Pennod 5 - Clefyd cronig yr arennau (CKD)

CKD - mae’r term yma yn disgrifio grŵp o anhwylderau cynyddol ar yr arennau na ellir eu dadwneud yr amcangyfrifir sydd yn effeithio ar tua 8% o boblogaeth y DU.1

Mae dirywiad cynyddol mewn ffwythiant arennol yn gysylltiedig â:

  • Morbidrwydd a marwoldeb cynyddol
  • Difetha cyhyrau
  • Anaemia
  • Llid systemig 
  • Cydafiacheddau metabolig, yn cynnwys diabetes math II a gordewdra2

Maes o law bydd lleiafrif o gleifion yn symud ymlaen i gam terfynol methiant arennol (ESRF) sydd yn golygu y byddant angen dialysis neu drawsblaniad, ond yr achos marwolaeth mwyaf cyffredin o bell yw clefyd cardiofasgwlaidd (CVD).2

Mae gan gleifion â CKD3, 4  ffitrwydd corfforol gwael a llai o allu i ymarfer corff, sydd yn uniongyrchol gysylltiedig â marwoldeb pob achos5. Mae lefelau gweithgaredd corfforol yn amrywio ymysg poblogaethau CKD, gyda ~40% o gleifion nad ydynt yn ESRF yn gorfforol actif, ond mae’r lefelau yn gostwng wth i’r clefyd ddatblygu ac maent ar eu hisaf ymysg cleifion ESRF sydd yn cael dialysis.6  Ond, mae lefelau uwch o weithgaredd corfforol amser hamdden a cherdded yn gysylltiedig â dirywiad arafach mewn ffwythiant arennol, llai o risg o therapi arennau newydd a marwoldeb7,8.

Nid oes digon o astudio wedi bod ar ddefnyddio ymarfer corff wrth drin ac adsefydlu cleifion o’r fath, ond erbyn hyn mae yna ddigon o dystiolaeth o fuddion ymarfer corff fel y gellir cyfeirio ati yng nghanllawiau presennol NICE ar gyfer rheoli CKD:

Mae canllawiau NICE CG1829 ynghylch clefyd cronig yr arennau mewn oedolion yn argymell:

  • Annog pobl â CKD i ymgymryd ag ymarfer corff, cyrraedd pwysau iach a rhoi’r gorau i ysmygu. (2008)

Mae canllawiau Sefydliad Arennau Cenedlaethol America yn cynnwys  datganiad cyffelyb sydd yn annog ymarfer corff, colli pwysau a rhoi’r gorau i ysmygu mewn perthynas â CKD; ond nid oes cyngor penodol yn y canllawiau cyfredol yma ar gyfer ymarfer corff a rhagnodi gweithgaredd corfforol. Mae mwy o wybodaeth yn cael ei darparu yng nghanllawiau Deilliannau Byd-eang Gwella Clefyd arennol America 2012 (KDIGO)10  ar gyfer rheoli pwysedd gwaed, sydd yn cymeradwyo gwneud ymarfer corff sydd yn “gydnaws ag iechyd a goddefiant cardiofasgwlaidd, ac anelu am o leiaf 30 munud 5 gwaith yr wythnos”. Er bod canllawiau clinigol presennol ynghylch ymarfer corff o ran rheoli cleifion CKD yn brin yn y DU, mae canllawiau mwy trylwyr yn gynwysedig yn y llawlyfr o Sweden, Gweithgaredd Corfforol wrth Atal a Thrin Clefydau (FYSS mewn Swedeg)11

Buddion ymarfer corff mewn perthynas â CKD:   

Mae data a ddaw o nifer o adolygiadau systematig a/neu ddadansoddiadau meta 12 - 16a threialon rheoli ar hap ac astudiaethau arbrofol 17 - 22 i effaith ymarfer corff ar draws sbectrwm CKD yn adrodd am y buddion canlynol:

  • Effeithiau cadarnhaol arwyddocaol ar allu i ymarfer corff yn dilyn pob math o ymarfer corff yn cynnwys aerobig ac ymarfer corff gwrthiant a wneir yn unigol neu mewn cyfuniad.
  • Mwy o allu i gerdded
  • Effeithiau cadarnhaol arwyddocaol buddion cardio-warchodol a lleihau ffactorau risg cardiofasgwlaidd yn cynnwys rheoli pwysedd gwaed mewn CKD nad yw’n ESRF ar ôl ymarfer corff aerobig.
  • Dadwneud dirywiad cyhyrol cysylltiedig â CKD a gwelliannau o ran maint cyhyrau a chryfder ar ôl ymarfer corff gwrthiant cynyddol.
  • Gwell ansawdd bywyd cysylltiedig ag iechyd ar ôl ymarfer corff aerobig a gwrthiant a wneir yn unigol neu yn gyfun
  • Llai o lid systemig a marcwyr cylchredol straen ocsidiol (malondialdehyde a 4-hydroxyalkenals) ar ôl ymarfer corff aerobig

O ganlyniad i hynny, argymhellir ymarfer corff aerobig a gwrthiant oherwydd eu heffaith fuddiol unigol ar iechyd cardiofasgwlaidd a chyhyrau ysgerbydol yn y cleifion yma23,24 sydd fel arfer yn byw bywydau eisteddog25.

Rhagofalon:

Mae’r gwrtharwyddion i ymarfer corff absoliwt arferol yn gymwys i CKD

Gellir ystyried bod y canlynol yn rhagofalon a gwrtharwyddion penodol ar gyfer CDK 6, 13, 24, 26, 27

  • O ystyried mynychder sylweddol CVD, ddylai’r claf fod â dim angina  neu angina sefydlog, pwysedd gwaed a reolir yn dda a chyn lleied â phosibl o gadw hylif.
  • Mae cleifion â CKD yn dueddol o ddioddef toriadau oherwydd eiddiledd ac anafiadau tendinoses, ac adroddir am rwygo gewynnau ohonynt eu hunain mewn CKD. Hefyd, mae problemau cyhyrysgerbydol a chymalau yn debygol o fod yn ganlyniad cyffredin i ddechrau ymarfer corff oherwydd mynychder uchel o gydafiacheddau yn y rhan fwyaf o gleifion CKD. Felly dylid ymgorffori ymarferion hyblygrwydd ac ymestyn ynghyd â chyfnod cynhesu ac oeri hir i raglen ymarfer corff raddol.
  • Dylai cleifion â chlefyd polycystig yr arennau a rhai sydd wedi cael trawsblaniad arennau osgoi ymarferion gwrthdaro sylweddol oherwydd y risg o anaf mecanyddol i’w harennau.
  • Gall cleifion â ffistwla ymarfer eu braich ffistwla, ond ni ddylid rhoi pwysau ar yr ardal honno.

Gwrtharwyddion penodol i CKD

  1. Abnormaleddau electrolytau - yn arbennig hypo/hypercalaemia
  2. Newidiadau ECG diweddar -  yn arbennig tachyarhythmias symptomatig neu brady-arhythmias
  3. Ennill gormod o bwysau rhyng-ddialytig >4kg er y sesiwn ddialysis ddiwethaf
  4. Triniaeth dialysis ansefydlog a chynyddu meddyginiaeth
  5. Cyfyngiad pwlmonari
  6. Oedema perifferol

Argymhellion: 

Er ei bod yn bwysig cydnabod y rhagofalon, mae’r un mor bwysig cofio, yn absenoldeb gwrtharwyddion absoliwt i ymarfer corff, mae’n debyg bod ymddygiad eisteddog yn achosi mwy o risgiau iechyd na gwneud gweithgaredd corfforol rheolaidd o ddwyster cymedrol priodol. 28

Dylid cynghori cleifion i ymgorffori mwy o weithgaredd corfforol i’w ffordd o fyw pryd bynnag fo hynny’n bosibl, gan gynyddu dwyster a hyd yn raddol.29 Er mwyn cael mwy o welliannau o ran gallu aerobig a maint a chryfder cyhyrau, dylid annog cleifion i gynyddu i ddwyster cymedrol, ond y prif nod yw sefydlu arferiad parhaus o weithgaredd corfforol rheolaidd. Mae pennu targedau afrealistig yn anfuddiol oherwydd nad yw’r claf yn debygol o ymgysylltu â rhaglen os nad oes ganddynt ddigon o hyder a ffydd yn eu gallu i lwyddo, ac mae methiant yn gallu bod yn eithriadol ddatgymhellol. Felly, er mwyn cychwyn a chynnal ymddygiad ymarfer corff yn effeithiol, mae’n bwysig gweithio gyda’r claf a’u helpu i:

  • ddeall buddion posibl ymarfer corff yng nghyd-destun eu iechyd a’u ffordd o fyw eu hunain
  • pennu nodau cyraeddadwy sydd yn ystyrlon a phriodol i’r unigolyn
  • llunio cynllun realistig o gamau ac ystyried ffyrdd o reoli rhwystrau posibl
  • monitro cynnydd a chydnabod gwelliannau

Neges allweddol:

Mae ymarfer corff yn creu nifer o fuddion i unigolion â CKD a dylid ei ddefnyddio fel atodiad i driniaeth er mwyn rheoli a gwella nifer o’r clefydau sydd yn gysylltiedig â chydafiacheddau.

Ystyriwch:

  1. Archwilio eich cleifion CDK i weld a ydynt yn ymgysylltu ar hyn o bryd ag ymarfer corff neu weithgaredd corfforol.
  2. Wrth ddiagnosio ac adolygu, rhoi cyngor ynghylch pwysigrwydd y math yma o ffordd o fyw er eu lles eu hunain.

Buddion i feddygon teulu a thimau:

Llai o gostau gofal iechyd, yn cynnwys cwympiadau, a cholli annibyniaeth. Oherwydd bod cleifion CKD yn tueddu i ddioddef dirywiad cyhyrol a gwendid, mae gwarchod ffwythiant corfforol yn hynod bwysig a pherthnasol, ac felly mae gan ymarfer corff priodol y potensial i leihau morbidrwydd ac i greu arbedion cost cysylltiedig.

Cyfeiriwch gleifion at:

Ffederasiwn Arennau Cenedlaethol 

Ymchwil Arennau y DU 

Diweddarwyd Medi 2019

Pennod 5 - Clefyd cronig yr arennau (CKD)- Taflen ffeithiau- lawrlwytho

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Mae'r taflenni ffeithiau yma wedi eu cymeradwyo gan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BAsem) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).

 

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau