Manteision, Sgil-effeithiau & Risgiau

Pils, cylch gwyn a chlytia ar y fraich

Manteision

Gall defnyddio CHC helpu â gorfislif a chrampiau mislifol.  Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu ei fod yn gallu helpu â syndrom cyn mislif.  Mae’n lleihau’r risg i endometriosis ddychwelyd, yn enwedig os parheir i gymryd y bilsen heb egwyl (PFI), ac mae’n helpu i fynd i’r afael ag acne, gorflewogrwydd ac anghysondebau mislif yn ymwneud â PCOS.  Mae’n ymddangos fel petai ei ddefnyddio'n lleihau’r risg o ganser endometriaidd, ofarïaidd a’r colon.

Sgil-effeithiau

Mae gwaedu cychwynnol yn broblem gymharol gyffredin i’r rhai sy'n defnyddio CHC ac amcangyfrifir ei fod yn 10-18%.  Fe ymddengys ei fod yn digwydd mwy yn ystod y 3 mis cyntaf, a gallai setlo.  I’r menywod sy'n parhau i gael problemau â gwaedu afreolaidd, mae ymchwil yn awgrymu y gallai newid i brogestin ail/trydedd genhedlaeth, cynyddu'r dos estrogen (e.e. 30mg) neu ddilyn trefn estynedig/parhaus helpu.

Mae'r sgil-effeithiau eraill a briodolir i CHC yn cynnwys cur pen, cyfog, pendro, bol chwyddedig, tynerwch yn y bronnau ac amharu ar hwyliau (er bod y treialon wedi dangos cyfraddau tebyg ymhlith plaseboau).  Os yw menyw’n cael ei phoeni gan y symptomau hyn, gallai newid y math o CHC (progestin gwahanol, estrogen is) helpu. 

I’r menywod sy'n dioddef sgil-effeithiau yn ystod eu cyfnod heb hormon (HFI), gallai lleihau amlder neu hyd yr HFI helpu.  Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd: 1) cymryd pacedi un ar ôl y llall am 3 mis cyn HFI, 2) lleihau HFI i 4 diwrnod yn hytrach na’r cyfnod traddodiadol o 7 diwrnod, 3) defnydd parhaus heb egwyl neu 4) trefn wedi'i theilwra o ddefnydd parhaus (o leiaf 21 diwrnod) nes bydd gwaedu cychwynnol ac yna cael HFI am 4 i 7 diwrnod.  Mae hyn yn berthnasol i bob CHC, gan gynnwys modrwy yn y wain a chlwt.

Risgiau

Mae defnyddio CHC yn cynyddu’r risg o thromboemboledd gwythiennol (VTE) cymaint â 3-3.5 gwaith.  Mae’r risg hwn ar ei uchaf pan fydd yn dechrau cael ei gymryd neu pan fydd yn ailddechrau cael ei gymryd, felly fe ddylid osgoi stopio ac ailddechrau'n aml. Mae'r risg eithaf, fodd bynnag, yn isel, ac amcangyfrifir ei fod rhwng 5 a 12 am bob 10,000 o fenywod y flwyddyn sy’n cymryd CHC o’i gymharu â 2 am bob 10,000 o’r rhai sydd ddim yn defnyddio CHC y flwyddyn. Bydd 1% o’r rhain yn arwain at farwolaeth.  Dylid ystyried priodoleddau a chyflyrau meddygol sy’n cynyddu risg menyw (megis oedran uwch, BMI uwch, cyflwr ôl-enedigol a thromboffilia) cyn dechrau cymryd CHC.  Mae’r rhain wedi’u nodi yng nghanllawiau UKMEC 2016.  Mae’r math o brogestin a chryfder yr estrogen yn gallu effeithio ar risg perthynol VTE, gyda risg uwch yn perthyn i brogestinau 3edd genhedlaeth a dos uwch EE.

Gall uchdwr uwch gynyddu erythropoiesis a gan hynny gynyddu’r risg o VTE.  Argymhellir y dylai menywod sy'n treulio mwy nag wythnos ar lefel uwch na 4500m ystyried dull atal cenhedlu arall.  Yn sgil y risg damcaniaethol bod risg uwch o VTE ymysg defnyddwyr CHC ar hediadau pellter hir, argymhellir bod menywod yn aros yn segur cyn lleied â phosibl ac yn ymestyn eu coesau/cerdded gymaint ag y bo modd yn ystod yr hediad.  Dydy GDG ddim yn argymell gwrth-blatennau na sanau cywasgiad ar hyn o bryd.  Dylid rhoi’r gorau i gymryd CHC 4 wythnos cyn cael unrhyw lawdriniaeth fawr neu gyfnod estynedig disgwyliedig o ddisymudedd er mwyn lleihau’r risg o VTE.  Oherwydd newidiadau metabolig ac mewn pwysau adeg beichiogrwydd, mae'r risg o VTE hefyd yn cynyddu yn ystod y cyfnod ôl-enedigol.  I fenywod o fewn 3 wythnos o roi genedigaeth, y peth gorau yw osgoi CHC.  I fenywod dros 6 wythnos i’r cyfnod ôl-enedigol, yn gyffredinol mae’n ddiogel presgripsiynu (UKMEC2 os ydynt yn bwydo ar y fron).  I fenywod rhwng 3 – 6 wythnos i’r cyfnod ôl-enedigol, mae diogelwch yn dibynnu ar ffactorau risg eraill ar gyfer VTE (gan gynnwys bwydo ar y fron, gweler y manylion llawn ym meini prawf UKMEC).

Mae defnyddio CHC yn cynyddu’r risg o gnawdnychiant myocardaidd a strôc ond mae’r risg eithaf yn parhau i fod yn isel iawn (1 a 2.1 am bob 10,000 blwyddyn menyw o CHC yn y drefn honno).  Mae’r risg yn cynyddu wrth i’r dos o estrogen godi.  Mae’n ymddangos nad oes gwahaniaeth mewn risg o glefyd rhydwelïol rhwng grwpiau progestin gwahanol.  Dylai menywod â ffactorau risg sylweddol ar gyfer clefyd rhydwelïol osgoi defnyddio CHC.  Mae UKMEC 2016 yn rhybuddio/awgrymu nad yw’n cael ei ddefnyddio gan fenywod dros 35 oed, sy'n ysmygu, sy’n dioddef gorbwysedd, gyda diabetes, a'r rhai â dyslipidaemia.  Mae menywod sy’n dioddef meigryn gydag awra (UKMEC 4), neu feigryn sydd newydd ddechrau (UKMEC3) hefyd yn cael eu cynghori i osgoi defnyddio CHC.  Nid yw’n ddoeth i fenywod barhau i gymryd CHC ar ôl 50 oed yn sgil y risg uwch.

Mae defnyddio CHC yn cynyddu’r risg o ganser y fron (risg perthynol o 1.19).  Mae'r risg hwn yn gostwng yn araf dros amser ar ôl rhoi’r gorau i ddefnyddio CHC (ac yn ôl i’r lefel gychwynnol o fewn 5 mlynedd o stopio).  I fenywod gyda genynnau BRCA mae’n debygol y bydd mymryn o gynnydd yn y risg o ganser y fron wrth ddefnyddio CHC; yn baradocsaidd bydd defnyddio CHC yn lleihau eu risg o ganser yr ofari.  Mae mymryn o gynnydd yn y risg o ganser ceg y groth (risg perthynol o 1.89) ar gyfer y rhai sy’n defnyddio CHC am 5 mlynedd neu fwy.  Mae’r risg hwn yn dychwelyd i’r lefel gychwynnol 10 mlynedd ar ôl rhoi’r gorau i gymryd CHC.

Fel sawl dull atal cenhedlu hormonaidd, gallai cymhellwyr ensymau effeithio ar fetaboledd CHC ac felly ni ddylid ei gyd-bresgripsiynu (gweler Blwch 3 am fanylion cydadweithiau cyffuriau).


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau