Pennod 8 - Iechyd Cyhyrysgerbydol

Ffibromyalgia

Mae ffibromyalgia yn cynnwys syndrom amlsymptom sydd wedi ei nodweddu gan boenau cymalau a chyhyrau eang  a gwasgaredig sydd ag ymwrthedd i driniaeth ac nad yw’n llidiog, sydd yn para am o leiaf 3 mis. 1 Dau symptom cyffredin yw: llai o gryfder cyhyrol a blinder cyflym a’r cleifion fel arfer ddim yn ffit. 2, 3, 4

Mae ffibromyalgia yn anodd ei reoli, ond canfuwyd mai ymarfer corfforol yn gyfun â therapi ymddygiadol gwybyddol yw’r driniaeth fwyaf addawol. 5 Mae metaddadansoddiad o dreialon rheoli ar hap yn casglu bod ymarfer aerobig yn effeithio’n fuddiol ar gyfer poen, blinder, tymer isel a symptomau ansawdd bywyd. 6 Tybir mai ymarfer aerobig sydd yn effeithio fwyaf ar ffitrwydd corfforol ac ansawdd bywyd, tra mai ymarfer cryfder sydd yn effeithio fwyaf ar boen, mannau dolurus, iselder ac ansawdd bywyd. 7

Osteoarthritis

Yn wahanol i’r gred gyffredin, nid oes dim tystiolaeth bod gweithgaredd corfforol rheolaidd yn hyrwyddo datblygiad osteoarthritis (OA), cyn belled nad oes yna anaf sylweddol cysylltiedig yn y cymalau.8

Osteoarthritis sylweddol yn y cymalau yw’r clefyd cronig mwyaf cyffredin ymysg pobl hŷn. 9  Mae’r dystiolaeth orau y gall gweithgaredd corfforol fod yn fuddiol yn gysylltiedig ag OA y pengliniau, ond mae astudiaethau o’r cluniau a’r dwylo yn dod i’r un casgliad. 9, 10

Tybir bod gweithgaredd aerobig yn cynyddu lefelau endorffin sydd yn lleddfu’r teimlad o boen, tra bod mwy o gryfder cyhyrol a gwell ffwythiant niwrogyhyrol yn gwella sefydlogrwydd o gwmpas y cymal. Bydd y ffactorau yma, ynghyd ag unrhyw golli pwysau cysylltiedig, yn helpu i leihau’r pwysau drwy’r cymal, felly dangoswyd bod rhaglenni ymarfer corff sydd yn cynnwys cryfhau cyhyrau, ymarfer ffwythiannol a ffitrwydd aerobig yn: 10, 11, 12

  • Lleihau poen
  • Gwella ffwythiant
  • Gwella lles cyffredinol i raddau mewn OA y pengliniau, ond nid mewn OS y cluniau.

Hefyd mae ymarfer corff yn lleihau poen ac yn gwella ffwythiant (cryfder, cerddediad, cydbwysedd) yn absenoldeb colli pwysau. Neges allweddol ynghylch ymarfer corff a cholli pwysau yw ei bod yn well siarad am golli braster oherwydd yn aml effeithir ar y pwysau a gollir oherwydd cynnydd mewn mas nad oes llawer o fraster ynddo (h.y. mas cyhyrau). Er enghraifft, gall ymarfer corff greu gwelliannau trawiadol yng nghyfansoddiad y corff e.e. cynnydd o 2kg mewn mas heb lawer o fraster a ostyngiad o 2.5kg mewn mas braster, ond fawr o newid mewn pwysau cyffredinol y corff, ac mae hynny yn tueddu i effeithio ar gymhelliant pobl sydd yn cael eu hysgogi yn bennaf gan golli pwysau yn hytrach na gwella iechyd.

Mae’n ymddangos bod yn berthynas dos-ymateb pan fo gwelliannau o ran cryfder a ffitrwydd yn arwain at well enillion. 14,15 Mae’n well cynllunio’r hyfforddiant gyda chynnydd bychan ond cyson mewn pwysau ar y cymal ac o ran yr ymarfer corff; mae yna fwy o leddfu ar boen o’i gymharu â thriniaeth gyda Chyffur Gwrthlidiol Ansteroidaidd (NSAID) ar ôl 6-8 wythnos o weithgaredd. 14,16 Mae hynny yn amlygu mai’r dewis clir yw gweithgaredd yn hytrach na NSAID i nifer o gleifion ac mae’n ddewis sydd ag ychydig iawn o sgil effeithiau.16

Efallai mai’r ysgogiad mwyaf i ymarfer corff ymysg cleifion osteoarthritig sydd a chydafiacheddau clefydau cardiofasgwlaidd, diabetes, canser ac anabledd cerdded, yw eu bod yn wynebu risg llawer uwch o farw’n gynamserol. 17 Awgrymwyd y gallai hyd yn oed ymarfer corff ysgafn e.e. symud o gwmpas y tŷ yn ystod hysbysebion teledu yn achos y cleifion hynny ag OA sydd yn gwylio’r teledu am lawer o oriau, liniaru’r risg. 18  Mae argymhellion ymarferol wedi cael eu gwneud mewn perthynas â rhagnodi ymarfer corff penodol o ran y math, hyd a’r ddarpariaeth a gellir trafod hynny gyda’r meddyg neu atgyfeirio at ffisiotherapydd. 10

Mae canllawiau NICE CG 177 ar ofal a rheoli Osteoarthritis yn argymell :19

Cynghori pobl ag osteoarthritis i ymarfer corff fel triniaeth greiddiol beth bynnag fo’u hoedran, cydafiachedd, poen, difrifoldeb neu anabledd. Dylai ymarfer corff gynnwys

  • cryfhau cyhyrau perthnasol a ffitrwydd aerobig cyffredinol.

Mwy i’w ddarllen yma 

Osteoporosis.

Atal: Cyrhaeddir brig mas esgyrn pan yn 20-30 oed, felly er mwyn sicrhau’r mas esgyrn mwyaf posibl yn ystod y glasoed, mae angen annog diet cytbwys ac addysg gorfforol amlweithgaredd mewn ysgolion ac ymarfer cynnal pwysau o’r blynyddoedd cynnar a hyd yn oed ar ôl cerdded am y tro cyntaf. 8 Ar ôl i ni gyrraedd brig mas esgyrn, rydym yn colli esgyrn yn raddol ac erbyn hyn mae yna dystiolaeth gynyddol y gall gweithgaredd corfforol helpu i atal y colli asgwrn sydd yn gysylltiedig â heneiddio drwy gydol oes unigolion .20, 21, 22, 23, 24,25

Mae’n ymddangos mai ymarfer cynnal pwysau, yn arbennig ymarfer gwrthiant, sydd yn effeithio fwyaf ar ddwysedd mwynau esgyrn. 26  Mae yna berthynas wrthdro o weithgaredd corfforol gyda risg cymharol o dorri clun a fertebra gyda gostyngiad mewn risg o dorri clun o 36-68% ar y lefel uchaf o weithgaredd. 8

Rhybudd: gall gweithgaredd corfforol gormodol arwain at effaith negyddol anfwriadol ar esgyrn genethod, allai ddatblygu amenorhea eilaidd dibynnol ac yna colli esgyrn, a hynny yn fwyaf cyffredin o gwmpas 45kg.1

Clefyd sefydledig: mae ymarfer cynnal pwysau yn dal i gael ei annog er mwyn lleihau colli esgyrn, 25  ond hefyd er mwyn atal cwympo 27,28  a thoriadau o ganlyniad i hynny. Mae ymarfer cydbwysedd, cryfder a chydsymudiad wedi ei gyfuno â cherdded yn ategol. 1

Mae crynodeb gwybodaeth glinigol NICE ar Osteoporosis - atal toriadau eiddiledd yn argymell: 29

Cynghori’r person i ymarfer corff yn rheolaidd (wedi ei deilwra i’r unigolyn) er mwyn gwella cryfder cyhyrau a lleihau poen ac anhyblygrwydd:

  • Dylid annog cerdded, yn arbennig yn yr awyr agored, oherwydd bydd hynny yn cynyddu amlygiad i olau haul ac yn cynyddu cynhyrchiant fitamin D.
  • Annog ymarfer cryfder ar gyfer y gwahanol grwpiau cyhyrau (er enghraifft y clun, arddwrn a’r asgwrn cefn).
  • Cyfuniad o fathau o ymarfer corff, er enghraifft cydbwysedd, hyblygrwydd, ymestyn, dycnwch ac ymarferion cryfhau cynyddol.

Contraindications

  • Salwch acíwt gyda phoen a dirywiad cyffredinol
  • Osgoi gweithgareddau effaith uchel neu'r rhai sydd â risg uchel o gwympo

Mwy i’w ddarllen yma  

Arthritis rhiwmatoid

Mae arthritis rhiwmatoid (RA) yn glefyd llidiog systemig cronig gaiff ei nodweddu gan lai o hyblygrwydd yn y cymalau, ffwythiant cyhyrau a ffitrwydd aerobig. Mae yna hefyd fwy o risg o glefyd cardiofasgwlaidd, 31,32 sydd, yn gyfun â risg uwch o ddiabetes math 2, syndrom metabolig ac osteoporosis a thoriadau cysylltiedig, yn arwydd amlwg y dylid hyrwyddo gweithgaredd corfforol ymysg cleifion sydd â’r cyflwr cyffredin yma. Hefyd, gall ymarfer corff wrthwneud effaith bwysig eiddilwch rhiwmatoid, pan fo 2/3 o’r cleifion â RA a reolir yn dioddef dirywiad cyhyrol sylweddol a mwy o ordewdra.33

Mae’r mas cyhyrau isel yma ac adipositi yn rhagfynegwyr annibynnol cryf o anabledd mewn cleifion RA 34,35 ac mae gweithgaredd rheoli clefyd gyda therapi cyffuriau safonol yn cynnwys therapi ant-TNF yn methu ag adfer mas cyhyrau na cholli mas braster. O ganlyniad i hynny mae yna achos cryf o blaid ymarfer gwrthiant cynyddol mewn cleifion ag RA36, 37, 38

Yn hanesyddol, credwyd yn eang y byddai cynyddu lefel y straen ar y cymalau yn cynyddu poen, gweithgaredd clefyd a niwed i’r cymal. 39 Ond, mae adolygiadau sylweddol o therapi ymarfer corff deinamig wedi canfod effaith gadarnhaol ar allu aerobig, cryfder cyhyrau a gallu ffwythiannol,39-42 Dangoswyd bod ymarfer corff yn mynd i’r afael ag effeithiau niweidiol eiddilwch rhiwmatoid ar gyfansoddiad y corff ac y adfer lefelau normal o ffwythiant corfforol mewn cleifion ag RA sefydledig.43 Ni fu unrhyw gynnydd mewn poen neu weithgaredd clefyd, a gyda rhaglenni ymarfer corff hirdymor, ni welwyd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol mewn cynnydd radiolegol. 39

Er eu bod yn ymwybodol o bwysigrwydd ymarfer corff, mae nifer o gleifion RA yn llai actif na’r boblogaeth yn gyffredinol. 44 Canfyddiadau cleifion ynghylch effeithiau ymarfer corff yw ofn gwaethygu poen, blinder a niwed i’r cymalau. 45  Maent hefyd yn tybio nad oes gan weithwyr iechyd proffesiynol ddigon o wybodaeth mewn perthynas ag argymhellion ymarfer corff penodol a sut mae niwed i gymalau yn digwydd. 45

Dylid annog pob claf ag RA i fod yn gorfforol actif. Gellir argymell ymarfer corff dwyster isel i bob claf ag RA beth bynnag fo cyflwr eu clefyd. Ond, er mwyn gwella ffwythiant aerobig a ffwythiant cyhyrau mae angen i’r claf gael ei annog i symud ymlaen i wneud ymarferion dwyster cymedrol i uchel, gyda’r wybodaeth a’r dystiolaeth o well ffwythiant cyhyrau ac ansawdd bywyd 39 - 42, 46 heb dystiolaeth o gynnydd mewn niwed i’r cymalau42, 47

Rhagofalon ac ystyriaethau:

  • Dylid cyflwyno mwy o weithgaredd corfforol yn raddol er mwyn lleihau’r risg o waethygu symptomau, a fesul camau llai na argymhellir fel arfer.
  • Hefyd mae angen cymryd gofal ar ôl unrhyw bigiadau cortison a llawdriniaeth gosod cluniau newydd na fyddai efallai yn dygymod ag ymarfer corff egnïol ar y cychwyn.48
  • Dylai rhaglenni gweithgaredd corfforol gynnwys ystod o weithgareddau yn cynnwys ymestyn, ymarfer gwrthiant a cyflyru aerobig.
  • Nid yw gweithgareddau neu chwaraeon gwrthdaro sylweddol yn cael eu hargymell

Mae canllawiau NICE NG100 ar Arthritis rhiwmatoid mewn oedolion yn argymell;49

Dylai pobl ag RA gael mynediad at ffisiotherapi arbenigol, gydag adolygiad cyfnodol er mwyn:

  • Gwella ffitrwydd cyffredinol ac annog ymarfer corff rheolaidd
  • Ymarferion er mwyn gwella hyblygrwydd cymalau, cryfder cyhyrau a rheoli amhariadau ffwythiannol eraill

Mwy i’w ddarllen yma  

Atal cwympo a thoriadau

Yn aml mae pobl hŷn, gyda neu heb gydafiacheddau, yn dioddef ffwythiant cyhyrau sydd yn gwanio a/neu boen sydd yn cydfodoli sydd yn cyfyngu ar eu gweithgareddau dyddiol ac sydd yn cynyddu’r risg o gwympo neu doriad. Ond ni ddangosir bod gweithgaredd heb ei dargedu, megis cerdded a seiclo, yn effeithio o gwbl ar y risg o gwympo. 50 Ond y dystiolaeth sydd ar gael yw bod rhaglenni grŵp neu yn y cartref gyda chryfhau cyhyrau a chydbwysedd yn lleihau cyfraddau cwympo a’r risg o gwympo. 50

At ei gilydd gall ymyriadau ymarfer corff leihau cwympiadau ymysg pobl hŷn sydd yn byw yn y gymuned o 21%,52 tra bod rhaglenni ymarfer corff sydd yn herio cydbwysedd ac oedd yn cynnwys  mwy na 3 awr yr wythnos yn arwain at gyfradd uwch o ostyngiad o 39%.52  Hefyd dangoswyd bod Tai Chi yn lleihau’r risg o gwympo ac mae ymyriadau ymarfer corff yn gyffredinol yn lleihau’r risg o gwympiadau a thoriadau cysylltiedig yn sylweddol. 51

Er bod y rhan fwyaf o’r dystiolaeth am atal cwympo wedi bod yn gysylltiedig â phob hŷn gwybyddol iach, mae tystiolaeth ddiweddar yn cefnogi’r dystiolaeth bod gweithgaredd corfforol hefyd yn effeithio’n gadarnhaol ar atal cwympo ymysg yr henoed sydd â nam gwybyddol a chlefyd Parkinson’s. 52,53

Efallai bydd raid defnyddio ymarfer cryfder cyn ymarfer cerdded er mwyn sicrhau bod y weithgaredd gorfforol yn bosibl. Mewn pobl hŷn, gellir adennill gwerth dau ddegawd o golli mas cyhyrau gyda dim ond dau fis o ymarfer cryfder. 54

Mae canfod nodweddion optimwm ymyrraeth ymarfer corff ar gyfer atal cwympo wedi cael ei ddiweddaru yn ddiweddar a’i ailasesu, ac o ddefnyddio’r ymchwil diweddar, tybir: 52

  1. Dylai rhaglenni ymarfer corff amcanu at ddarparu her fawr i gydbwysedd
  2. Dylid gwneud o leiaf 3 awr o ymarfer corff bob wythnos
  3. Mae cyfranogiad parhaus yn angenrheidiol neu bydd y buddion yn cael eu colli
  4. Dylai ymarferion atal cwympo gael eu targedu at y gymuned yn gyffredinol yn ogystal â rhai sydd yn byw yn y gymuned sydd yn wynebu risg uwch o gwympo.
  5. Gellir gwneud ymarferiadau atal cwympo mewn grŵp neu yn y cartref.
  6. Gellir cynnwys hyfforddiant cerdded yn ychwanegol at hyfforddiant cydbwysedd, ond ni ddylid rhagnodi rhaglenni cerdded sionc i unigolion risg uchel
  7. Gellir cynnwys hyfforddiant cryfder yn ychwanegol at hyfforddiant cydbwysedd
  8. Dylai darparwyr ymarfer corff atgyfeirio er mwyn mynd i’r afael â ffactorau risg eraill
  9. Gall ymarfer corff fel ymyrraeth unigol atal cwympo mewn pobl â chlefyd Parkinson's neu nam gwybyddol. Ar hyn o bryd nid oes yna ddim tystiolaeth bod ymarfer corff fel ymyrraeth unigol yn atal cwympo mewn pobl sydd wedi dioddef strôc neu bobl a ryddhawyd yn ddiweddar o ysbyty. Dylai ymarfer corff gael ei ddarparu i’r grwpiau hynny gan ddarparwyr sydd ag arbenigedd penodol.

Mae canllawiau NICE CG161 ar Gwympo ymysg pobl hŷn yn argymell:55

  • Mae ymyriadau amlffactoraidd gydag elfen o ymarfer corff yn cael eu hargymell i bobl hŷn mewn sefydliadau gofal estynedig sydd yn wynebu risg o gwympo.
  • Dylid cynnig rhaglen gryfhau cyhyrau a chydbwysedd
  • Dylai hynny gael ei ragnodi yn unigol â’i fonitro gan weithiwr proffesiynol sydd wedi ei hyfforddi’n briodol
  • Nid oes dim tystiolaeth bod cerdded yn gyflym ar ei ben ei hun yn lleihau’r risg o gwympo; ond gall cerdded yn gyflym arwain at fuddion iechyd eraill i bobl hŷn

Neges allweddol: Mae ymarfer corff yn rhan bwysig o unrhyw gynllun triniaeth i gleifion ag arthritis a phroblemau cyhyrysgerbydol eraill. Gall atgyfnerthu eu triniaeth, lleihau poen, cynyddu symudedd, lliniaru yn erbyn cydafiacheddau, gwella ansawdd bywyd ac arwain at lai o atgyfeiriadau i ysbytai.

Ystyriwch:

  1. Archwilio eich cleifion RA i weld a gynigiwyd cynllun atgyfeirio ymarfer corff iddynt a/neu a gynigiwyd rhaglen gwympo i unrhyw glaf sydd wedi cwympo.
  2. Wrth ddiagnosio, rhoi cyngor ynghylch pwysigrwydd y math yma o ffordd o fyw er eu lles eu hunain.
  3. Atgyfeirio i gael ffisiotherapi er mwyn cryfhau cyhyrau yn gynnar mewn perthynas â’r cyflyrau yma.

Buddion i feddygon teulu a thimau: Llai o gostau cyffuriau, llai o dderbyniadau, apwyntiadau ac ymweliadau.

Gwefan defnyddiol i weithwyr iechyd proffesiynol: Mae gan Gymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion adran wybodaeth ragorol ar gyfer meddygon teulu yn cynnwys ymarferion defnyddiol. 

Diweddarwyd Medi 2019

Pennod 8 - Iechyd Cyhyrysgerbydol - Taflen ffeithiau- lawrlwytho

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Mae'r taflenni ffeithiau yma wedi eu cymeradwyo gan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BAsem) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau