Pennod 6 - Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd Meddwl

Iselder

Mae gan bobl sydd â salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia, iselder neu anhwylder deubegynol iechyd corfforol salach a disgwyliad oes byrrach o 10 mlynedd o leiaf o’i gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol. 1,2  Y salwch corfforol mwyaf cyffredin yw clefyd cardiofasgwlaidd ac mae iselder difrifol yn gysylltiedig â risg uwch o 78% o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd a risg uwch o 85% o farwolaeth cysylltiedig â chlefyd cardiofasgwlaidd. Mae’r marwoldeb cardiofasgwlaidd sylweddol yma sydd yn gysylltiedig â sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol yn cael ei briodoli yn rhannol i’r ffactorau risg coronaidd addasadwy cynyddol canlynol: 2,4

  • dietau afiach
  • gordewdra
  • ysmygu
  • diabetes
  • gorbwysedd
  • hyperlipidaemia

Yn y rhan fwyaf o’r cyflyrau yma mae ffactorau ffordd o fyw cysylltiedig â gweithgaredd corfforol yn chwarae rôl bwysig.

Atal iselder gyda gweithgaredd corfforol: Mae astudiaethau sydd yn archwilio a all gweithgaredd corfforol warchod rhag y risg o iselder yn ddiweddarach yn ystod bywydau unigolion wedi dangos effeithiau cadarnhaol. 

  • Mae’n ymddangos bod y dystiolaeth yn effeithiol o blentyndod (9-15 oed) a bod hynny yn para am hyd at ugain mlynedd yn ddiweddarach. 
  • Roedd y rhan fwyaf o’r effaith warchodol yma ar lefelau isel o weithgaredd ac fe'i gwelwyd beth bynnag oedd dwyster y gweithgaredd.
  • Erbyn hyn awgrymwyd y gellid atal hyd at 12% o achosion iselder yn y dyfodol drwy wneud dim ond 1 awr o weithgaredd corfforol bob wythnos. 7

Trin iselder gyda gweithgaredd corfforol: Mae yna beth tystiolaeth da bod gweithgaredd corfforol dwysedd cymedrol rheolaidd yn effeithiol fel triniaeth acíwt ar gyfer iselder ysgafn i gymedrol ac o ran lleihau iselder ymysg y boblogaeth anghlinigol o oedolion.8-11  Hefyd gall helpu i leihau’r risg o lithro’n ôl. 9

Mae astudiaethau yn awgrymu y gall gweithgaredd leddfu symptomau iselder ymysg y boblogaeth gyffredinol, a hefyd y gallai symptomau iselder fod yn rhwystr rhag gwneud gweithgaredd corfforol h.y. mae’r berthynas yn un ddwy ffordd. 12 O ran y math mwyaf effeithiol o weithgaredd, mae ymarfer corff dwyster cymedrol yn effeithiol ond mae’n ymddangos nad yw ymarfer corff dwyster isel yn achosi dim effaith. 13 Mae metaddadansoddiad diweddar o’r boblogaeth o oedolion wedi awgrymu y gall ymyriadau gweithgaredd corfforol dwyster cymedrol, gweithgaredd aerobig, ac os caiff hynny ei oruchwylio gan hyfforddwyr ymarfer corff proffesiynol, arwain at fwy o effaith ar anhwylderau iselder sylweddol. 14,15 Mewn plant ac oedolion ifanc (hyd at 20 oed) mae gwahanol ddwyster ymarfer corff yn methu â dangos unrhyw effeithiau arwyddocaol.16 Ond, o fewn yr oedran yma mae’r dystiolaeth wyddonol yn dal yn gyfyngedig fel na ellir ffurfio casgliadau pendant. 16

Hefyd dangoswyd bod gweithgaredd corfforol sydd wedi ei gydweddu â’r dwyster a ddymunir gan yr unigolyn yn gwella deilliannau iechyd meddwl a chyfraddau dyfalbarhau. 17 Pan gyfunwyd ymarfer corff o ddwyster a ffafrir gyda chymorth ysgogiadol roedd hynny yn helpu i leihau symptomau iselder, ansawdd bywyd a chyfraddau dyfalbarhau. 18

Dylid rhoi cyngor ynghylch gweithgaredd corfforol ynghyd â meddyginiaeth gwrthiselyddion a neu driniaethau seicotherapi. 19

Mae Canllawiau NICE CG90 ar Iselder mewn oedolion: Trin a rheoli iselder mewn oedolion yn argymell: 19

Ar gyfer pobl â symptomau iselder parhaus is na’r trothwy neu iselder ysgafn i gymedrol, un dewis yw cynnig atgyfeiriad ar raglen gweithgaredd corfforol strwythuredig mewn grŵp, a dylai hynny:

  • Gael ei ddarparu mewn grwpiau gyda chymorth gan ymarferydd cymwys
  • Cynnwys tair sesiwn yr wythnos fel arfer o hyd cymedrol (45 munud i awr) dros 10 i 14 wythnos (cyfartaledd o 12 wythnos)

Mwy i’w ddarllen yma

Gorbryder

Mae nifer o astudiaethau wedi gwerthuso effaith gweithgaredd corfforol ar orbryder ac mae rhai yn cysylltu gweithgaredd corfforol gyda lleihad cyson mewn symptomau gorbryder. 10,20,21 Gwelir hyn ar ei orau mewn gorbryder cyflwr ac mae llai o dystiolaeth ar gyfer cyflyrau nodwedd. 20,21 Ond mae’r ymchwil i blant a phobl ifanc yn dal yn gyfyngedig, 16 felly gallai gweithgareddau corfforol fod yn fwy effeithiol fel triniaeth ategol ar gyfer anhwylderau gorbryder, ac mae’n ymddangos ei fod yn llai effeithiol pan gymharir hynny â thriniaeth gyda chyffuriau gwrthiselyddion. 22

Mwy i’w ddarllen yma

Sgitsoffrenia

Gall gweithgaredd corfforol chwarae rhan bwysig wrth drin sgitsoffrenia. Dangoswyd bod gweithgaredd corfforol yn arwain at ostyngiad sylweddol mewn symptomau negyddol cyflwr meddyliol ac yn gwella’r rheolaeth ar symptomau cadarnhaol. 23,24

Yn aml mae iechyd corfforol pobl â salwch meddwl difrifol, megis sgitsoffrenia, iselder ac anhwylder deubegynol yn wael, gyda risg uchel o farw’n gynamserol a disgwyliad oes byrrach o 10 mlynedd o leiaf. 1, 2 Mae’r marwoldeb cardiofasgwlaidd sylweddol yma sydd yn gysylltiedig â sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol yn cael ei briodoli yn rhannol i’r ffactorau risg coronaidd addasadwy cynyddol canlynol: 2,4

  • dietau afiach
  • gordewdra
  • ysmygu
  • diabetes
  • gorbwysedd
  • hyperlipidaemia

Yn y rhan fwyaf o’r cyflyrau yma mae ffactorau ffordd o fyw cysylltiedig â gweithgaredd corfforol yn chwarae rôl bwysig.

Hyd yma mae nifer fechan o astudiaethau o bobl â sgitsoffrenia yn dangos effaith gadarnhaol gweithgaredd corfforol ar iechyd corfforol, ffactorau cardiometabolig, ansawdd bywyd, a symptomau cadarnhaol a negyddol. 1,2,25 Erbyn hyn hefyd mae yna beth tystiolaeth y gall gweithgaredd corfforol wella ffwythiant gwybyddol ymysg pobl â sgitsoffrenia, yn arbennig gyda dosau uwch o ymyrraeth. 25,26 Dylid cymeradwyo gweithgaredd corfforol i bawb sydd yn dioddef â seicosis neu sgitsoffrenia. 27

Mae canllawiau NICE CG178 ar Seicosis a Sgitsoffrenia mewn oedolion: trin a rheoli yn argymell: 28

  • Cyn dechrau meddyginiaeth gwrthseicotig: asesu statws maeth, deiet a lefel gweithgaredd corfforol
  • I bobl â seicosis neu sgitsoffrenia, yn arbennig y rhai sydd yn cymryd cyffuriau gwrthseicotig, dylid cynnig rhaglen gyfun o fwyta’n iach a gweithgaredd corfforol gan eu darparwr gofal iechyd meddwl

Mwy i’w ddarllen yma .

Cwsg a lles seicolegol

Dangoswyd bod gweithgaredd corfforol yn gwella ansawdd cwsg, 29,30 tra bod nifer o astudiaethau wedi dangos gwell llesiant o ganlyniad i  hyfforddiant ymarfer corff. 31 Gwell llesiant seicolegol hefyd yw’r sylwad mwyaf cyffredin a nodwyd mewn holiaduron adborth hunanadrodd. 20

Dementia

Mae dementia yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio grŵp o symptomau yn cynnwys colli cof, dryswch, newid mewn tymer ac anhawster gyda thasgau dyddiol. Mae’n cwmpasu nifer o ffurfiau ac Alzheimer’s un mwyaf cyffredin, ac yna dementia fasgwlaidd a dementia gyda chyrff Lewy.

Mae’r risg o dementia yn cynyddu gydag oedran, ac effeithir ar 1 o bob 14 o bobl dros 65 oed. 32 Yn fyd-eang mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amcangyfrif bod yna 47 miliwn o bobl o gwmpas y byd yn dioddef â dementia yn 2015, a rhagwelir y bydd y ffigwr yma yn codi i 131.5 miliwn erbyn 2050. 33

O ystyried y cynnydd cyson mewn disgwyliad oes, mae dementia erbyn hyn yn faich iechyd cyhoeddus enfawr, ac felly mae yna angen ar frys i ganfod ffactorau risg addasadwy sydd yn atal neu yn oedi dementia. Mewn dementia fasgwlaidd, tybir bod y risg yn cynyddu ymysg y rhai sydd â hanes teuluol, pwysedd gwaed uchel, colesterol uchel, ysmygu a diabetes, ac mae’r holl ffactorau fasgwlaidd yma o bosibl yn agored i gael eu haddasu gan weithgaredd corfforol. 34 Ar draws yr holl fathau o dementia, teimlwyd yn ddiweddar y gall fod 35% o’r achosion o ddementia gael eu hachosi gan ffactorau risg addasadwy posibl, ac un o’r rhai hynny yw anweithgarwch corfforol (gweler y diagram). 35

Atal dementia gyda gweithgaredd corfforol: Mae yna nifer o fetaddadansoddiadau o astudiaethau arsylwadol sydd yn awgrymu tystiolaeth bod gan bobl sydd yn cadw at y lefelau gweithgaredd corfforol a argymhellir lai o risg o ddirywiad gwybyddol o tua 18-30%. 36-42Tybir bod lefelau uwch o weithgaredd corfforol yn gysylltiedig â gwell ffwythiant gwybyddol a risg is o 20% o anhwylder gwybyddol yn y chwartel uchaf o weithgaredd. 42-45

Yn ddelfrydol byddai treialon rheoli ar hap (RCT) yn penderfynu a fyddai cynyddu gweithgaredd corfforol yn arwain at wella dirywiad gwybyddol. Mae metaddadansoddiad diweddar 46 o RCTau ymarfer corff mewn pobl dros 50 oed wedi dangos bod ymyriadau gweithgaredd corfforol wedi gwella ffwythiant gwybyddol yn sylweddol, beth bynnag yw’r statws gwybyddol. Tra bod metaddadansoddiad arall wedi adrodd nad oedd dim tystiolaeth gyffredinol bod ymarfer corff yn gwella gwybyddiaeth mewn oedolion hŷn iach. 47 Hefyd, mae astudiaeth hirdymor diweddar o 10,000 o bobl a ddilynwyd am 28 mlynedd ,48 ynghyd ag astudiaethau diweddar eraill 47, 49, 50, 51 wedi herio’r dybiaeth flaenorol drwy ganfod dim effaith warchodol gyffredinol o ganlyniad i weithgaredd corfforol.

Mae Comisiwn Atal, Ymyrraeth a Gofal Dementia Lancet 2017 35 yn awgrymu bod “y mecanweithiau posibl i ymarfer corff wella gwybyddiaeth neu atal dementia yn effeithiau anuniongyrchol ar ffactorau risg addasadwy eraill, megis gordewdra, ymwrthedd inswlin, pwysedd gwaed uchel, hypercolesterolaemia a ffitrwydd cardiofasgwlaidd cyffredinol, a thrwy effeithiau niwrolegol uniongyrchol megis mwy o niwrogenesism llif gwaed serebral a chrynodiadau BDNF.” 52 - 54

Fel casgliad, ar hyn o bryd tybir bod gweithgaredd corfforol yn fuddiol i ffwythiant yr ymennydd ac y gall oedi dirywiad mewn ffwythiant gwybyddol.  “Er y cysylltiad hwnnw, ar hyn o bryd nid oes digon o dystiolaeth wyddonol y gall gweithgaredd corfforol leihau’r risg o glefyd yr ymennydd sydd yn achosi dementia (e.e. clefyd Alzheimer’s).” 55

Trin dementia sefydledig gyda gweithgaredd corfforol: Mae’r canlyniadau o ymyriadau ymarfer corff ar hap a reolir er mwyn gwella deilliannau gwybyddol a ffwythiannol ar gyfer y boblogaeth yma yn gymysg hefyd, ond mae yna dystiolaeth nad yw ymarfer corff yn achosi effeithiau niweidiol ac y gall arwain at: 56-61

  • Well symudedd
  • Mwy o allu o berfformio gweithgareddau ffwythiannol dyddiol
  • Llai o faich ar aelodau’r teulu
  • Gwelliant posibl mewn rhai elfennau o ffwythiant gwybyddol

Ar hyn o bryd, yr argymhelliad yw bod pobl a dementia yn ymgymryd a gweithgaredd corfforol er mwyn eu iechyd cardiofasgwlaidd a serebrofasgwlaidd, er mwyn lleihau nifer yr achosion o ddiabetes a gordewdra ac er mwyn gwarchod rhag eiddiledd. Mae ymarfer corff fel ffordd o atal cwympiadau ymysg pobl hŷn iach yn hysbys ers tro, ond mae metaddadansoddiadau diweddar hefyd yn awgrymu bod gweithgaredd corfforol yn effeithio’n gadarnhaol ar atal cwympo ymysg y bobl sydd â nam gwybyddol 62, 63 a chlefyd Parkinson. 63

Mae canllawiau NICE NG97 ar Ddementia 64 yn canolbwyntio canllawiau ar reoli’r risg o gwympo ar gyfer pobl â dementia (mewn sefydliadau cymunedol a chleifion mewnol) drwy ddefnyddio canllawiau NICE ar gwympo ymysg pobl hŷn (gweler adran nesaf yr adnodd yma). Wrth ddefnyddio’r canllawiau yma;

  • Ystyriwch y cymorth ychwanegol fydd ei angen efallai ar bobl â dementia er mwyn cymryd rhan yn effeithiol
  • Byddwch yn ymwybodol na fydd ymyriadau ar gyfer cwympiadau amlffactoraidd yn addas ar gyfer person sydd yn byw â dementia difrifol. 

Mwy i’w ddarllen yma

Neges allweddol:

Mae ymarfer corff yn rhan bwysig o unrhyw gynllun triniaeth i gleifion â phroblemau iechyd meddwl. Gall wella eu hansawdd bywyd ac arwain at lai o dderbyniadau ysbyty.

Ystyriwch:

  1. Archwilio eich cleifion iechyd meddwl i weld a gynigiwyd unrhyw gyngor ar weithgaredd corfforol iddynt.
  2. Wrth ddiagnosio, rhoi cyngor ynghylch pwysigrwydd y math yma o ffordd o fyw er eu lles eu hunain.

Buddion i feddygon teulu a thimau: Llai o gostau cyffuriau, llai o dderbyniadau, apwyntiadau ac ymweliadau.

Cyfeiriwch gleifion at:

Mae gan  Goleg Brenhinol y Seiciatryddion wybodaeth ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol a phobl ifanc. Neu’r Gymdeithas Alzheimer i gael cyngor a chymorth dementia.

Diweddarwyd Medi 2019

Pennod 6 - Gweithgaredd Corfforol a Iechyd Meddwl - Taflen ffeithiau - lawrlwytho

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Mae'r taflenni ffeithiau yma wedi eu cymeradwyo gan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BAsem) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau