Pennod 2 - Marwoldeb Pob Achos (hirhoedledd)

Mae gweithgaredd corfforol annigonol a ffitrwydd corfforol gwael yn ffactorau risg arwyddocaol mwn perthynas â marwoldeb cynamserol; mae cyrraedd yr isafswm lefel gweithgaredd corfforol a argymhellir yn debygol o arwain at ostyngiad o 30% o ran y risg o farw’n gynnar.1 Mae anweithgarwch corfforol a ffitrwydd corfforol isel yn annibynnol ar ffactorau risg eraill ac mae hynny yn hyd yn oed mwy arwyddocaol pan fyddwch yn ystyried y gyfran uchel o’r boblogaeth sydd yn anweithgar a ddim yn ffit (Ffigwr 1).

Ffigwr 1 Ffracsiynau priodoladwy (%) ar gyfer marwolaethau pob achos mewn 40,842 (3333 o farwolaethau) mewn dynion a 12,943 (491 o farwolaethau) mewn merched yn Astudiaeth Hydredol y Ganolfan Aerobeg. Mae’r ffracsiynau priodoladwy yn cael eu haddasu ar gyfer oedran a phob eitem arall yn y ffigwr. Mae’r ffracsiwn priodoladwy yn amcan o nifer y marwolaethau mewn poblogaeth fyddid wedi eu hosgoi petai ffactor risg penodol ddim yn bodoli.2

Mae yna berthynas wrthdro rhwng swm y gweithgaredd corfforol a marwoldeb pob achos: po fwyaf gweithgar yr ydych y lleiaf tebygol yr ydych o farw yn gynamserol .3 Hefyd, mae cryfder cyhyrau gwael yn gysylltiedig â marwoldeb cynamserol, mae’n debyg oherwydd risg uwch o gwympo (Ffigwr 2).

Ffigwr 2 Dadansoddiad ffactorau risg marwoldeb pob achos wedi ei addasu ar gyfer ffactorau risg eraill. Astudiaeth hydredol Aerobig (8762 o ddynion  20-80 oed. Camau dilynol cyfartalog 19 mlynedd, cyfanswm o 503 o farwolaethau).4

Mae treulio cyfnodau hir yn ystod y dydd yn eistedd (dros 6 awr) hefyd yn gysylltiedig â risg uwch o farwoldeb cynamserol, hyd yn oed os ydych yn actif.5  Mae nifer o gleifion yn cael anhawster deall ystyr lleihau risg, felly defnyddiwyd ymchwil hefyd i ddangos effaith gweithgaredd corfforol ar hirhoedledd. Mae hyd yn oed symiau bychan o weithgaredd corfforol yn lleihau’r risg o farw’n gynamserol. Gall cyn lleied â 15 munud o ymarfer corff pob dydd ychwanegu tua 3 blynedd at fywyd o’i gymharu ag unigolion anweithgar.6  Awgrymodd yr un astudiaeth y gallai 30 munud o weithgaredd corfforol rheolaidd (lefel Canllawiau gweithgaredd  corfforol y DU) ychwanegu 4.2 blynedd at fywydau dynion a 3.7 blynedd at fywydau merched.

Negeseuon allweddol:

  1. Dangoswyd bod gweithgarwch corfforol yn gysylltiedig â byw yn hirach.
  2. Mae ffitrwydd isel wedi cael ei gysylltu â risg uwch  o farwoldeb cynamserol nag ysmygu a diabetes gyda’i gilydd mewn poblogaethau anweithgar.

Diweddarwyd Medi 2019

Pennod 2 - Marwoldeb pob achos (hirhoedledd) - Taflen ffeithiau lawrlwytho

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Mae'r taflenni ffeithiau yma wedi eu cymeradwyo gan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASEM) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).

 

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau