Dull Atal Cenhedlu Hormonaidd Cyfunol

Pils Atal Cenhedlu

Cefndir

Mae Dull Atal Cenhedlu Hormonaidd Cyfunol (CHC) wedi bod mewn bodolaeth ers bron i 60 mlynedd, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan filiynau o fenywod dros y byd i gyd.  Mae’n ddull atal cenhedlu hynod effeithiol, 99% effeithiol os yw’n cael ei ddefnyddio’n iawn, ond yn ymarferol mae’r gyfradd beichiogrwydd yn 9% yn ystod y flwyddyn gyntaf o’i ddefnyddio.  Yn y DU, mae’n cael ei bresgripsiynu ar ffurf pilsen fel arfer (dull atal cenhedlu cyfunol drwy’r geg, COC) ac mae’n cynnwys </= 35ug estrogen ethinylestradiol synthetig wedi’i gyfuno â progestin synthetig. Mae ar gael hefyd ar ffurf clwt neu fodrwy.  Mae’r canllawiau sy'n dilyn yn cyfeirio at ddefnyddio COC dos isel (</=35ug ethinylestradiol).

Camau Gweithredu

Mae COC yn atal ofyliad drwy weithredu ar yr echelin hypothalamig-pitẅidol-ofarïaidd drwy atal LH a FSH.  Gall y progestin hefyd effeithio ar fwcws serfigol, lluosogiad endometriaidd a symudoldeb tiwbol.

Mathau

Mae’r rhan fwyaf o COC a ddefnyddir yn rheolaidd yn cynnwys </= 35ug ethinylestradiol a progestin.  Mae sawl math o brogestin ar gael, ac maen nhw wedi’u rhannu'n fras yn brogestinau cenhedlaeth hŷn a mwy newydd.  Mae’r progestinau hŷn yn cynnwys norethisterone a levonorgestrel; mae’r progestinau mwy newydd yn cynnwys desogestrel, gestodene, norgestimate, drospirenone, dienogest, a nomegestrol acetate.  Mae’r progestinau mwy newydd, sydd wedi’u dylunio i gael llai o effeithiau androgenig a glucocorticoid, yn cael eu cysylltu â risg uwch o VTE (clefyd thrombo-embolig gwythiennol) ac felly nid ydynt yn cael eu hystyried fel dewis cyntaf. 

Mae’r mwyafrif o COC yn monoffasig (mae’r dos o estrogen a progestin yn gyson drwy gydol cyfnod ei ddefnyddio), ond mae rhai ohonynt yn amryw-weddol (dos amrywiol drwy gydol cylchred y bilsen).  Yn sgil y ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o brofion sydd wedi cael eu cynnal, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd i awgrymu bod unrhyw fanteision penodol yn perthyn i COC amryw-weddol o’i gymharu â COC monoffasig.  Mae'r FSRH yn argymell monoffasig yn y lle cyntaf.

Mae COC sy’n cynnwys estradiol, gyda strwythur sydd yn union yr un fath ag estrogen dynol, ar gael, ond mae'r dystiolaeth ynglŷn â’i ddiogelwch yn gyfyngedig o’i gymharu â COC gydag ethinylestradiol.

Mae CHC nad yw’n cael ei gymryd drwy’r geg yn cynnwys y clwt trawsgroenol cyfunol (CTP) a modrwy yn y wain gyfunol (CVR).  Mae’r CTP yn rhyddhau 33.9 ug EE a 203ug o norelgestromin/24 awr ar gyfartaledd, tra bo’r CVR yn rhyddhau 15ug EE a 120ug etonogestrel/24 awr.  Mae'r ddau’n cael eu cynnig i gleifion sy'n dymuno aros ar CHC ond sy’n cael anhawster ag amsugniad (e.e. cyflyrau’r coluddyn).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau