Cydadweithiau cyffuriau posibl & Rheolau methu pilsen ar gyfer menywod ar CHC

Blwch 3: CHC a chydadweithiau cyffuriau posibl (wedi’i addasu o https://bnf.nice.org.uk/treatment-summary/contraceptives-interactions.html)

Meddyginiaethau sy’n lleihau cryfder CHC (cyffuriau cymell ensymau)
  • Carbamazepine
  • Eslicarbazepine acetate
  • Griseofulvin
  • Nevirapine
  • Oxcarbazepine
  • Phenytoin
  • Phenobarbital
  • Primeidone
  • Rifabutin
  • Rifampicin
  • Ritonavir
  • St John's Wart
  • Topiramate
Meddyginiaethau yr effeithir arnynt drwy ddefnyddio CHC
  •  Lamotrigine (o bosibl yn lleihau trothwy trawiadau)

 

Blwch 4: Rheolau methu pilsen ar gyfer menywod ar CHC (wedi’i addasu o ganllawiau’r FSRH ynghylch defnydd anghywir o ddull atal cenhedlu hormonaidd Rhagfyr 2018)

wedi methu 1 bilsen
  • Cymryd y bilsen a fethwyd cyn gynted ag y bydd yn cofio
  • Cymryd y bilsen nesaf ar yr adeg arferol
  • Nid oes angen EC na rhagofalon ychwanegol
wedi methu 2 bilsen neu fwy

Yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl cyfnod heb gymryd pilsen:     

  • Cymryd y bilsen ddiweddaraf a fethwyd cyn gynted ag y bo modd
  • Cymryd y bilsen nesaf ar yr adeg arferol
  • Rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod
  • Os yw SI wedi digwydd ers dechrau’r cyfnod heb gymryd pilsen, ystyried EC a phrawf beichiogrwydd yn 3/52                   

Yn ystod wythnos 2 neu 3 ar ôl y cyfnod heb gymryd pilsen:

  • Cymryd y bilsen ddiweddaraf a fethwyd cyn gynted ag y bo modd
  • Cymryd y bilsen nesaf ar yr adeg arferol
  • Peidio â stopio cymryd y bilsen yn ystod wythnos 3
  • Cymryd rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod
  • Nid oes angen EC*
Hwyr yn ailddechrau cymryd CHC ar ôl cyfnod heb gymryd pilsen
  • Cymryd y bilsen a fethwyd cyn gynted ag y bydd yn cofio
  • Cymryd y bilsen nesaf ar yr adeg arferol
  • Rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod
  • Ystyried EC os yw SI wedi digwydd ers dechrau’r cyfnod heb gymryd pilsen a phrawf beichiogrwydd yn 3/52

*yn ddamcaniaethol mae hyn yn berthnasol os methwyd hyd at 7 pilsen os oedd CHC yn cael ei gymryd yn ddibynadwy cyn hynny.

Adolygiad

Dylid adolygu menywod ar CHC bob blwyddyn.  Dylai’r adolygiad dilynol hwn gynnwys y canlynol: cymhwystra meddygol, hanes cyffuriau cyfoes, cadw at y drefn a boddhad, cofnodi BP a BMI.  Mae’n bwysig hefyd ailadrodd pryd y dylid ceisio adolygiad meddygol ar frys yn ogystal ag edrych ar ddewisiadau atal cenhedlu eraill os ydynt yn awyddus i newid.  Efallai y bydd rhai practisau'n dymuno cynnal yr adolygiadau hyn heb ymgynghoriad wyneb yn wyneb.  Mae FSRH a GDG yn awgrymu ei fod yn briodol presgripsiynu CHC o bell cyn belled â bod yr uchod wedi’i wirio (e.e. gan ddefnyddio rhestr wirio a gwblhawyd ei hun).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau