Manteision, Sgil-effeithiau & Risgiau

Manteision

Oherwydd yr effeithiau a gaiff ar yr endometriwm, mae 52mg LNG-IUS wedi’i drwyddedu i ddiogelu’r endometriwm mewn menywod sy'n cymryd therapi amnewid estrogen am 4 blynedd (mae’r FSRH yn cefnogi 5 mlynedd, tu allan i drwydded ar gyfer ychwanegiad HRT), ac fel dewis triniaeth effeithiol ar gyfer gwaed mislif trwm.  Nid yw'r dos is o LNG-IUS wedi’i drwyddedu ar gyfer trin gorfislif neu i ddiogelu’r endometriwm ond mae’n bosibl iddo gael rhywfaint o effaith.

Efallai hefyd bod gan 52mg LNG-IUS rôl amddiffynnol yn erbyn canser endometriaidd a chanser ceg y groth.  Efallai ei fod hefyd yn diogelu rhag canser endometriaidd a chanser yr ofari gyda’r Cu-IUD.

 

Risgiau

Mae’r astudiaethau wedi dangos nad oes gwahaniaethau sylweddol i BMD mewn menywod sy’n defnyddio IUC a rheolaethau.

Er bod y data yn gyfyngedig, nid oes tystiolaeth i awgrymu bod defnyddio LNG-IUS yn cynyddu’r risg o VTE neu MI.  Fodd bynnag, i fenywod sy’n datblygu clefyd thrombo-embolig wrth ddefnyddio LNG-IUS, mae UKMEC yn argymell bod y risgiau’n fwy na’r manteision (yn unol â POC eraill).  I fenywod â sawl ffactor risg ar gyfer clefyd cardiofasgwlaidd, strôc, clefyd isgemia'r galon nawr neu yn y gorffennol, neu VTE nawr neu yn y gorffennol, nid oes cyfyngiad ar ddefnyddio’r Cu-IUD.

Mae’r ymchwil i ddiogelwch LNG-IUS a'r risg o ganser y fron yn gyfyngedig.  Mae awgrym gwan y gallai gael effaith andwyol, ac felly mae UKMEC wedi cynghori ei fod yn ddewis annerbyniol i fenywod â chanser y fron ar hyn o bryd (UKMEC4) ac mae'r risgiau’n fwy na’r manteision i fenywod â hanes o ganser y fron (UKMEC3), waeth beth yw'r statws o ran cymhellwyr.

Mae LNG-IUS yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr achosion o godennau ofarïaidd er bod y rhain yn anfalaen ac yn aml yn diflannu ohonynt eu hunain.  Fe ymddengys bod hyn yn dibynnu ar y dos ac mae’n fwy amlwg gyda 52mg yn hytrach na 19.5 a 13mg LNG-IUS.  Nid yw’r IUC wedi’i gysylltu â risg uwch o ganser yr ofari.

Mae'r risg eithaf o feichiogrwydd ectopig yn isel gydag IUC, ond os yw’r fenyw’n beichiogi mae tueddiad uwch iddo fod yn ectopig (hyd at 50% mewn rhai astudiaethau).  Ar gyfer unrhyw brawf beichiogrwydd positif wrth ddefnyddio IUC rhaid trefnu uwchsain pelfig ar frys i sicrhau nad yw’n ectopig a gwneud y sefyllfa IUC yn fwy eglur.

Mae'r IUC wedi’i gysylltu â chynnydd mewn PID, er bod rhai astudiaethau’n awgrymu cyfraddau tebyg o PID â mathau eraill o ddulliau atal cenhedlu.  Mae’n parhau i fod yn bwysig sgrinio’r menywod sydd â’r risg fwyaf cyn gosod y coil.   Mae poen pelfig cronig yn llawer iawn mwy cyffredin, fodd bynnag, ac mae tua thraean o ferched yn dweud mai dyna'r rheswm pam eu bod am dynnu’r coil yn fuan.

Allwthiad: amcangyfrifir y bydd 1 o bob 20 yn disgyn allan, fel arfer yn ystod y 3 mis cyntaf.

Er bod y broses o’i osod yn cynnwys risg o rwygo, isel iawn yw’r nifer o achosion o hyd (amcangyfrifir ei fod yn 2 o bob 1000). 

Mae’r data cyfredol yn awgrymu y bydd y fenyw'n ffrwythloni eto ar ôl bod ar yr IUC, o fewn cyfnod sy’n debyg i ddulliau atal cenhedlu drwy’r geg a dulliau rhwystro.

 

Sgil-effeithiau

Mae newid mewn patrymau gwaedu yn gyffredin gyda NG-IUS a Cu-IUD.  Ond bydd mwy o fenywod ar 52mg LNG-IUS yn cael amenorhea dros amser o'i gymharu â’r Cu-IUD, a bydd rhai ohonynt yn gwaedu’n amlach ac am gyfnodau estynedig.  Gall Cu-IUD achosi gorfislif, yn enwedig yn ystod y misoedd cyntaf.  Mae'r cyfraddau terfynu ar gyfer 52mg LNG-IUS a Cu-IUD yn debyg.  Mae rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu y bydd patrymau gwaedu ym mhob IUC yn gwella/setlo gydag amser ar ôl ei fewnosod, ond mae’n parhau i fod yn un o’r rhesymau mwyaf cyffredin dros ei dynnu, gyda 20% o fenywod yn cwyno ynghylch gwaedu afreolaidd neu drwm ar ôl blwyddyn 1. 

Gall heintiau gweiniol, bacterial vaginosis a haint candida rheolaidd fod yn broblem, yn enwedig gyda Cu-IUD, a dylid trafod rhoi’r gorau i’w gymryd gyda’r claf os ydi hyn yn digwydd.

Mae rhai menywod yn cael sgil-effeithiau hormonaidd fel acne, cur pen, libido is, ennill pwysau, tynerwch yn y bronnau a newidiadau mewn hwyliau, ond mae’r cyfraddau terfynu oherwydd sgil-effeithiau’n debyg ar gyfer Cu-IUD a LNG-IUS.

Gall y broses mewnosod ei hun fod yn boenus i’r fenyw, a bydd rhai yn gweld adwaith fasofagol, bradycardia neu arhythmia arall.  Er y bydd hyn yn cael ei ddatrys yn y mwyafrif o fenywod drwy ddefnyddio mesurau adfer syml, mewn ambell i achos bydd y bradycardia yn parhau ac efallai y bydd angen iv/im atropin.


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau