Pennod 9 - Anhwylderau Niwrolegol

Sglerosis ymledol (MS)

Mae yna amrywiaeth mawr o symptomau o un person i’r llall sydd yn dioddef ag MS, a’r rhan fwyaf yn datblygu anabledd cynyddol dros amser. Hefyd, mae’n beth cyffredin i gleifion ag MS osgoi gweithgaredd corfforol, er mwyn cyfyngu ar flinder ac osgoi codi tymheredd y corff.

Nid yw gweithgaredd corfforol yn atal MS. Ond, mae gweithgaredd corfforol yn cael ei argymell oherwydd gall wella ffwythiant cyhyrau, ffitrwydd aerobig, symudedd ac ansawdd bywyd. 1,2

Mae cleifion ag MS yn aml yn dioddef blined difrifol ac y aml ni fyddant yn gallu goddef gwres. Felly  mae’n beth cyffredin i gleifion ag MS osgoi gweithgaredd corfforol, er mwyn cyfyngu ar eu symptomau.

Er mwyn ymdopi â blinder, argymhellir ymarfer corff graddol a gydag amser gall y blinder leihau.3 Ar gyfer anoddefiad gwres, dangoswyd bod cawod lugoer ar ôl ymarfer corff neu siwt oeri yn helpu tra bod tymheru aer a het gwarchod rhag yr haul yn gallu helpu hefyd.4

Mae canllawiau NICE CG 1865 ar sglerosis ymledol mewn oedolion - rheoli yn argymell:

Ffactorau risg addasadwy mewn perthynas â llithro’n ôl neu gynnydd mewn MS - Ymarfer corff

  • Annog pobl ag MS i wneud ymarfer corff. Eu cynghori y gall ymarfer corff rheolaidd greu effeithiau buddiol ar eu MS ac nad yw’n arwain at unrhyw effeithiau niweidiol ar eu MS

Rheoli symptomau MS ac adsefydlu:

  • Ystyriwch raglenni ymarfer corff dan oruchwyliaeth yn cynnwys hyfforddiant gwrthiant cynyddol cymedrol ac ymarfer corff aerobig er mwyn trin pobl ag MS sydd â phroblemau symudedd a/neu flinder
  • Cynghori pobl y gall  ymarferion cydbwysedd ac ymestyn, yn cynnwys ioga, fod yn fuddiol o ran trin blinder cysylltiedig ag MS
  • Helpu’r person ag MS i barhau i ymarfer corff, er enghraifft drwy eu hatgyfeirio ar gynlluniau atgyfeirio ymarfer corff

Mwy i’w ddarllen yma  

Clefyd Parkinson’s

Nid yw gweithgaredd corfforol yn atal nac yn effeithio ar gynnydd clefyd Parkinson’s. Mae’r clefyd yn cael ei nodweddu gan gynnydd araf mewn anhyblygrwydd, hypocinesia a chryndod.6 O ganlyniad i hynny, mae cleifion yn tueddu i beidio gwneud ymarfer corff, maent yn  ofni cwympo ac yn lleihau gweithgareddau dyddiol.

Erbyn hyn mae yna nifer cynyddol o astudiaethau sydd yn dangos y gall amrywiaeth o wahanol fathau o ymarfer corff neu ffisiotherapi yn ystod y camau hwyrach, gynnal a gwella symudedd, gwella ffwythiannau dyddiol a llai o risg o gwympo ac anafiadau cysylltiedig.6 Dylai ymyriadau cynnar ar ôl diagnosis er mwyn hyrwyddo gweithgaredd corfforol ganolbwyntio ar gryfder a chydbwysedd er mwyn atal cwympo yn y dyfodol.

Mae canllawiau NICE NG717 ar glefyd Parkinson’s mewn oedolion yn argymell:

  • Ffisiotherapi a gweithgaredd corfforol
  •  Ystyried atgyfeirio pobl sydd yn ystod camau cyntaf clefyd Parkinson’s at ffisiotherapydd sydd â phrofiad o glefyd Parkinson’s i gael asesiad, addysg a chyngor, yn cynnwys cyngor am weithgaredd corfforol. (2017)
  • Cynnig ffisiotherapi penodol ar gyfer clefyd Parkinson’s i bobl sydd yn dioddef problemau cydbwysedd neu ffwythiant echddygol. (2017)
  • Ystyried Techneg Alexander i bobl â chlefyd Parkinson’s sydd yn dioddef problemau cydbwysedd neu ffwythiant echddygol. (2017)

Cwympiadau:

Mwy i’w ddarllen yma

Anaf i fadruddyn y cefn

Mae anaf i fadruddyn y cefn yn difrodi’r cysylltiadau rhwng yr ymennydd a’r ardal sydd yn ddistal i’r anaf.8 Bydd hynny, yn ddibynnol ar y lefel, yn effeithio’n gymesur ar allu’r unigolyn i fod yn gorfforol actif.

Gall anaf uchel yn y madruddyn gyda tetraplegia cyflawn olygu bod y claf yn gwbl ddibynnol ar ofalwyr ac wedi ei gyfyngu i symudiadau goddefol ac ymestyn er mwyn lleihau cymhlethdodau.

Ond, ar gyfer anaf asgwrn cefn is neu anghyflawn, efallai bod yna ardaloedd o ffwythiant cyhyrysgerbydol sydd yn dal i weithio y gellir eu hymarfer. Mae hynny yn hanfodol mewn unrhyw gynllun adsefydlu, ac mae angen rhaglen ymarfer corff unigol sydd yn mynd i’r afael â sut y gellir gwella ffitrwydd aerobig, cryfder cyhyrau, cydsymudiad a chydbwysedd.8

Mae angen ffisiotherapyddion arbenigol i gynllunio, arwain a rheoli’r broses hon a dylid annog cleifion a gofalwyr i barhau â’r rhaglen hyfforddiant corfforol yn yr hirdymor.

Mwy i’w ddarllen yma  

Poen

Mae gweithgaredd corfforol yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin ar gyfer trin ac adsefydlu nifer o gyflyrau poenus.

Effaith gweithgaredd corfforol ar boen yw:

  • Yn rhannol uniongyrchol drwy ryddhau endorffinau, symud y meddwl, a mwy o weithgaredd mewn ffibrau synhwyraidd nad ydynt yn trawsyrru poen.
  • Yn rhannol anuniongyrchol, drwy wella tymer, cwsg a lefelau straen, sydd yn cyfrannu at lai o boen.
  • A hynny ynghyd ag unigolyn yn gwella ei allu ffwythiannol drwy ymarfer corff.9

Er enghraifft, gyda rhaglenni ymarfer corff ar gyfer poen cefn neu osteoarthritis, bydd y claf yn aml yn gwella'r boen a lefelau gweithgaredd ffwythiannol yn sylweddol.

Mae canllawiau NICE (NG59) 10 ar boen gwaelod y cefn a seiatica mewn pobl dros 16 oed: asesu a rheoli, yn argymell:

Hunanreoli

  • Gwybodaeth am natur poen gwaelod y cefn a seiatica
  • Anogaeth i barhau â gweithgareddau normal

Ymarfer Corff

  • Ystyried rhaglen ymarfer corff mewn grŵp (biofecanyddol, aerobig, meddwl-corff neu gyfuniad o ddulliau) gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar gyfer pobl sydd yn dioddef pwl penodol neu waethygiad mewn poen cefn gyda neu heb seiatica. Ystyried anghenion, dewisiadau a gallu penodol pobl wrth ddewis y math o ymarfer corff.

Mwy i’w ddarllen yma  

Negeseuon i fynd adref: Yn ddelfrydol dylai rhaglenni ymarfer corff ar gyfer cleifion â chlefyd Parkinson gan eu hannog i ymgymryd â hyfforddiant ffitrwydd a chryfder yn ogystal â hyfforddiant cydbwysedd a chydsymud. Mae ymarfer gydag MS yn ddiogel, ond yn ddelfrydol mae angen rhaglen wedi ei phersonoli gan ymarferydd proffesiynol.

Ystyriwch: Atgyfeirio’n gynnar ar gynlluniau atgyfeirio ymarfer corff ar gyfer cyflwr MS a Parkinson a ffisiotherapi ar gyfer anaf i’r asgwrn cefn a phoen. Ar gyfer nifer o broblemau cyhyrysgerbydol sydd yn gysylltiedig â’r asgwrn cefn bydd atgyfeirio cynnar yn lleihau hyd yr amser y byddir yn dioddef a hefyd y risg o niwed parhaol.

Buddion i weithwyr iechyd proffesiynol: Llai o gostau analgesia, llai o gwympiadau gan gleifion ac ymweliadau ac atgyfeiriadau cysylltiedig.

Cymorth: ewch i wefan Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion (CSP) i weld y dudalen cyflyrau ar gyfer MS, Cwympiadau a Parkinson’s yma

Cyfeiriwch gleifion at: Tudalen cyngor gwefan Cymdeithas MS ar ymarfer corff yma

Understanding and managing pain: information for patients : Mae gan daflen Cymdeithas Poen Prydain ddisgrifiad da o boen ac ymarfer corff t17-19 yn cynnwys diagram o gylch poen ac esboniadau synhwyrol iawn er mwyn helpu i ddeall poen.

Diweddarwyd Medi 2019

Pennod 9 - Anhwylderau Niwrolegol - Taflen ffeithiau- lawrlwytho

Bellach yn rhan o raglen glinigol yr RCGP ar weithgaredd corfforol a ffordd o fyw

Cyfeiriadau: Gellir eu gweld ym mhennod 18

Mae'r taflenni ffeithiau yma wedi eu cymeradwyo gan Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol (RCGP), Cymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BAsem) a’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN).

     


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau