Dull Atal Cenhedlu yn y Groth

coil ac wyneb benywaidd aneglur

Cefndir

Dull Atal Cenhedlu yn y Groth (IUC) yw un o’r dulliau atal cenhedlu mwyaf dibynadwy, ac mae wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio rhwng 3 a 10 mlynedd.  Mae'r ddyfais gopr yn y groth (Cu-IUD) yn un sydd heb fod yn hormonaidd, ac mae ei hoes yn amrywio rhwng 5 – 10 mlynedd.  Mae iddi ganol plastig wedi’i orchuddio â chopr sy’n atal symudoldeb sberm ac ofa, yn ogystal ag effeithio fymryn ar fwcws serfigol a’r impiad ei hun.  Mae’n un o’r dulliau mwyaf effeithiol sydd ar gael.  Mae gan y TCu380A gyfradd feichiogrwydd gynyddol o ddim ond 2.2% ar ôl 12 mlynedd (2 flynedd ar ôl cyfnod y drwydded).

Coil plastig sy’n cynnwys progestin levonorgestrel yw’r LNG-IUS.  Ar hyn o bryd mae tri chryfder ar gael yn y DU.  Mae Mirena a Levosert yn cynnwys 52mg o LNG ac mae wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio am 5 mlynedd (neu ar ôl 45 oed tan y menopos).  Mae Jaydess yn cynnwys dim ond 13.5mg o LNG ac mae wedi’i drwyddedu am 3 blynedd.  Mae Kyleena, sy'n gymharol newydd ar y farchnad, yn cynnwys 19.5mg o LNG, ac yn yr un modd â Mirena, mae wedi’i drwyddedu am 5 mlynedd.   Mae LNG-IUS yn gweithio’n bennaf drwy deneuo’r endometriwm, ac felly'n atal mewnblaniad.  Maen nhw hefyd yn cael peth effaith ar fwcws serfigol, ac mae’n atal ofyliad mewn tua chwarter o fenywod.

Mae’r cyfraddau atal cenhedlu yn debyg mewn Cu-IUDs a LNG-IUS.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau