Ymgynghoriad Cychwynnol
Cyn presgripsiynu CHC, dylai’r clinigwr wneud yn siŵr bod y fenyw’n gymwys yn feddygol. Mae gan UKMEC feini prawf llawn ar gyfer cymhwystra meddygol, ond y meysydd hanfodol i’w hystyried yw:
- Thromboffilia neu hanes blaenorol o VTE
- Clefyd cardiofasgwlaidd, clefyd serebro-fasgwlaidd a chlefyd fasgwlaidd ymylol
- Ffactorau risg ychwanegol ar gyfer yr uchod (e.e. ysmygu, gordewdra, pwysedd gwaed uchel, meigryn, wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, clefyd falfaidd y galon, hyperlipidaemia, ansymudedd)
- Bwydo ar y fron
- Clefyd yr afu
- Canser y fron/rhagdueddiad genetig
- Meddyginiaeth sy'n effeithio ar fetaboledd CHC
- Camamsugniad (e.e. syndrom coluddyn byr, IBD, llawdriniaeth fariatrig)
Dylid sicrhau bod pwysedd gwaed y claf wedi cael ei gymryd yn ddiweddar, ynghyd â’i BMI. Mae pwysedd gwaed uchel a BMI dros 35 yn UKMEC 3.
Ar ôl sicrhau cymhwystra meddygol, dylai’r clinigwr drafod effeithiolrwydd (a ffactorau sy'n effeithio ar hynny), risgiau i iechyd, sgil-effeithiau a manteision iechyd cymryd CHC. Bydd y mwyafrif o fenywod yn dewis cymryd CHC drwy’r geg, ac mae’r FSRH yn cynghori presgripsiynu </= 30ug EE gyda levonorgesterol neu norethisterone fel dewis cyntaf.
Dylai’r clinigwr drafod cymryd y bilsen yn y ffordd safonol, gydag egwyl, yn ogystal â threfniadau wedi’u teilwra/cymryd heb egwyl.
Dylai’r ymgynghoriad hefyd gynnwys beth i’w wneud os yw’r fenyw’n anghofio cymryd pilsen neu os oes posibilrwydd bod y pils wedi’u camamsugno (e.e. D+V) a rhoi iddi restr o ddiagnosisau newydd a fydd yn golygu bod parhau i ddefnyddio CHC yn annoeth (gweler Blychau 1 a 2).
Unwaith y bydd yn fodlon, gall y sawl sy’n presgripsiynu roi hyd at 12 mis o CHC yn yr ymgynghoriad cyntaf (ar wahân i’r fodrwy sydd bob 3 mis).