Achos pryder meddygol ar gyfer menywod ar CHC

Blwch 2: Achos pryder meddygol ar gyfer menywod ar CHC (wedi'i addasu o ganllawiau’r FSRH ar ddull atal cenhedlu hormonaidd cyfunol Chwefror 2019)

Cynghori menywod i geisio sylw meddygol os yw’r canlynol yn digwydd:

  • Poen/chwydd yng nghroth y goes
  • Colli gweithrediadau echddygol neu synhwyrol
  • Poen sydyn yn y frest/diffyg anadl/pesychu gwaed
  • Lwmp newydd yn y fron/newidiadau yn y deth
  • Meigryn newydd/awrâu newydd cyn y meigryn
  • Parhau i waedu o'r wain yn annisgwyl
Cynghori menywod efallai na fydd CHC yn briodol a thrafod gyda’r darparwr gofal Iechyd os yw'r canlynol yn digwydd:
  • Awrâu newydd cyn y meigryn
  • Pwysedd Gwaed Uchel
  • BMI Uchel (>35)
  • Meigryn
  • VTE
  • Annormaledd gwaed yn ceulo/syndrom Antiphospholipid
  • Clefyd y galon, strôc neu glefyd fasgwlaidd ymylol
  • Ffibriliad atrïaidd/cardiomyopathi
  • Canser y fron /genyn yn mwtanu BRAC
  • Tiwmor yn yr afu/cerrig y bustl symptomaidd

Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau