Crynodeb o Ymgynghoriad/triniaeth

Blwch 8: Crynodeb o Ymgynghoriad/triniaeth Dull Atal Cenhedlu yn y Groth

Trafod yr holl ddewisiadau atal cenhedlu
Cymhwystra meddygol

Ar gyfer pob IUC osgoi

  • 48 awr - 4 wythnos ar ôl rhoi genedigaeth
  • Madredd ar ôl rhoi genedigaeth
  • Gwaedu o’r wain heb esboniad
  • Canser ceg y groth
  • Ceudod y groth wedi’i ystumio (gan gynnwys ffibroidau mawr)
  • PID/clamydia/gonorea/TB pelfig ar hyn o bryd
  • Cyfrifiad CD4 <200
  • Syndrom LQT
 

Ar gyfer LNG-IUS yn unig osgoi

  • Canser y fron
  • Clefyd difrifol ar yr afu
  • Datblygu CVD/strôc wrth ddefnyddio
Trafod sgil-effeithiau posibl
  • Newid mewn patrymau gwaedu (yn aml yn barhaus)
  • Heintiau gweiniol rheolaidd
  • Cur pen
  • Acne
  • Libido is
  • Crebachiad croen
Sicrhau nad yw’n feichiog, ystyried sgrinio am glamydia
Esbonio’r drefn, gan gynnwys y risgiau
Caniatâd
Rhagofalon ychwanegol angenrheidiol

Nid oes angen ar gyfer Cu-IUC

Ar gyfer LNG-IUC

  • Nid oes angen os yw hi’n dechrau o fewn 7 diwrnod o’r cylchred
  • Ar ôl 7 diwrnod, rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod
  • Os yw’n newid o POP, CHC neu Cu-IUC, rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod*
Mewnosod a gwneud cofnod
  • I'w osod gan weithwyr proffesiynol hyfforddedig yn unig
  • Archwiliad pelfig a defnyddio’r gefeiliau
  • Defnyddio’r chwiliedydd yn gyntaf, yna mewnosod/gollwng y coil
  • Archwilio’r bibell a thorri llinynnau 2-3cm
  • Dylid cofnodi rhif y swp a’r dyddiad y daw i ben
Cyngor dilynol
  • Monitro’r llinynnau
  • Rhoi gwybod am arwyddion haint/rhwygo/colli’r coil
  • Cynnig sesiwn ddilynol yn ystod wythnos 6 os yw’r fenyw’n dymuno (yn gynharach na hynny os oes pryder)
  • Dyddiad pryd bydd angen newid yr IUC

*Dim ond i wir gylchredau mae’r rheol hyd at ddiwrnod 7 yn berthnasol.  Nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol i fenywod ar CHC.  I fenywod ar CHC, rhaid cymryd rhagofalon ychwanegol am 7 diwrnod os yw’n cael ei roi ar ddiwrnod 3 yr HFI ac yn ystod yr wythnos gyntaf o gymryd CHC.  Os rhoddir y LNG-IUS yn ystod wythnos 2 neu 3 nid oes angen cymryd unrhyw ragofalon ychwanegol. 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau