau i’r ysgwydd.

Poen ac Ymarfer Corff

Clefyd Parkinson ac Ymarfer Corff

  • Cymdeithas Clefyd Parkinson Ewrop Trosolwg da ar y dystiolaeth a chrynodebau o erthyglau i’w darllen a chanllaw ymarferol ar ymarfer corff diogel i rai sydd â chlefyd Parkinson.
  • Parkinson’s UK Gwefan sy’n cynnig cyngor ar ymarfer corff a dolenni.

Beichiogrwydd ac Ymarfer Corff

Eistedd ac Ymarfer Corff

  • Getting Started Cynghorion syml ar gynyddu gweithgarwch corfforol yn eich bywyd pob dydd.
  • Do you sit at a desk all day Ffeil pdf i’w lawrlwytho am ddim gan Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi. Mae’n cynnig set o ymarferiadau defnyddiol i’r rheini sy’n gweithio wrth ddesg neu gallwch eu defnyddio’ch hun!
  • A Sitting poster Poster y Washington Post i’w arddangos yn y swyddfa.
  • Get Britain Standing Ymgyrch i hybu ymwybyddiaeth ac addysgu pobl am beryglon ymddygiad llonydd.

Dod o hyd i weithgarwch

  • Walk4life Gwefan ddefnyddiol ar gerdded ar gyfer y DU. Mae’n cynnwys dull syml o chwilio mapiau ordnans am leoedd i gerdded ym mhob rhan o’r DU a dyfais i gynnwys y wefan hon yn eich gwefan chi. Gellir llwytho’r ddyfais ar wefannau busnes, gwefannau cwmnïau cyhoeddus etc. Gall unigolion ymuno am ddim a chynnwys eu llwybrau cerdded eu hunain a monitro eu ffitrwydd drwy’r wefan.
  • Walk Unlimited Gwefan y sefydliad a greodd wefan Walk4life a Benefit from Activity. Mae’n darparu nifer o wefannau ar ffyrdd iach o fyw a gwefan ‘Dr maps’ sy’n cynnwys enghreifftiau o fapiau a grëwyd ar gyfer meddygfeydd meddygon teulu, ysbytai a busnesau. Beth am osod mapiau cerdded yn eich sefydliad iechyd i chi’ch hun, eich staff a chleifion
  • Walking for Health Rhwydwaith cynlluniau cerdded Lloegr.
  • Let’s Walk Cymru Rhwydwaith cynlluniau cerdded Cymru.
  • Paths for All Rhwydwaith cynlluniau cerdded yr Alban.
  • Walk NI Rhwydwaith llwybrau cerdded a grwpiau cerdded Gogledd Iwerddon.
  • Sustrans. Elusen sy’n hyrwyddo beicio fel modd trafnidiaeth sy’n iachach, yn lanach ac yn rhatach. Mae’n cynnig cyngor a gallwch chwilio am y llwybrau beicio sydd ar gael drwy deipio’ch cod post. Mae map o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n dangos y llwybrau yn eich ardal chi.
  • English Federation of Disability Sport Sefydliad sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo chwaraeon ar gyfer pobl ag anableddau. Mae’n eich helpu i ddod o hyd i weithgareddau sy’n addas i chi fel unigolyn os ydych yn anabl.

Cynghorion i weithwyr iechyd proffesiynol ar hyrwyddo’r Canllawiau Gweithgarwch Corfforol (CGC)

  • Dangoswch ffeithlun y CGC mewn lle amlwg yn eich ystafelloedd aros.
  • Darparwch gopïau o ffeithlun y CGC ar gyfer pob oedran yn eich ystafelloedd aros.
  • Argraffwch y CGC ar ‘ochr dde’ eich presgripsiynau FP10. Targedwch wahanol grwpiau oedran a/neu wahanol grwpiau clefyd, neu bawb. Gwnewch hyn am 2-3 mis a’i wneud eto 2-3 gwaith y flwyddyn er mwyn dal sylw.
  • Anfonwch wahoddiadau i dderbyn cyngor ar ymarfer corff at rai mewn grwpiau clefyd penodol e.e. pobl ar eich cofrestr sydd â phwysedd gwaed uchel.
  • Gwaddol y Gemau Olympaidd: gofynnwch am fanylion am gyfleusterau chwaraeon lleol, campfeydd, pyllau nofio, llwybrau beicio, llwybrau/grwpiau cerdded, dosbarthiadau ffitrwydd, Pilates, Tai Chi, zumba etc. Dangoswch y rhain wrth ochr y CGC yn eich ystafell aros neu ar dudalen ar weithgarwch corfforol ac iechyd ar eich gwefan.
  • Rhowch ddyfais walk4life ar eich gwefan. Mae’n hawdd ei llwytho ac mae ar gael am ddim. Mae ar gael ar wefan Walk4life Gwefan ddefnyddiol ar gyfer y DU. Mae’n cynnwys dull syml o chwilio mapiau ordnans am leoedd i gerdded ym mhob rhan o’r DU. Gellir llwytho’r ddyfais ar wefannau busnes, gwefannau cwmnïau cyhoeddus etc. Soniwch amdani wrth gleifion. Gall unigolion ymuno am ddim a chynnwys eu llwybrau cerdded eu hunain a monitro eu ffitrwydd drwy’r wefan.
  • Pan ddarperir y ddolen i Motivate2move i chi, cadwch hi gyda’r ffefrynnau ar eich cyfrifiadur. Gallwch chwilio’r wefan am ffeithiau yn ôl yr angen neu chwilio am adnoddau a gwybodaeth ychwanegol i gyd yn yr un lle. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru bob blwyddyn.
  • Os oes sianel fideos iechyd ar sgrin yn eich ystafell aros, dangoswch y fideos ar You Tube ‘Lets make our Day Harder’ a ’23-and-a-half-hours’.

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau