Pennod 7 - Iechyd Metabolig

Syndrom metabolig

Mae syndrom metabolig yn glwstwr o ffactorau yn cynnwys gordewdra abdomenol, ymwrthedd inswlin, hyperlipidaemia a phwysedd gwaed uchel, sydd yn cynyddu’r risg o ddiabetes math 2, clefyd cardiofasgwlaidd, dementia a rhai mathau o ganserau. Mae gweithgaredd corfforol rheolaidd yn achosi effaith fuddiol ar yr holl ffactorau yma ac felly gall leihau’r risg o ddatblygu’r problemau meddygol difrifol yma.

Er mwyn atal a thrin, argymhellir lleihau amser eisteddog a defnyddio ymarfer corff dwyster cymedrol yn ddyddiol am o leiaf 30 munud ond yn ddelfrydol am 60 munud. 1

Profwyd bod gweithgaredd corfforol yn lleihau risgiau iechyd cysylltiedig â syndrom metabolig hyd yn oed pan fo unigolion sydd yn ymarfer corff yn dal yn ordew. 2,3  Mae hwn yn bwynt allweddol oherwydd mae cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn canolbwyntio gormod ar bwysau ac yn gyflym yn rhoi’r ffidil yn y to os na chollir pwysau.

Mwy i’w ddarllen yma  

Diabetes math 1

Nid oes tystiolaeth y gall gweithgaredd corfforol rheolaidd atal diabetes math 1. Ond, dylai rheolaeth glinigol dda ar gyfer pobl â diabetes math 1 ymgorffori gweithgaredd corfforol rheolaidd. Yn anffodus, mae nifer o gleifion yn methu â chyrraedd y safonau gweithgaredd corfforol gofynnol 4 oherwydd pryderon am reolaeth wael ar glwcos gwaed mewn perthynas ag ymarfer corff 5 a methu gwerthfawrogi sut y mae gan gwahanol fathau o ymarfer corff wahanol effeithiau metabolig. Mae hynny yn arwain at hyder gwael ymysg cleifion i reoli glwcos gwaed yn briodol yn ystod ymarfer corff ac yn dilyn hynny.

Gall dysgu sut mae addasu deiet ac inswlin a gyfer gweithgareddau dycnwch neu gryfder helpu i lunio ‘strategaeth reoli ymarfer corff acíwt’ a helpu i gael y buddion corfforol a seicolegol o fod yn rheolaidd actif. 6  Os bydd cleifion wedi cael eu hasesu’n briodol ac nad oes ganddynt ormod o gymhlethdodau, dylid ei hannog i ddechrau ar raglen gweithgaredd corfforol rheolaidd er mwyn datblygu rhaglen ddiogel iddyn nhw eu hunain.

Ystyriaethau cyffredinol ar gyfer cynyddu gweithgaredd corfforol

Gall perfformio ymarfer corff anghyfarwydd achosi anghysondeb glwcos fydd yn amrywio pan fydd yr ymarfer corff yn cael ei wneud yn rheolaidd. Gall gwahanol fathau o weithgaredd megis ymarfer corff aerobig neu wrthiant addasu glwcos mewn ffordd wahanol hefyd. Mae ymarfer corff ysbeidiol megis pêl-droed a chwarae plant yn symudiadau cymhleth allai achosi gwahanol ymatebion glwcos o ystyried natur anrhagweladwy y gweithgaredd.

Hefyd, efallai bod ymarfer corff yn y bore o’i gymharu â’r prynhawn neu fin nos yn achosi gwahanol adweithiau glwcos o ystyried y  gwahanol symiau o inswlin mewnol ac amrywiad hormon diwrnol. Felly, dylai dŵr ac ychydig o garbohydradau fod ar gael bob amser yn ystod ymarfer corff. Peidiwch fyth â gwneud ymarfer corff o fewn 24 awr i hypoglycaemia difrifol. Gwisgwch ddillad ac esgidiau cyfforddus.

Addasu Inswlin a Charbohydradau ar gyfer ymarfer corff aerobig

  • Amrediad Glwcos gwaed diogel mewn perthynas ag ymarfer corff

Byddai sampl glwcos gwaed un awr ac yn syth cyn ymarfer corff yn rhoi gwybodaeth bwysig ynghylch sefydlogrwydd a chyfeiriad glwcos gwaed. Dylai gwerthoedd glwcos gwaed yn syth cyn ymarfer corff fod yn >5 mmol.l-1, ond os yw yn >14 mmol.l-1, ac os oes cetonau gwaed dyrchafedig yn bresennol, dylid gohirio ymarfer corff nes bod y gwerthoedd yn gostwng a’r cetonau yn diflannu.7 Dylid gwirio glwcos gwaed bob 30 munud wrth ddechrau dod yn gyfarwydd ag ymarfer corff rheolaidd a dylai fod yn strategaeth ddysgu. Ar ôl ymarfer corff gwiriwch glwcos gwaed ar ôl un awr a 6-8 awr wedyn er mwyn tracio crynodiadau glwcos.

  • Lleihau Inswlin Basal-Bolws

Mae ymchwil diweddar yn dangos gwarchodaeth rhag hypoglycaemia nosweithiol pan fo inswlin basal yn gostwng ar ddiwrnod ymarfer corff. 8 Mae gostyngiadau mewn inswlin gweithredu cyflym cyn ymarfer corff (bolws) wedi amrywio o 10-90% 9 ond mae gostyngiad yn y dos arferol o inswlin gweithredu cyflym 1 awr cyn gweithgaredd corfforol yn ddoeth. 10

  • Amlyncu carbohydradau

Mae penderfyniadau ynghylch defnyddio carbohydradau fel arfer yn cael eu gwneud ochr yn ochr â gostyngiad mewn inswlin gweithredu cyflym. Dangoswyd bod carbohydradau mynegai glycaemig (GI) isel (neu fwydydd sydd yn GI isel) yn gostwng amrywiadau glycaemig heb effeithio’n niweidiol ar berfformiad ymarfer corff. 11,12  Mae argymhellion presennol yn awgrymu amlyncu terfyn uchaf o 0.5-1.0g o garbohydrad am bob kg o fas corfforol am bob awr o ymarfer corff a gynllunnir. Wrth i’r claf fwrw ymlaen â’r ymarfer corff, bydd angen addasu y symiau a amlyncir yn barhaus wrth i well rheolaeth fetabolig a sensitifrwydd inswlin ddigwydd.

Ar ôl ymarfer corff mae angen lleihau inswlin a chynyddu carbohydradau er mwyn delio â mwy o sensitifrwydd organau i inswlin a chyfradd uwch o ailgyflenwi glwcos y cyhyrau a’r iau. Felly, gall bwyta pryd bwyd â llawer o garbohydradau mynegai glycaemig isel ynddo a gostyngiad o 50% mewn inswlin gweithredu cyflym arferol ar ôl ymarfer corff leihau amrywiadau glycaemig a gwarchod cleifion rhag hypoglycaemia am hyd at 8 awr. 13

Addasu Inswlin a Charbohydradau ar gyfer ymarfer corff cryfhau

Mae ymarferion cryfhau yn achosi adweithiau hormon gwrthreoleiddio (catecolaminau, hormonau tyfu) allai gynyddu crynodiadau glwcos gwaed. Gall swm y pwysau a godir mewn sesiwn benderfynu ar faint yr hyperglycaemia, ac (yn achos ymarfer corff yn bore o leiaf) nid oes llawer o angen bwyta carbohydradau ar gyfer ymarfer corff cryfder sydd yn para ~15 i 30 munud.  Y tu hwnt i’r amser yma mae’r cynnydd mewn glwcos cyhyrol yn tymheru’r hyperglycaemia a ysgogir gan ymarfer corff. 14  Hefyd, os bydd hyperglycaemia a ysgogir gan ymarfer corff yn digwydd, gall dos bychan o inswlin gweithredu cyflym yn syth ar ôl ymarfer corff helpu i ostwng glwcos gwaed i lefelau euglycaemig 15  neu annog unigolion i wneud ymarfer corff aerobig. 16

Cymhlethdodau

O ystyried y risg uwch o glefyd cardiofasgwlaidd sydd yn gysylltiedig â diabetes, efallai y bydd angen cyfeirio’r unigolyn am brawf ymarfer corff graddol er mwyn diystyru clefyd y galon sylweddol tanategol.

  • Dylid osgoi gweithgareddau dwyster uchel megis: chwaraeon tîm sydd yn annog cystadleuaeth, dwyster ymarfer corff cymharol ac ymarfer corff gwrthiant trwm.
  • Os oes gan y claf retinopathi diabetig sylweddol neu neffropathi, argymhellir bod y claf ond yn ymgymryd â gweithgareddau cardiofasgwlaidd ysgafn megis nofio, aerobeg dŵr, ioga, pilates, cerdded neu seiclo.
  • Os oes gan y claf niwropathi perifferol neu awtonomig neu os oes ganddo wlserau, gwiriwch y traed cyn gwneud gweithgaredd, ac argymell gweithgareddau aerobig heb gynnal pwysau megis nofio, aerobeg dŵr, seiclo, ymarferion cadair neu freichiau ac osgoi cerdded yn ormodol, aerobig stepio neu loncian.

Mae Canllawiau NICE NG17 17 Diabetes math 1 mewn oedolion: diagnosis a rheoli yn argymell:

Cynghori oedolion â diabetes math 1 y gall gweithgaredd corfforol leihau eu risg cardiofasgwlaidd uwch yn y tymor canolig a’r hirdymor. (2004)

Rhoi gwybodaeth i oedolion â diabetes math 1 sydd yn dewis ymgorffori gweithgaredd corfforol cynyddol i ffordd o fyw iachach ynghylch:

  • Dwyster ac amledd priodol gweithgaredd corfforol
  • Rôl hunan fonitro newid mewn inswlin a/neu anghenion maethol
  • Effaith gweithgaredd ar lefelau glwcos gwaed (gostyngiad tebygol) pan fo lefelau inswlin yn ddigonol
  • Effaith ymarfer corff ar lefelau glwcos gwaed pan yn hyperglycaemig a hypoinsulinaemig (risg o hyperglycaemia a cetonaemia gwaeth)
  • Addasu dosau inswlin yn briodol a/neu gymeriant maethol ar gyfer ymarfer corff a chyfnodau ar ôl ymarfer corff, a’r 24 awr dilynol
  • Rhyngweithio rhwng ymarfer corff ac alcohol
  • Cysylltiadau a ffynonellau gwybodaeth eraill (2004)

Casgliad

Mae ymarfer corff rheolaidd yn gonglfaen ar gyfer rheolaeth glinigol dda mewn perthynas â diabetes math 1. Gall ymateb pob claf i ymarfer corff fod yn wahanol ond bydd addasiadau doeth i inswlin alldarddol a chymeriant carbohydradau fel ymateb i ymarfer corff helpu cleifion  ddatblygu eu ‘strategaeth rheoli ymarfer corff acíwt’ eu hunain ar gyfer y gweithgareddau o’u dewis.

Mwy i’w ddarllen yma 

Gweithgaredd Corfforol/Ymarfer Corff a Diabetes: A Position Statement of the American Diabetes Association. Diabetes Care 2016 Nov; 39(11): 2065-2079. 

Exercise management in type 1 diabetes: a consensus statement. The Lancet Diabetes & Endocrinology, Volume 5, Issue 5, May 2017. Tudalenau 377-390 DOI: 

Diabetes math 2

Mae’n hysbys iawn bod anweithgarwch corfforol yn ffactor risg sylweddol ar gyfer datblygu diabetes math 2. 18

Ataliaeth sylfaenol: Mae nifer o astudiaethau wedi dangos y gellir atal diabetes math 2 mewn cleifion risg uchel (gordew) drwy wneud ymarfer corff rheolaidd a dilyn canllawiau dietegol. 19,20  At ei gilydd, cynhaliwyd pedwar treial sylweddol o atal diabetes gyda chwnsela ffordd o fyw dwys yn Tsieina, 21  Ffindir 19, India 22 ac UDA 22. Yn y treial mwyaf 23, Rhaglen Atal Diabetes UDA, aseiniwyd  unigolion risg uchel i reolaeth plasebo, ymyrraeth ffordd o fyw (oedd yn cynnwys gweithgaredd aerobig o 150mun/wythnos o leiaf) neu drydydd grŵp y rhoddwyd metformin 850g iddynt ddwywaith y dydd. Roedd cyngor ffordd o fyw bron ddwywaith mor effeithiol o ran atal diabetes o’i gymharu â therapi cyffur metformin mewn unigolion risg uchel (gostyngiadau o 58% v 31% mewn achosion) yn ystod astudiaeth 3 blynedd. 23

Mewn tri o’r treialon yma roedd yna ostyngiad o 40-60% mewn risg cymharol yn nifer yr achosion o ddiabetes yn y grŵp ymyrraeth ffordd o fyw. Mae hynny yn cyfateb i un achos o ddiabetes yn cael ei osgoi drwy drin tua saith o bobl ag amhariad glwcos am dair blynedd. 24-26  Yn yr astudiaeth o India, roedd y gostyngiad mewn risg cymharol o ddiabetes yn ychydig is, sef 28.5%, ond roedd y boblogaeth yn India yn gyffredinol iau, gyda BMI cymharol is a mwy o wrthedd inswlin. 21 Mae’r astudiaethau dilynol hirdymor yn dangos bos ymyriadau ffordd o fyw yn gohirio dechrau diabetes o ddwy i bedair blynedd ar gyfartaledd yn hytrach na’i atal yn llwyr. 25-27

Wrth drin diabetes math 2, mae gweithgaredd corfforol rheolaidd yn dal yn rhan fawr o’r driniaeth, ynghyd ag ymyriadau dietegol a ffarmacolegol. Hyfforddiant aerobig yw conglfaen y driniaeth, ond mae buddion hefyd i’w gweld o ganlyniad i ymarfer cryfder ac mae’r buddion ar eu gorau wrth gyfuno’r ddau. 28 Dangosodd metaddadansoddiad oedd yn cymharu cyngor ynghylch gweithgaredd corfforol a hyfforddiant ymarfer corff strwythuredig oedd yn cynnwys ymarfer aerobig, ymarfer gwrthiant neu gyfuniad, bod pob un yn gysylltiedig â gostyngiad mewn Haemoglobin Alc (HbA1c).29 Roedd rhaglenni hirach na’r 150 munud yr wythnos a argymhellir yn gysylltiedig â mwy o ostyngiad mewn  HbA1c.30 Bu i’r astudiaeth yma hefyd gadarnhau bod gweithgaredd corfforol yn gysylltiedig â HbA1c is ond dim ond pan fo hynny’n cael ei gyfuno â chyngor dietegol. 29

Mae gweithgaredd corfforol yn gwella sensitifrwydd inswlin. Gwell sensitifrwydd i inswlin sydd yn bwysig o ran cynnal rheolaeth fetabolig dda, ond mae gweithgaredd corfforol hefyd yn effeithio ar ostwng y risg o gymhlethdodau cardiofasgwlaidd drwy wella’r proffil lipid gwaed, HbA1c, pwysau corff a gostwng pwysedd gwaed. 30

Rhagofalon: Nid yw hypoglycaemia yn digwydd yn aml mewn diabetes a reolir gan ddiet, metformin neu gliptin oni bai bod ymarfer corff yn estynedig neu’n achosi straen, megis rhedeg marathon. 31  Mewn cleifion sydd yn cymryd swlffonylwreau, glinidau neu inswlin, gall ymarfer corff cymedrol neu egnïol achosi gostyngiad mewn glwcos gwaed (siwgr) a’r effaith yn para am hyd at 12 awr ar ôl yr ymarfer corff. 32 Efallai y bydd raid i rai sydd yn dymuno gwneud ymarfer corff estynedig haneru neu leihau mwy ar feddyginiaeth drwy’r geg, yn dibynnu ar eu lefelau glwcos gwaed, a bydd angen iddynt fonitro eu hunain yn amlach. Hefyd dylent allu adnabod symptomau hypoglycaemia. Yna efallai bydd angen addasu cymeriant carbohydradau yn addas cyn, yn ystod ac ar ôl ymarfer corff.

Gofal traed ac ymarfer corff: Mae niwropathi ymylol yn un o nodweddion diabetes math 2, ac efallai bydd gan gleifion sydd â’r cymhlethdod cyffredin yma lai o allu i ymarfer corff, ond mwy o angen cyfarwyddyd ymarfer corff a monitro. Dylid cymryd gofal o ran hyrwyddo gofal traed da a diogel drwy annog cleifion i wirio eu traed cyn ac yn ystod ymarfer corff.33

Mae canllawiau NICE PH3834 diabetes Math 2: ataliaeth mewn pobl sydd yn wynebu risg uchel yn argymell:

  • Rhoi gwybodaeth am gynyddu gweithgaredd corfforol a lleihau yr amser a dreulir yn eisteddog.
  • Ystyried atgyfeirio y rhai sydd eisiau ymarfer corff strwythuredig neu dan oruchwyliaeth ar gynllun atgyfeirio ymarfer corff neu sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth, fel rhan o raglen ddwys o newid ffordd o fyw.
  • O leiaf unwaith y flwyddyn, dylid adolygu’r newidiadau i ffordd o fyw y mae pobl risg uchel wedi eu gwneud
  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gweithgaredd corfforol
  • Helpu unigolion i ganfod ffyrdd eraill o nodi a goresgyn rhwystrau rhag gwneud gweithgareddau corfforol

Gwrtharwyddion

  • Glwcos d afreolus o >14 mmol neu <5 mmol/l y dylid ei gywiro i ddechrau7
  • Dylai cleifion â niwropathi perifferol neu awtonomig diabetig neu wlserau traed osgoi ymarferion sydd yn cynnal pwysau.
  • Mae ymarfer corff egnïol yn cael ei wrthgymeradwyo yn y rhai sydd â retinopathi amlhau35

 

Mwy i’w ddarllen yma  

Neges allweddol: Mae ymarfer corff yn rhan bwysig o reolaeth clinigol da ar gyfer unrhyw glaf sydd â diabetes math 1 neu fath 2. Gall wella eu hansawdd bywyd ac arwain at well deilliannau triniaeth.

Ystyriwch:

  1. Archwilio eich cleifion diabetig i weld a gynigiwyd unrhyw gyngor ar weithgaredd corfforol iddynt.
  2. Canfod o ble y gallwch gael mwy o gyngor gan eich gwasanaeth diabetig lleol ar gyfer eich cleifion diabetig math 1.

Buddion i feddygon teulu a thimau: Llai o gostau cyffuriau, cymhlethdodau, apwyntiadau ac ymweliadau.

Cyfeiriwch eich cleifion at: Diabetes UK - grŵp elusen blaenllaw sydd â llawer o wybodaeth ac adnoddau cysylltiedig â diabetes ar gyfer cleifion a gweithwyr iechyd proffesiynol.

Dyddiad adolygu arfaethedig Rhagfyr 2020

Pennod 7 - Iechyd Metabolig- Taflen ffeithiau- lawrlwytho

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Mae'r taflenni ffeithiau yma wedi eu cymeradwyo gan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BAsem) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).

 

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau