Mewnosod

Dim ond gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ddylai osod POIm ac sy'n dal Llythyr Cymhwystra mewn Technegau Impio Dull Atal Cenhedlu Isgroenol (LoC SDI) y FSRH, neu sydd wedi ennill cymwyseddau cyfatebol cydnabyddedig, ac sy'n cynnal eu sgiliau yn unol â chanllawiau'r FSRH.  

 Adeg mewnosod, dylai’r gweithiwr proffesiynol gofal iechyd fod yn eithaf siŵr nad yw'r fenyw’n feichiog (gallai hyn olygu gwneud prawf beichiogrwydd os oes unrhyw amheuaeth, ac eto 3 wythnos ar ôl yr episod diwethaf o gyfathrach rywiol heb ddiogelwch).  Os yw’n cael ei roi ar ôl Diwrnod 5 o gylchred y fenyw neu ar ôl symud o CHC/IUC/POP, dylid ei chynghori i ddefnyddio rhagofalon ychwanegol. 

Cyn ei fewnosod, dylid cynghori'r fenyw yn llawn ynghylch y drefn ar gyfer ei osod, gan gynnwys y canlyniadau andwyol posibl (methu ei osod, ei osod yn rhy ddwfn, haint, niwed i nerf) yn ogystal â'r sgil-effeithiau disgwyliedig (yn enwedig gwaedu annisgwyl).  Rhaid cael caniatâd.  

Dylid gosod y POI yn y bôn braich, 8-10cm yn uwch na’r medial epicondyle dan amodau diheintiedig.  Dylai’r gweithiwr gofal iechyd a’r claf deimlo’r impiad a osodwyd ar ddiwedd y driniaeth.  Dylid gadael gorchudd a rhwymyn di-haint arno am o leiaf 24 awr ar ôl ei fewnosod. 

Nid oes angen galw menywod gyda POIm yn ôl nes bydd angen mewnosod yr impiad nesaf. Fodd bynnag, dylid annog menywod i ddod yn ôl os nad ydynt yn gallu teimlo’r impiad, os ydynt yn sylwi unrhyw newidiadau i siâp yr impiad/mae’n torri, neu os oes unrhyw adweithiau i'r croen neu boen yn agos at yr impiad.  Dylent hefyd geisio cyngor meddygol os ydynt yn dechrau unrhyw feddyginiaeth newydd neu'n datblygu unrhyw broblem feddygol newydd a allai effeithio ar yr impiad. 

 


Previous

Next

Eich preifatrwydd

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau, dylech dderbyn y rhain fel y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy.

I ddarganfod mwy, darllen ein polisi preifatrwydd a pholisi cwcis.

Rheoli dewisiadau